Skip to main content

Y DEYSORFA. Rhif. LXXXI.] MEDI, 1853. [Llyfr VII. ŵflrtljiŵait a #nji£uiflrtliim. DUW YN Y TEULU. Talfyriad o Bbegeth a draddodwyd, Tachwedd 6, 1684, ab yr achlysur o brîodas, GAN Y PARCH. MATTHEW HENRY. PSADM CÌ. 2. fown fy nhŷ." "Pa bryd y deui ataf ? Phodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o Gallwn edrych ar yr erfyniad hwn, Pa bryd y deui ataf ? wedi ei lefaru gan beraidd ganiadydd Israel; naill ai, 1. Yn ei gymeriad personol fel yr oedd yn sant. Dyma y peth mawr y mae calon rasol yn dyhëu am dano— presennoldeb Duw. Gall Duw weithiau, mewn ymddangosiad o leiaf, gilio oddi- wrth ei bobl, ac ymddwyn fel un niewn pellder oddiwrthynt; a phan y byddo efe felly, mae plentyn Duw yn gweled yr amser yn hir nes y delo ef drachefn. Nid oedd Dafydd yn ammeu dyfodiad Duw ato ; na, medd ei ffydd, er ei fod wedi myned ymaith, efe a ddaw dra- chefn; ond yr wyf yn dymuno iddo frysio dyfod. "Pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof." Psal. xiii. 1. Megys y mae y saint yn dymuno dyfod at Dduw yn y byd nesaf, felly y maent yu dy- muno i Dduw ddyfod atynt hwry yn y byd hwn. Neu, 2. Yn ei gymeriad cyhoeddus, fel llywydd; canys y mae y Salm hon wedi ei chymhwyso i dôn freninol; adn. 8. Mae rhai yn meddwl iddi gaeí ei hysgrifenu cyn ei ddyfodiad i'r or- sedd; ac yna, Pa bryd y deui, ydyw, Pa bryd y cyflawni yr addewid a rodd- aist i mi am etifeddu y deyrnas % Ac yn wir yr oedd ganddo reswm i ofyn, Pa bryd y deui ? oherwydd yr oedd yn amser hir ac yn amser goüdus gyda Dafydd rhwng ei eneiniad i'r, a'i fedd- iant o'r, deyrnas. Mae eraill yn meddwl i'r salm hon gael ei hysgrifenu ar ol iddo Cyeres Newydd. wisgo y goron; ac felly y mae yn deisyf y n ddifrifol i Dduw ddyfod ato, 1 af, I gadarn- hâu ei deyrnas iddo, ac i ddarostwng ei elynion o'i flaen, yr hyn nad allasai wneu- thur byth fel y gwnaeth, heb bresennol- deb Arglwydd y lluoedd. 2il. I'w gyn- northwyo yn nghyflawniad ei ddyled- swydd fel brenin. "Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith," medd efe yn y geiriau o'r blaen ; ac yna mae yn gofyn, "Pa bryd y deui ataf V sef, O na ddeuai anfeidrol ddoethineb i'm cynnorthwyo i fod felly. Pan ar ganol adrodd ei ben- derfyniadau wrth eraill, mae yn troi at Dduw i adrodd ei ddymuniad am ei gyn- northwy, gan wybod na byddai ei ben- derfyniadau o un gwerth heb ei help ef. 3ydd. I roddi iddo y cysur o'i holl fwyniant. Nid yw tej'rnas, na'r holl fyd, yn ddim i enaid grasol heb Dduw. Neu, 3. Yr oedd Dafydd yn llefaru y geir- iau hyn yn ei gymeriad teuluaidd, fel penteulu ; canys dywed yn y geiriau nesaf, "Ehodìaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ." Wedi i Dduw ei alw ef i dŷ o'r eiddo ei hun, mae yn deisyf yn ostyngedig ar i Dduw ddyfod a thrigo gydag ef ynddo. " Pa bryd y deni ataf 1" Yr athrawiaeth a gymerwn o'r geiriau ydyw,—Fod pre- sennoldeb Duw mewn tŷ neu deulu yn beth gwir ddymunol. Neu fel hyn,— Peth dymunol iawn, wedi i ddyn gael tŷ iddo ei hun, ydyw cael Duw i ddy- fod ato a thrigo gydag ef, ynddo. b b