Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DífcYSORFA. Uhif. LXXVII.] MAI, 1853. [Llyfr VII. Y DIWEDDAR BAR.CH. THOMAS LLOYD, ABERGELE. (Parhâd o tu dal. 114.,) Wedi i ni ddilyn Mr. Llwyd fel hyn yn ei agwedd, ei gymhwysder, a'i lafur fel ysgolfeistr am ddeng mlynedd a deu- gain, yr ydym bellach, yn nesaf, yn ìnyned i fwrw golwg ar ei lafur yn y weinidogaeth. Gan na theithiodd ein brawd bron ddim ar hyd ei Sìr ei hunan am y pum mlynedd ar hugain olaf o'i oes, chwaeth- ach Siroedd eraill, tybia llawer mai car- trefol iawn a fu ar hyd ei oes, yr hyn sydd gamgymeriad mawr. Yn y flwydd- yn 1809 y cawn gofnodiad ei lafur yn dechreu. Cawn ef y flwyddyn hòno yn Sir Drefaldwyn, yn Nghymdeithasfa y Bala, ac yn Sir Gaernarfon, sef ar yr adegau y byddai yr ysgol yn tori. Ei sylw am y flwyddyn hon ydy w—"Trwy ryfedd ddaioni yr Arglwydd, bûm y flwyddyn hon mewn dwy Sasiwn, a phedwar Cyfarfod Misol. Pregethais 230 o weithiau; gwrandewais 133 o bregethau; bûm mewn triugain o societies, ac un ar ddeg o gyfarfodydd gweddio. Ac y mae genyf wedi y cyfan achos i gywilyddio." Yn 1810, cawn ef drwy Sir Fôn, Cymdeithasfa y Bala, a thrwy ran o Sir Feirionydd. Cafodd y flwyddyn hon ddwy Gym- deithasfa, pum Cyfarfod Misol, a 11 ef- arodd 208 o weithiau, gan wrando 104 o bregethau, a bod mewn 65 o societies. Yn 1811, nid ydym yn cael nodiadau manwl, ond dwy Gymdeithasfa, saith Gyfarfod Misol, a moddion eraill lawer iawn. Heb fanylu yn y dull hwn, wrth olrhain ei hanes o hyny hyd 1820, cawn ef drwy Siroedd Caernarfon dair gwaith, Meirionydd, a Môn; trwy Sir Aberteifi ya 1813, yn Llandrindod yn 1814, ac yn Cyfues Newydd. Lerpwl yn 1816. Yn y flwyddyn 1819, neillduwyd ef i holl waith y weinidog- aeth yn un o bump—sef y Parchedig- ion James Hughes, Lleyn; William Roberts, Clynnog ; H. Gwalchmai; ac Owen Jones, y Gelli. Ac nid oes heddyw o'r pump ond ein hen frawd o Glynnog ar gael ar faes y llafur. Gŵr diwyd a llafurus oedd ein cyf- aill, mewn darllen, myfyrdod, a gweddi. Mae lliosogrwydd ei bregethau—manyl- rwydd y cyfeiriadau ynddynt—a'r defa- yddiad priodol a wneid ganddo o'r ys- grythyrau, yn brawf diammheuol iddo fod yn ddiwyd. Llafuriodd lawer yn nhymmor cyntaf ei oes, a hyny yn rhad, ar hyd ei ardaloedd cartrefol; ac yn wir, am ddim y llafuriodd y cyfan yn ei gartref ar hyd ei fy wyd. Nid oedd hyny glod i'r brodyr yn Abergele ar y pryd, nac i frodyr unlìe arall sydd yn gadael eu gweinidogion felly. Gofalai am yr achos yn ei holl ranau. Yr oedd yn gydwybodol hefyd mewn cydweithio â'i frodyr yn ei gartref, yn y Sìr, ac yn y Cymdeithasfaoedd, er nad oedd yn gallu eu dilyn yn gyson. Bu ganddo law fawr yn ffurfiad yr Ysgol Sabbathol mewn trefn yn ei gar- tref. Cynnelid cyfarfod ganddo y pryd hyny, am dymmor lled faith, a hyny ar noson yn yr wythnos, i ddysgu i Athrawon yr Ysgol Sabbathol ddar- llen. Tystiodd cyfaill wrthyf, yr hwn sydd yn ddarllenydd da a deallus, ac wedi bod yn athraw llafurus a defn- yddiol yn yr Ysgol Sabbathol er y pryd hyny—ei fod ef yn ddyledus i'r cyfar- fodydd, ac i Mr. Llwyd yn y cyfarfod- ydd hyny, am y cyfeiriad cyntaf a