Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. LXXVI.] EBRILL, 1853. [Llyfr VII. 35i)tngrittM. Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS LLOYD, ABERGELE. (Parhâd o tu dal. 11.) Gadawsom yr hanes y mis o'r blaen trwy adrodd rhai ystyriaethau a hrof- ent i ni ddwysder argyhoeddiad de- chreuol Mr. Lloyd, yn nifFyg ffeithiau ìeillduol am y pa bryd a'r pa fodd y bu ei gychwyniad. Yr oedd yn hawdd gweled mai un ydoedd ef wedi ei adna- bod ei hunan yn euog, halogedig, tru- enus, a cholledig. Ac nid hyny yn unig; ond yr oedd ei ddull hofí'us o son am ras Duw—gogoniant Person, aberth, a chyfiawnder Mab Duw, fel Cyfryngwr—ac addasrwydd yr iach- awdwriaeth fawr, yn peri i ni yn wastad benderfynu fod hyny wedi llewyrchu i'w feddwl fel gwawr o dy- wyllwch dudew—gobaith ymwared o gyni dirfawr—a diangfa bywyd mewn cenllif a rhuthr ofnadwy. Bedyddiwyd ef i ddwysder crefydd yn moreu ei oes. Ni welwyd mo hóno erioed yn debyg i ddyn yn chwareu â dim a berthynai i grefydd. Cymerodd grefydd i fynu o ddifrif. Belíach, yr ydym yn ymestyn ymlaen, i'w ddilyn yn ymofyn am le yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn mysg y rhai a ymgyf- enwent ar ei enw. Y fan y daeth i geisio, ac y cafodd ymuno â chrefydd ydoedd y Bryngwyn ; tŷ bychan ar fin y ffordd, ac oddeutu hanner y ffordd o Abergele i'r Bettws. Yr oedd capel bychan ar y pryd yn Abergele, a phre- gethu yn ardal Penbrynllwyni îslaw Llansantsiôr, ac yn Nghefn Meiriad- og; ond yn y Bryngw^m y cynnelid y cyfarfodydd eglwysig, er mantais i'r ychydig frodyr o'r Bettws, a Llanelian, a Llysfaen, ddyfod ynghyd. Yn yr un í'an y daeth yr hen bregethwr hygof, Cyfhes Nfwydd. Thomas Edwards o Liverpool, i'r soclety ag y daeth Mr. Llwyd ; canys un o Lys- faen oedd T. Edwards ; a bu yn gloch- ydd yno am ryw yspaid. Adnabyddid Thomas y pryd hyny wrth yr enw Twm y Gof. Yn yr un lle hefyd y daeth y gŵr hwnw, a fu yn ddefhyddiol a chy- meradwy iawn í'el henuriad eglwysig, sef John Hughes, Liverpool. Nid ydym yn gallu bod yn ddigon sicr a ddaeth Mr. Llwyd a John Hughes i'r gym- deithas eglwysig ar yr un noson ai peidio; pa fodd bynag, daethant yn bur agos i'r un amser, a bu undeb ys- bryd, agosrwydd teimlad, a chyfeillach grefyddol gref rhyngddynt dros eu hoes. Bychan y gallai neb feddwl yn awr wrth fyned yn ddamweiniol heibio i'r Bryngwyn—yr hen dŷ bychan, tô gwellt—ei fod wedi bod megys nyth dwyfol, lle y deorwyd ar bethau mawr- ion a phwysig. Yr oedd gŵr duwiol iawn yn byw yno, yr hwn hefyd a deithiodd lawer i wrando yr efengyl, ac a ddysgleiriodd fel seren oleu yn y fro dywell hono. Yr oedd 3110 hen wr arall nodedig, meddynt, o'r enw John Griffith, un o Adwy'r Clawdd, yn flaenor, ac yn ŵr craff llygadog. Bu ynoJiefyd gyfreithiwr yn aelod eglwys- ig am dymmor, sef Copner Williams, Ysw., o Ddinbych. Collodd ef bob gwedd grefyddol ar ol hyny, ond ni chollodd yr holl efiaith byth, dybygid, yn llwyr o'i gydwybod. Bu chwaer iddo hefyd yn aelod eglwysig yno ; ac er na allodd hi ddilyn i fyned i'r Bryn- gwyn hyd ddiwedd ei hoes, gan radd o erledigaeth, eto bernir mai gwraig