Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Ehif. LXXXII.] HYDEEF, 1853. [Llyer VII. ŵarfjẁut ii (^njreliiarfljini. YE ADDEWIDION YN NGHEIST. Crynodeb o Beegeth a draddodwyd ar 2 Corinthiaid i. 20. "Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni." Byddai yr apostol Paul yn arfer cym- eryd mantais oddiar bob petb. i fyned at Grist a mawrion bethau yr efengyl. Y mater sydd ganddo yn y fan yma yw ymesgusodi, ac amddiffyn ei hun, oher- wydd iddo clori ei gyhoeddiad, a pheidio ymweled â Chorinth, yn ol ei addewid flaenorol. Yr oedd ef wedi llwyr fwr- iadu hyn, a hyny mewn difrifwch, heb arfer dim ysgafnder. Ac nid gŵr dibris o'i air ydoedd ef; nid un i ddyweyd fel hyn, a meddwl fel arall: na, nid 'ie, 'ie ar air, a nage, nage ar weithred, oedd hi gydag ef. Ac felly nid oddiar anwadal- wch meddwl, ond oddiar ystyriaeth bwyllog yr oedd ef wedi barnu yn oreu ymattal rhag dyfod atynt yr amser hwn. Yn awr, y mae efe yn cymeryd achlysur oddiwrth hyn i ganmawl athrawiaeth yr efengyl, oherwydd ei sicrwydd diys- gog hi. Os oedd ef fel dyn yn agored i gael a rhoddi siomedigaethau, yr oedd ef fel gweinidog yr efengyl yn llefaru athrawiaeth ddisiomiant. Gallent fod yn benderfynol am y pethau a ddysg- odd ef iddynt fod y rhei'ny yn dal yn berffaith sicr. "Eithr ffyddlawn yw Duw, a'n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu iie a nage. Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gen- ym ni, sef genyf fì, a Silfanus," neu Silas, " a Thimotheus, nid ydoedd 'ie a nage." Nid oedd dim yn efengyl Crist yn ang- hyson ; dim rhyw un peth yn gwrth- ddywedyd peth arall. " Eithr ynddo ef iie ydoedd." Mae yr holl wirionedd ef- engylaidd, fel ei wrthddrych a'i ganol- bwynt mawr, yr un o hyd. Ac yna G'yfrrs Newydd. mae'r testun yn dyfod i mewn: "Obleg- id holl addewidion Duw ynddo ef yd- ynt ìe, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni." Fel pe dywedasai yr Apostol, Os yw yr addewidion yr- wyf fi, a fy mrodyr yn yr efengyl, yn eu gwneyd ynghylch ein hachosion ein hun- ain, yn rhai y gwelir weithiau anghen- rheidrwydd am amrywio oddiwrthynt, eto y mae addewidion cyfammod Duw, y rhai a bregethir genym, yn aros yn eithaf sefydlog, heb ysgog byth: nid ydynt hwy yn ymddibynu dim ar am- gylchiadau y rhai a'u cyhoeddant, ond y maent yn Nghrist yn ìe, ac ynddo ef yn amen; ac fel hyn yn eu sicrwydd diwyro, maent yn troi yn ogoniant i Dduw trwom ni. Sylwn yn I. Ar addewidion Duw yn eu gwerth a'u defnyddioldeb. II. Eu cysylltiad â Christ, yn yr hwn y maent yn ìe ac yn amen. III. Y nod a'r ffrwyth a ddynodir: "er gogoniant i Dduw trwom ni." I. Addewidion Duw : eu hansawdd GWERTHFAWR a'ü DYBENION DAIONUS. Addewid yw ymrwymiad un ar air neu ar ysgrif, i wneuthur rhyw fantais neu ddaioni i arall; addewidion Duw yw hysbj-siadau grasol ei air sanctaidd, 3rmha rai y mae yn sicrhàu y bydd iddo weinyddu bendithion i'w bobl, yn ol eu hanghenrhaid yn y fuchedd hon, ac er eu dedwyddu am dragywyddol- deb. Gallwn edrych arnynt, yn 1. Fel mynegìadau eglur o gariadaa exoyllys da JDuio. Ni fydd un addewid byth o bris uchel genym, nes i ni fyned