Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. LXXIX.J GORPHENAF, 1853. [Llyfr VII. Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS LLOYD, ABERGELE. (Parhâd o tu dal. 184J Yr ydym wedi gadael bywgraffiad Mr. Llwyd fel hanes, heb wneyd nemawr sylwadau arno fel dyn, nac ar ei gy- meriad moesol na chrefyddol, i ddim pwrpas. Bellach ceisiwn wneyd hyny; gan fwriadu eto dwyn i mewn yn gyd- iol âg ef, y brodyr eraill a fuont ffydd- lawn a llafurus yn y wlad. Am Mr. Llwyd fel dyn, un o daldra cyffredin ydoedd, yn tueddu at ystum bwyntus, o liw gwanaidd; pen crwn, llawn, ac arno ar y cyntaf wallt o liw gwineu, ond yn frithwyn er ys blyn- yddau lawer bellach. Cafodd y frech wèn rywbryd, ac yr oedd hono wedi gadael ei hargraff yn lled ddwys ar ei wyneb, a pheri ychydig grychni un ochr i'w ruddiau, yr hwn a welid am- lycaf pan fyddai yn adeg hynod o ddif- rifol ar ei feddwl. Yr oedd yn un lluniaidd o gorff, namyn ei law ddeau, fel y sylwyd eisoes. Cerddai yn lled- nais a syth, â'i ben yn hytrach ar i fynu; ac yr oedd arno arddull foneddigaidd iawn. Ar y cyfan, un egwan o feddwl ydoedd, ac un petrusgar, gochelgar, araf, a phwyllog, ac un lled hwyrfrydig yn gwneyd ei benderfyniadau; ond wedi iddo eu gwneyd, byddai yn an- hawdd iawn ei droi. Gwelsom ef felly mewn rhai amgylchiadau y buasem yn ei feio, ond ein bod ar y pryd yn gorfod penderfynu ei fod yn gyclwybodol a di- cldichell. Ond yr oedd er hyny yn un a fedrai lywodraethu ei hun, ac a fedrai dewi. Ni welsom mo hono erioed yn mynu cael ei feddwl a'i syniad i weith- rediad heb ofalu am deimlad a barn neb arall. Pan yr elo dynion felly, y maent yn peri niwed ac anghysur Cyfres Newydp. mawr. Gwendid rhai dynion da yw hyny. Er fod ein cyfaill yn un gwas- tad ei dymherau, tyner iawn ei deimlad, a llednais hynod, nid oedd er hyny yn un mor hawdd nesâu ato, a gwneyd cyfaili o hono, âg ambell un. Bob yn ychydig y gellid hyny, yn enwedig ar y cyntaf; ond deallid yn fuan nad oedd ef yn un bradychus a diymddiried. Wedi gallu nesâu ato, ac ymarfer ychydig âg ef, yr oedd yn hawdd penderfynu mai cyfaill ydoedd, yn meddu gwir serchogrwydd a ffyddíondeb ; a byddai effaith y gyf- eillach yn wastad yn dda, ac o hir bar- hâd. Ni chlybuwyd mo hono erioed yn bradychu neb, nac yn arfer ysgafnder. Y sirioldeb mwyaf bron a welid ar ei wedd fyddai gwên. Nid ydym wrth ddywedyd hyn yn barnu mai felly y dylai pawb fod, ac mai pechod mewn dyn ydyw chwerthin,—na, nid unffurf- iaeth felly ydyw gwaith y Creawdwr; ond gall fod y coli yn drymach i'r ochr ysgafn na'r llall. Yr ydym yn dra sicr, pa fodd bynag, mai nid rhyw Pharise- aeth yn Mr. Llwyd oedd hyn; ond ei fod yn bell iawn oddiwrth hyny. Nid oedd dim yn fwy dygas, dybyg- em, yn ei olwg, na rhy w gryfder medd- wl, hunan, hyfdra, a ffraethineb mur- senaidd, na dim yn fwy anhawdd nag i'r rhai hyn gael ei fwynhâu ef. Ond medrai ddal i fynu gyfeillach ddifyr hyd foreu, lle y caffai yr hyn a gyd-dar- awai â'i dueddfryd grefyddol ei hun. Cof genym byth am ei gyfeillach pryd nad oeddym ond deunaw oed, wrth gydgerdded yn ardal y Bontuchel, a llawer gwaith wedi hyny, pan yn byw yn yr un dref. Gwelsom ddynion da,