Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jl vj jí Jr /YIJL/JL/ Cyf xl.] RHAGFYR, 1877 [Rhif. 492. Arweiniol. Y PREN 1R Â'R PEEN CRIN. Gan y Diweddar Barch. Thomas John, Cilgeran, D. C. " Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin ?"—Luc xxiii. 31. Wrth y " pren îr " y deallir, yr Arglwydd Iesu Grist. Gelwir ef yn Fiaguryn, ac yn " bren afalau yn mhlith prenau y coed," yn " olewydden îr," yn " wir Winwydden," ac yn " Bren y bywyd." Pren îr yw pren a byw- yd ynddo, pren yn llawn bywyd. Ac " ynddo ef yr oedd bywyd." Wrth y "pren crin " y deallir yma yn benaf, yr Iuddewon fel cenedl. Fe fu y genedl hon unwaith fel cedrwydden ragorol, fel un o gedrwydd Libanus ; ond ym- aflodd pydredd yn ngwreiddyn y pren ; fe dde- chreuodd bydru a chrino; yn grinach grinach o un oes i oes arall; a phan y llefarodd yr Ar- GLWYDD IESU y geiriau hyn, yr oedd y genedl yn bren crin yn ei ystyr helaethaf. Yr oedd wedi crino o dan farn, a'r farn hono yn awr ar ddisgyn arni. " Os wyf fi," medd yr Ar- glwydd Iesu, " i fyned dan y fath driniaethau, pa beth fydd diwedd y genedl hon ?" Y mater sydd yn gorwedd yn y testyn yw— Y bydd rhywbeth yn elfenau cosbedigaeth dyn colledigyny byd arall, fely gellir dyweyd, ar ryw ystyr, y bydd ynfwy tostlym arno nag ar Fab Duw yn ei ddyodddfiadau ef ar y ddaear. Yr wyf yn dymuno eich sylw mwyaf astud am ychydig amser; peidiwch pesychu os na bydd raid. Os wyf fi, y Cyfiawn a'r Sanctaidd, y difeîus a'r difrycheulyd, fel pe dywedai Mab Duw, i ddyoddef y fath arteithiau, ifyned dan y fath boenau, pa beth a wneir yn y crin ? pa beth fydd diwedd y genedl hon, yr hon sydd yn fuan i gael ei chymeryd ymaith â barn dym- orol, i fyned i afael â chosbedigaeth dragyw- yddol ? Pa beth a wneir yn y crin ? pa beth fydd diwedd y rhai annuwiol ? Ar hyn yr oeddwn yn meddwl aros. Ni chymerwn mo'r byd hwn yn gyfan yn eiddo i mi fy hunan am fil o flynyddoedd, am aros uwch eich penau, i leihau dyoddefiadau Mab Duw yn ngolwg y dyrfa. Oblegid hyny, yr wyf am ddyweyd gair neu ddau yn ocheliadol, os gwelwch yn dda ddyfod gyda mi. Y mae craig fan yna lle mae llawer llestr fwy na°- un sydd yma wedi myned yn ddrylliau; felly ced- wch ar fy ol i. Yr oedd cwpan y digofaint y darfu Iesu Grist ei gymeryd o law ei Dad yn Gethsemane, a'i yfed ar y groes, yn anfeidrol fwy ei gynwys nag y gallai holl ddeiliaid llyw- odraeth Duw ei yfed i'r gwaelod yn oes oes- oedd. Pe gosodasid ef i sefyll ar y gread- igaeth hon, buasai yn ei suddo i ddinystr yn y fan. A ydych chwi yn cilio oddiwrth y graig yna ? " Deffro, gleddyf, yn erbyn fy Mugail, ac yn erbyn y gwr sydd gyfaill i mi." Fe ddis- gynodd digofaint Duw mor drwm, mor drwm meddaf, ar ein Hiesu ni ar Galfaria, fel nas gallasai holl nerthoedd y greadigaeth, yn eL holl amrywiaeth o fodau rhesymol, ddal o dan y ddyrnod am darawiad amrant. Ergyd gwag i ddwrn Duw fuasai iddo ddisgyn ar yr holl