Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. LXXXIV.] RHAGFYR, 1853. [Llyfr VII. ŵróiiüta o ŵljBlnflîtijíut. DUW YN MEDDWL AM EI BOBL. Pregeth gan y Parch. "William Jay. "Oud yr wyf fi yu dlawd ac yn angueaus; eto yr Arglwydd a feddwl am danaf." Psalm xl. 17. Mae by.vyd cristion yn un tra chyf- newidiol. Os dy wedir am eraill, " Am nad oes gyfhewidiau iddynt, ain hyuy nid ofnant Dduw," gall cfe ddywedyd gyda Job, "Cyfnewidiau a rhyfel sydd i'rn herbyn." Pa mor ddeniadol bynag y gall y byd liwn ymddaugos i'r rhai hyny y mae eu tueddfryd yu gydnaws ag ef, a'r rhai y mae eu rhau ynddo, y mae efe yn teimlo mai nid yma y mae ei orphwysfa. Y mae yu alltud ac yn ymdeithydd, fel yr oedd ei holl dadau ; ac y mae tymmorau pau ei clywir yn ocheneidio, "G wae íi fy mod y n pres wylio yn Mesech, yn cyfanneddu yn mhebyll Cedar, 0 na bùi i mi adenydd fel col- omen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gor- phwyswn." Ond nid ydym i edrych yn unig ar ochr ddu ei sefyllfa breseuuol. Y mae ochr arall iddi. O dan ei holl au- fantaision a'i brofedigaethau, mae Duw wedi rhoddi iddo " ddyddanwch tragy- wyddol, a gobaith da trwy ras." Er ei fod yn filwr, y mae yn ymdrechu hardd- deg ymdrech y flýdd, ac nid yw yu rhy- fela ar ei draul ei hun. Er ei fod yu ddyeithr a phererin, y mae iddo letty- au a chynnaliaethau ar hyd y ffordd. Dyrna ei arwyddlun—perth yn llosgi yn dâu, ac heb ei difa. Dyma ei ar- wyddair—" Ymhob peth yr fm yn SYS- tuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gynghor, ond nid yn ddi- obaith ; yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein dyfetha." Dyma ei brof- iad—"Yr wyf fí. yn dlawd ac yn ang- Cyfres Newydd. henus, eto yr Arglwydd a feddwl am danaf." Byddai yn gymhendod ynom wrthod y rhaniadau a geir yn naturiol yn y geiriau hyu. Maent yn cynnwys, I. Sef- yllfa isel. Ac yn II. Grediniaeth dded- wydd. í. Cyflwr isel : "Yr wyf fì yn dlawd ac yn anghenus." Gall dyn í'oì yn y cyfryw sefyllfa— yn ysbrydel—yn brofiadol—yn gym- hariaethol—ac yn dymmorol. Mae pob dyu wrth natur yn dlawd ac yu anghenus o ran ei gyflwr ysbryd- ol. Yn dra phriodol y gelwir pechod 3rn gwymp ; y mae wedi ein darostwug i " isel radd." Alltudiodd ni o baradwys ; dyosgodd ni o'n cy&awnder a'n nerth gwreiddiol; yspeiliodd ni o ddelw, ffafr, a phresenuoldeb Duw; ni adawodd i ni ddimteilyngdod, dim gobaith—dim ond "rhyw ddysgwyl ofnadwy am farnedig- aeth ac angerdd tân i'n difa."—Dyna a olygir genym wrth fod yn dlawd ac yn anghenus ysbrydoL. Ond nid yn hawdd y sefydlir yn y meddwl argyhoeddiad o'n cyflwr natur- iol; ac fclly y mae llawer yn dywedyd, fel y Laodiceaid, " Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisieu dim ;" ac ni wyddant eu bod yn dru- ain, yn resynol, yn dlodion, ac yn ddeillion, ac yn noethion. Ond y mae holl ddeiliaid dwyfol ras yn gydna- byddus â'u sefyllfa. Mae yr Ysbryd Glâu wedi eu hargyhoeddi o bechod, a'u dwyu i ymddarostwng ger broa l!