Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCLXVIII.] EBRILL, 1S69. [Llyfr XXIII. Y DIWEDDAE BAECHEDIG HENEY EEES. GAN Y GOLYGYDD. Pan, gyda theimlad o foddhâd neill- duol, y cyflwynem i'n darllenwyr, yn ein rhifyn cyntat' am y flwyddyn hon, ddarlun rhagorol y Parch. Henry Rees, gyda'r bregeth effeithiol o'i ysgrifen et' ei hun, yr hon yr oedd parhàd o hóni yn y rhityn canlynol,—ychydig a fedd- yliem y byddai raid i ni mor ebrwydd arfer y gair diweddar, yn ol yr arfer ar y ddaear, ynglŷn âget. O mae yn an- hawdd ì ni sylweddu hyn fel gwir- ionedd: Mr. Rees wedi marw! Ond gorfydd i ni ei gredu; ni chawn weled ei wyneb ef mwy. Mae'r tafod a fu yn efengylu pethaudaionus,nes cynhyrfu miloedd ar unwaith, yn ddystaw yn mudandod y bedd. Mae yr hwn oedd, nid yn un ymysg dosbarth, ond yn frenin ymhlith tywysogion, wedi ei gymeryd ymaith. Er y dylem ddiolch yn wresog i'r Nefoedd am ei adael ef i ni mor hir, nid oeddem eto yn barod i ddysgwyl ei farwolaeth; nid oeddem yn addfed i'w ollwng oddiwrthym. Och o'r diwrnod y rhoed yr enwog a'r anwyl Henry Rees yn ei fêdd! Yr oedd natura gras wedi ei fawrhâu ef. Cafoddddynoliaethgyflawn. Gellir cael y fath beth â'r cristion, gyda'r pregethwr hefyd, ond y dyn ar ol. Can- i'yddir y doniol, a chredír, ysgatfydd, fod y duwiol yno; ónd y mae'r dyn- ol yn ddiffygiol iawn. Eithr simsan fydd y weinidogaeth, ac nid mor hardd y gristionogaeth, na byddo dyn- oliaeth dda yn waelod iddynt. Ond ceid yn Mr. Rees ddyn cyflawn a thrwyadl; yr oedd efe yn naturiol yn ŵr o synwyr cryf, deall craff, athrylith a doniau mawrion. Yr oedd y Gor- uchaf wedi ei lunio o'r groth i fod yn was iddo ef, ac yn un o'i brit' weis- ion. Ni wna unrhyw fantais o ran dysgeidiaeth, nac unrhyw gydgyfar- fyddiad o amgylchiadau ffafriol, byth gynnyrchu deall, dawn, a medr, os na bydd Tad yr ysbrydoedd yn gyntaf wedi bwrw yr hadau o honynt i'r enaid a wnaeth. Megys y mae rheswm, sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth anit'ail yn dyfod oddiwrth Dduw, f'elly y mae'r talentau, sydd yn gwahaniaethu y naill ddyn oddiwrth y llall, yn dyfod yr un modd oddiwrtho ef'. Ychydig a feddyliai neb o hen Feth- odistiaid Llansannan wrth weled y bachgen teneu, tàl, Henry, mab Daf- ydd Rees, Chwibren-isaf, "yn rhedeg ar ol y detaid ar hyd ochrau blinion Bronllywelyn," fel y dywedai efe ei hun ei fod, y byddai'r bachgen hwnw yn un o brif bendefigion Methodist- iaeth Gymreig. Ond yr oedd Duw wedi ei farcio allan yno iddo ei hun. Ryw dro ar noson hâf, pan yr oedd efe yn fachgen bychan, saith neu wyth oed, yr oedd yr efengylydd pobl- ogaidd, y Parch. John Evans, Llwyn- ffortun, neu Mr. Evans, New Inn, fel ei gelwid fynychaf yn y Gogledd, yn pregethu yn hen gapel Llansannan. Yr oedd Mr. Evans y pryd hwnw yn ŵr ieuanc glandeg, yn agos i ddeg ar hugain mlwydd oed, a'r holl wlad yn heidio ar ei ol; a chan mor orlawn yr oedd y capel, rhoed Henry bach