Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip. LXXIIL] IONAWR, 1803. [Llyfr VII. ẅartjinta a dfajtftóartta. DUW A MAMMON. Stlwedd Pregeth a dbaddodwyd tn Nghtmdeithasfa Dolgellau, Tachwedd Iaf, 1827, GAN Y DIWEDDAR. BARCH. JOHN ELIAS. " Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y Uall; ai efe a yinlŷu wrth y naill, ac a esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon." Matthew vi. 24. Darllenais am un o freninoedd cyntaf Saxony, fod ganddo ddwy allor naewn un eglwys ; un i Gristionogaeth, a'r llall i Gythreuliaid. Dy wedodd un gŵr bon- eddig unwaith, fod ganddo ef ddau en- aid; un i Dduw, a'r llall i'r hwn a'i cymerai. Mae llawer o bobl yn ein gwlad ninnau yn ymddangos yn rhy debyg i'r gwŷr hyny: maent yn tybied y gallant wneuthur yr hyn y dywedodd Crist nad oedd modd ei wneyd ; maent yn cynnyg at yr hyn ag y rhoes Mab Duw ei air nad oedd dichon ei gwblhâu. Gall dynion broffesu eu bod yn gwas- anaethu Duw, tra y maent yn dilyn eu chwantau; ond ni chyfrif Duw yn was- anaethwr iddo ef y dyn y byddo rhywun neu ry wbeth arall yn argl wydd neu feistr ar ei galon. Ni fyn yr Arglwydd Dduw neb yn was iddo ef ond yr hwn a fy ddo yn was iddo ef yn unig; ni addef y Jehofah yn ei wasanaeth ond y rhai hyny a'i gwasanaethant ef yn gwbl ac yn hollol. Mae geiriau y testun yn rhan o bre- geth Crist ar y mynydd. Dyma y bregeth fwyaf rhagorol—y bregeth ry- feddaf a draddodwyd erioed. Mae hon yn rhagorach na phregethau eraill Crist ei hun, gan ei bod yn helaethach ac yn fwy ei chynnwysiad. Byddai yn dda pe bae awydd ymhob pregethwr am bregethu yn debyg i Grist. Ond fe dybygid fod llawer pregethwr yn yr oes hon yn meddwl y gall bregethu yn well na Christ ei hun, gan nad oes un Cyfres Newydd. amcan ynddo am ymdebygu iddo ef. Un rhagoriaeth ar bregethau Crist ydoedd, fod eu materion yn ddyfnion, mawrion, a phwysig, tra yr oedd yr yin- adroddion yn oleu, yn eglur, a phlain. Am lawer o bregethau y dyddiau hyn, gellir dywedyd fod eu materion yn fâs, a'u hymadroddion yn ddyfnion—eu pethau yn fychain, a'u geiriau yn fawr- ion. Ond i'r gwrthwyneb yr oedd pregethau Crist. Gwyn fyd na byddai pregethwyr o bob enw a sect yn tebygu î Grist yn hyn :—yr ymadrodd yn eglur, a'r mater yn sylweddol. Rhagoriaeth arall ar Grist fel pregethwr ydoedd, nad oedd ef yn ei rwymo ei hun wrth un gangen o athrawiaeth fel ag i esgeuluso cangen arall; ond yr oedd yn pregethu yr holl wirionedd. Fe bregethai bob cangen o'r gwirionedd, a phob gwirion- edd ar ei dir ei hun, heb gymylu un gwirionedd i ddangos gwirionedd arall. Mae y bregeth hon ar y mynydd yn bregeth reolaidd a chyflawn iawn. Dangosir ynddi ymlaenaf nodau y bobl sydd yn wir ddedwydd. Yr oedd yr Rabbies yn proíFesu eu bod yn dysgu i ddynion y ífordd i fod yn ddedwydd ; oná yr oedd eu dysgeidiaeth hwy yn dra chymysglyd, a llawer o bethau di- sail ganddynt. Ond dyma Grist yn ei bregeth yn dangos y wir ffordd i fod yn ddedwydd : myned at Dduw yn ei drefn, yn dlodion yn yr ysbryd, yn newynog a sychedig, «&c, a chael ganddo ein di-