Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. LXXVIII.J MEHEFIN, 1853. [Llyfr VII. Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS LLOYD, ABERGELE. (Parhâd o tu dal. 149J Adroddasom yn y rhifyn diweddaf am fynediad Mr. Llwyd i Birkenhead, er mwyn triniaeth feddygol; ac yr oedd yn ymddangos fod y daith a'r arosiad yno wedi dwyn gwellád iddo. Wedi i'n parchedig frawd ddychwel adref, ail ymaflodd yn araf yn ei waith crefyddol fel o'r blaen, ac yr oedd ef a'r cyfeillion yn hyderu yr hir fwynhaent eu gilydd. Ond cyn hir cymylodd yr awyr, a daeth yn dymhestl eilwaith. Bu farw ei wein- idog ffyddlawn, yr hyn oedd iddo yn loes chwerw ar lawer cj'frif. Ac wele ail arwydd drwg yn y wyneb. Yr oedd natur y cancer drwy yr ochr arall i'w wyneb, yr hyn a ofnai y meddyg Seis- nig o'r cyntaf. Y pryd hwn yr oedd ail enyniad y drwg yn angherddol o rymus, ac megys yn chwerthin am ben pob ymdrech i'w attal, gan gerdded ochr ei wyneb gyda brys, a chynnyddu yn gyflym gyflym ac yn boenus iawn. Nid allai siarad ond ychydig gan y boen, a'r cyffro a barai hyny i'r briw gwaedlyd. Ond yr oedd y tangnefedd hwnw sydd uwchlaw pob deall yn ei gadw yn hynod dduwiol ei agwedd trwy y cyfan, ac addfedrwydd i wlad well yn dirgel fagu a chryfhâu yn ei ysbryd, nes graddol, a bron hollol, leddfu ofn marwolaeth. Tueddwyd ei feddwl i ail wneyd ei lythyr cymyn, gau fod marwolaeth ei hen weinidog yn gwneyd hyny yn ang- henrheidiol. Gwnaeth ef â'i law ei hunan, gan adael y cyfau oedd ganddo, oddigerth ychydig, i gynnal Ysgoí ddyddiol yn Abergele. Yn ol ei ew- yllys, fe gawsid at addysgu plant ynghylch £500 ar ei ol. Ond am iddo Cyeres Newydd. farw cyn pen y flwyddyn ar ol ei wneyd, canfyddodd rhywrai y gwall }Tnddo ; torwyd yr ewyllys, ac aeth yr eiddo ffordd nad ewyllysiai efe. Coll- odd achos addysg yr ani'heg ; ond y mae parch yn teilyngu i goíi'adwriaeth Mr. Llwyd, pa focld bynag, am ei am- can haelfrydig. Wedi iddo wneyd ei ewyllys, anfon- odd am un o'r ddau frawd a benodasai i fod yn ymddiriedolwyr, i roddi yr ewyllys iddo i'w gadw. Pan aeth y brawd i'r tŷ, yr oedd yntau newydd fod yn plygu a selio yr ewyllys, a'r cŵyr yn gynhes ar y pryd. Meddai wrth y brawd, " A wyddoch beth oedd yn fy meddwl pan y gwelais chwi yn dyfod drwy y gate at y drws ?" "Na wn yn siŵr, Mr. Llwyd," ebe y cyfaill. " Wel," meddai yntau, "pan oeddwn yn gorphen selio hwn, daeth yr hen bennill hwnw i fy meddwl, a gallaf ei ddyweyd fel un cymhwys i mi fy hun,— ' Rwy 'n inorio tua chartre 'm Ner, Ilhwng tonau maith 'r wy'n byw, Yn ddyn heb ueges dau y sèr, Ond 'mofyu am ei Dduw.' Felly yr wyf finnau. Nid oes genyf bellach ddim i'w wneyd ond goddef, a d}-sgwyl yr amser y gwel yr Arglwydd daionus yn dda roddi i mi dragywydd- ol waredigaeth o bob poen a phechod a phla." Trymhâu a wnaeth ei afiechyd ; ang- herddol oedd y cancr, a dirfawr oedd ei boen. Nid allai siarad nemawr ddim, canys gwaedai y briw yn llif, agos ar yr ystum leiaf, ac nid amcanai