Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif. IXXXIII. TACHWEDD, 1853. [Llyfr VII. MR. A MR3. JOHN JONE3, DOLGELLAU. [Bu raid i ni dalfyru llawer ar y cofiaiut canlynol, a gadael allan amryw o sylwadau buddiol o eiddo eu hysgrifenwyr, er mwyn eu dodi ynghj'd yn y rhifyn hwn. Gan fod genym gydnabyddiaeth bersonol â Mr. a Mrs. Jones, y rhai a goíhodir yma, galìwn sierhâu nad oes dini gonnodiaith yn eu Bywgramad, ond eu bod yn dra enwog mewn rhinweddau personol, teuluaidd, ac eglwysig, ac yn esiamplau rhagorol i wỳr a gwragedd yn gyffredinol.—GoL.l IIR. JOHN JONES. Nodweddiad hyfryd ar Gristionogaeth ydyw, ei bod yn gwneuthur ei gwir wrthddrychau yn rhai gwerth eu dan- gos. Sicrhäwyd hyn yn fore. " Hi a'th ddwg di i anrhydedd os cofleidi hi;" a chadarnheir y peth drachefn yn y dy- lanwad a'r fendith a roddir ganddi ar bob modüion a gorchwyliaethau a gyfarfyddo ei heiddo. Gwelwyd er- lidigaeth.au trymion a phrofedigaethau mawrion cyn hyn yn foddion etfeithiol i ddyfod â hynodrwydd gras i'r golwg, nes y byddai y saint, yn yr ystyr hyn, yn cael eu gwneuthur "yn ddrych i'r byd, ac i'r angelion, ac i ddynion." Ond yn y cyffredin, llifeiriant gwahan- ol amgylchiadau eu hoes ydyw yr hyn a'u prawf hwy oreu, ac a'u dwg yn benaf i eglurdeb tra y byddont yn y fuchedd hon. Oherwydd hyn, pan yn adolygu hanes ac ymdeithiad rhai o " werthfawr feibion S'ion," a chan alaru o honom ar yr un pryd oblegid yr ys- gariad sydd wedi cymeryd lle rhwng llîaws o honynt erbyn hyn à nyni trwy angeu, eto gweinyddir ymgeledd a dy- ddanwch i ni wrth feddwl am yr hyn a wnaeth yr Arglwydd arnynt ac erddynt cyn eu trosglwyddo ymaith; a rhesymol ydyw dysgwyl, ond ymaros o honom yn deilwng gyda choffadwriaeth y cyfryw ag sydd fel hyn â'u "tyst yn y uefoedd," a'u "tystiolaeth yn yr uchelder," y dygir Cyfres Newydd. nimiau hefyd bob yn ronyn i'w hefel- ychu mewn ysbryd ac ymarferiad. Yr enw cysyUtiedig â'r sylwadau hyn a hir olygir gan y rhai a'i hadnabydd- ai fel un a feddiannai i raddau helaeth ar nodweddau gwir gristionogol, sef, John Jones, Crwynwr (Skinnev), Dol- gellau. Ganwyd ef mewn lle a elwir y Pandŷ, goruwch y dref hono, yn y flwyddyn 1787. Ail fab ydoedd i Hugh a Jane Jones o'r lle uchod. Nid ydoedd ei rieni yn grefyddol ddim pell- ach na bod ei fam o'i rhan ei hun, a'i thad hefyd, Rees Jones, yn rhai moes- gar a dynol eu hymddygiadau. Yr oedd ei faintioli corftbrol braidd yn llai na'r canolradd, ond eto yn berson lluniaidd a hardd. Cafodd ddysgeid- iaeth led helaeth yn more ei oes gan ei rieni, gan y bwriadent ei roddi, pan y deuai yn gyfleus, yn y Gyllidfa (Ex~ cise Offi,ce). Ond nid ymgymerodd efe â'r swydd wedi y cwbl, eithr pan yd- oedd tua 15 mlwydd oed, ymrwymodd i fod yn egwyddorwas i un Mr. David Pugh, o Ddolgellau, i ddysgu y gelfydd- yd o drin lledr gwyn. Yn y flwyddyn 1810, symudodd i Gaerwrangon (Wor- cester) i yniofyn am waith, ac arosodd yno ddwy flynedd, gan ddyfod adref am tìs neu fwy ymhob un o'r blynyddoedd i wasanaethu ei ran yn y Local Militia. Yn y flwyddyn olaf o'i arosiad yno, byddai yn myned i addoli i gapel yr Arglwyddes Huntingdon, ac ennillwyd h h