Skip to main content

Y DEYSORFA. Rhif. LXXV.] MAWRTH, 1853. [Llyfr VII. 36pgraM. Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS LLOYD, ABERGELE. Dywed y gŵr doeth fod " coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig." Dywed un arall y bydd y "cyfiawn byth mewn coffadwriaeth." A chynghor yr Apostol ydyw, "Meddyliwch am eich blaenor- iaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyr- ied diwedd eu hymarweddiad hwynt." Wrth olrhain hanes y saint, o febyd hyd fedd, ceir lluaws o ryfeddodau ac addysgiadau, er rhybudd, cyfarwyddyd, a chysur yn ngwahanol amgylchiadau bywyd. Mae ymgydnabyddu â banes dynion duwiol, yn enwedig rhai hynod mewn crefydd a defnyddioldeb, yn un o'r pethau goreu er addysg i ddynion ieuainc, yr hyn, dan fendith, fydd iddynt fel math o eneiniad at fywyd defnydd- iol. Pwy all ddarllen hanes Philip a Matthew Henry, Öcott, Doddridge, Fos- ter, Whitefield, McCheyne, Rowland Hill, Mr. Charles, Jones o Ddinbych, John Elias, Williams o'r Wern, Christ- mas Evans, Fy Chwaer, &c, heb deimlo eu bod ar y pryd, ac wedy'n, dan ryw adduned i Dduw, ac i'w cenedlaeth. Tuedda hyny at fagu ac amaethu cyd- nabyddiaeth barn â thrueni y natur ddynol,—rhyfeddodau gras,—ac i awch- lyinu y meddwl at ddilyn eu llwybrau hwy, a thebygu iddynt mewn daioni. Trwy syllu ar eu gyrfa hwy, yn ei ham- rywiol amgylchiadau a chysylltiadau, ceir mantais i weled a rhyfeddu y gras a'u cynnaliodd,—ac ond odid na cheir ynddynt, er mai dynion oeddynt, lawer o bethau da i amcanu at eu hefelychu. Ac nid hyny yn unig, ond wrth ddilyn hanes oes y rhai oedranus, ceir man- tais i olrhain symudiadau crefydd yn Nghymru,—gweled a rhyfeddu yr hyn "a wiìaeth Duw. Hanes yw y rhan hel- Cyfres Newyüd. aethaf a mwyaf gwasanaethgar o'r gyf- rol sanctaidd, yr hon, er ei bod yn ys- brydoledig, nid yw ond hanes. Dywed y lluniedydd fod dwy anfantais i dynu 11 un dyn yn gywir ; un ydyw—gormod o degwch yn y wynebpryd, yn gwneyd yn anhawdd ei roddi 311 deg ar y llian, —y llall ydyw gormod o ryw neülduol- ion, yn peri fod yn anhawdd cael gafael ynddynt oll, a'r naill ddiffyg neu y llall yn anurddo y llun. Cyffelyb anhawdd ydy w bywgraffu, er gallu dangos y dyn, y cristion, a'r gweinidog yn gywir: gosod nodwedd y gwrthddrych yn deg o fiaen y byd. Dygwyddai }Tn ddiwedd- ar fod llun tri o ddynion yn shop llun- iedydd, heb eu cymeryd ymaith gan eu perchenogion. Yr oedd yno Gymro yn y fan. Ar y pryd dacth gŵr boneddig i mewn, a gofynwyd ei farn am y llun- iau ; ac ni wyddai yn y byd pwy oedd- ynt; ac ni adwaenai y dyeithr-ddyn y gwŷr o ran hyny. Am y cyntaf, dy- wedodd ei fod yn beirianydd da ; am yr ail, ei fod yn ddyn penderfynol a haelfrydig ; ac am y trydydd, fod gan- ddo arddiych efengylaidd. Gallaf sicr- âu, pe enwid y tri, mai rhai felly oedd- ynt yn nghyfrif pawb a'u hadwaen- ent, ac nid rhai auenwog yn eu hoea ychwaith. Ofnaf na byddaf fi mor hapus yn mywgiafiiad fy hen barch- edig frawd. Un ymesgusodiad teg a allaf wneyd 3Tdyw, na adawodd Mr. Llwyd, bron ddim cofnodion ar ei ol, er mantais. Y cyfan a adawodd ydyw llyfrau cyf- rifon yr ysgol, 3rchydig o hanes ei deithiau yn y blynyddoedd cyntaf, a'i bregethau ar ryw bapyrau rhyddion. Am yr hanes, ffrwyth ymchwiliad dy- fal ydyw, a hyny dan lawer o anfau-