Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xl.] TACHWEDD, 1877 [Rhif. 491 Arweiniol. BOD YN DDYFAL GYDA CHREFYDD. Gan y Diweddar Barch. Ebenezer Davies, Llanerehymeid, G. C. " Byddwn ddyfal gan hyny i fyned i mewn i'r orphwysfa hono, fel na syrthio neb, yn ol yr un esiampl o an. nghrediniaeth."—Heb. iv. n. Y mae y gair " anghrediniaeth " yn cael ei ddarllen ar 'ymyl y ddalen—anuýudd-dod; fel na syrthio neb yn ol yr un esiampl o anufudd- dod; anghrediniaeth yn ymweithio yn anuf- udd-dod, ac anufudd-dod yn eu cau allan o'r orphwysfa. Y mater sydd dan sylw yr Apostol yn y ben- od hon ydyw, Y pwysfawrogrwydd a'r posibl- rwydd o fod yn gadwedig; a'r posiblrwydd a'r perygl o fod yn golledig, er cael pob manteis- ion i fod yn gadwedig. Yn gymaint a'i fod yn ysgrifenu at yr Iuddewon Cristionogol, y mae yn egluro ei feddwl trwy y termau o fyned i mewn i'r orphwysfa, ac o fethumyned i mewn, gan gyfeirio at y manteision a'r cyfleusderau oedd yr Arglwydd wedi eu rhoddi i'w tadau i fyned i mewn i'r orphwysfa yn ngwlad Ca- naan ; a hwythau yn y diwedd, er y manteis- ion oll, yn methu myned i mewn o herwydd anghrediniaeth. Y mae yma amiyw ystyriaethau yn cael eu dwyn i'n sylw, sydd yn dangos yn gryf ac yn amlwg fod yn bosibl bod yn gadwedig. (a) Y mae addewid wedi ei gadael i ni i fyned i mewn i'w orphwysfa ef: "A hon yw yr addewid, roddi o Dduw i ni fywyd tragyw- yddol, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef." Ië, i ni, cofier; nid i ryw rai eraill, gan ein gad- ael ni o'r neilldu, ond i ni. Hen ystryw ddi- chellgar y mae'r diafol wedi ddefnyddio tuag at lawer iawn o wrandawyr pregethau yn Nghymru, ydyw ceisio gwthio i'w meddyliau y dybiaeth wyrog a chyfeiliornus, mai i ryw rai eraill, ac nid iddynt hwy, y mae yr iachawdwr- iaeth wedi ei bwriadu; pryd, mewn gwirion- edd, y mae yr holl ddaioni sydd yn y drefn fawr wedi ei ddarparu ar gyfer y penaf o bech- aduriaid a wnelo dderbyniad o honi; ac y mae Iesu Grist yn dyweyd, " A'r hwn a ddêl ataf fi, nis bwriaf ef allan ddim." (b) Y mae gweinidogaeth yr efengyl, yn holl awdurdod y Duwdod, yn gosod allan drefn yr iachawdwriaeth yn ei llawn hyd a'i llawn led o flaen y gwrandawyr, gan eu cymell yn y modd taeraf i wneyd derbyniad o honi: " Can- ys i ninau y pregethwyd yr efengyl, megys ag iddynt hwythau." " Ewch i'r holl fyd, a phreg- ethwch yr efengyl i bob creadur." Dyna yd- yw yr efengyl, cyhoeddiad grasol a haelionus o drefn Duw yn Nghrist i waredu pechadur- iaid, yn nghyd a chynygiad didwyll a diragrith, heb ddim dau feddwl iddo, o fywyd tragyw- yddol i bwy bynag a'i derbynio. ' Os oes rhyw shade wahanol yn ymddangos arni weithiau, y mae hyny i'w briodoli i'n hanfedrusrwydd ni wrth geisio ei gosod allan, ac nid i unrhyw anghysondeb yn nhrefn Duw. (<r) Y mae genym y sicrhad cadarnaf a ellir