Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xl.] AWST 1877. [Rhif. 488. Arweiniol. TANGNEFEDD. Gan y Parch, J FouIkes Jones, B, A., Machynlleth. " Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi : nid fel y mae y rhoddi, yrwyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned."—Ioan xiv. 27. >yd yn Fe allai mai y pedair penod yma yn Efengyl Ioan (xiv.—xvii.) yw y gyfran fwyaf cysegred- ig o'r holl Ysgrythyr. " Mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant;" ac y mae rhagor hefyd rhwng cyfran a chyfran o'r Ys- grythyr mewn pwysigrwydd a gwerth. Y mae yr Efengylau yn hynod yn mysg llyfrau y Tes- tament Newydd; ac y mae Efengyl Ioan yn hynod yn mysg yr Efengylau; ond y mae y penodau hyn yn bynod yn Efengyl Ioan. Teml yw y Beibl âg y mae iddi iawer o lys- oedd a chynteddoedd ; ond y mae iddi hefyd ei chysegr. Cysegr y Dadguddiad Dwyfol yw yr Efengylau ; o herwydd yma yr ydym gyda Mab Duw ei hun, Awdwr y Llyfr, a Pherchen- °g y Deml. Mae pob efrydydd meddylgar, yn ddiau, Wedi sylwi ar ryw arbenigrwydd neillduol yn efengyl Ioan. Yn wir, pan y mae mesur o ddifrifwch ar y meddwl, a graddau o ddefos- iwn yn yr ysbryd, pwy na theimla nad yw efe yma yn myned i fewn, hwnt i ryw wahanlen — i fewn i Sancteiddiolaf y Dadguddiad Dwyfol —ei fod yma wyneb yn wyneb â'r Shecinah megys, ac yn mhresenoldeb gwirioneddau tra rhagorol a gogoneddus ? Fe allai mai drych feddwl mawr IoAN yn ei Efengyl ydyw Person yr Arglwydd Iesu. Mae yn ymddangos mai ei Fessîaeth yn benaf sydd gan y tri chyntaf— Matthew, Marc, a Luc; a dyma yr achos, o bosibl, eu bod hwy yn son cymaint am weith- redoedd Crist, ei wyrthiau, ei ddamegion, a'i fywyd cyhoeddus yn gyffredinol. Ond Person Mab Duw sydd gan Ioan. Dyma oedd yn tanio ei ysbrydoliaeth : mawredd a Dwyfoldeb y Person, a dirgelion mwyaf dwfn ei feddwl a'i athrawiaeth. Felly yn wir y dywed IoAN ei hun wrthym : " Y pethau hyn a ysgrifen- wyd, fel y credoch chwi mai Iesu yw y Crist, Mab Duw." Mae y penodau yma, hefyd, wedi eu lìefaru ar yr adeg fwyaf cysegredig yn rnywyd ìesu Grist, sef, y diwrnod cyn ei farwolaeth. Yr oedd Iesu Grist yn awr yn yr oruwch-ystafell; ac ar ol bwyta y pasg a sefydlu y swper sanct- aidd, y mae efe yn canu ffarwell â'i ddysgybl- ìon, ac yn llefaru ei gyfarchiad ymadawol. Y mae, yn gyntaf oll, yn eu cysuro gyda goiwg ar ei absenoldeb corphorol oddiwrthynt. Yna mae yn gwneyd ei lythyr cymyn—yn gadael ei " dangnefedd " iddynt, ac yn cyhoeddi addew- id fawr y testament newydd. Yn nesaf, y mae'r weddi Archoffeiriadol yn dyfod i mewn. Dyma'r weddi ryfeddaf o holl weddiau y byd. Gweddi ryfedd oedd gweddi SOLOMON v^rth gysegru y deml; ond nid oedd hi ddim i'w chymharu wrth hon—gweddi y MAB ar y Tad. Dyma'r Archoffeiriad mawr ei hun yn mynetì i weddi. Y mae yn troi oddiwrth yr allor, a'r aberth, a'r gwaed, aty thuser aur; ac y mae ei