Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL Cyf. xl.] CHWEFROR, 1877. [Rhif. 482. Arweiniol. RHESYMEG GYFERBYNIOL 1ESU GRIST-Y LLEIAF A'R MWYAF. Gan y Parch. Wiüiam Machno Jones, Judson, Minn. " Y neb sydd ffyddlawn yn y lleiaf, sydd ffyddlawn hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, fydd anghyfíawn hefyd raewn llawer. Am hyny, oni buoch ffyddlawn yn y mammon anghyfiawn, pwy a ymddir- 'ed i chwi am y gwir olud ? Ac oni buoch ffyddlawn yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hunî— Luc 16 : 10. 11. 12. Yn y geiriau hyn mae yr Athraw mawr yn cymwyso, ac yn dysgu gwers ychwanegol °ddiwrth ddameg y goruchwyliwr anghyfiawn. ^íae y ddameg yncael ei hystyried yn un o'r rhai anhawddaf ei hesbonio, gan fod cymaint 0 r alleg ynddi. Ceir ynddi y naturiol a'r ys- "rydol yn rhedeg i'w gilydd, fel y mae yn an- «awdd tynu llinell derfyn rhyngddynt, fel ag i wybod pa le y mae un yn dybenu a'r lla.ll yn °echreu. O herwydd fod y fath gysylltiad rhwng y geiriau a'r rhanau blaenaf o'r ddam- e£> goddefer i ni daflu golwg fras a brysiog drosti. Fel y dengys yr adnod gyntaf o'r ben- °d» Hefarwyd y ddameg wrth y dysgyblion— nid wrth y deuddeg yn unig, ond wrth eraill nefyd oeddynt yn dilyn Crist, ac yn derby'n ei eiriau. Dywedai wrthynt fod rhyw wr goludog—cyfoethog—ac iddo oruchwyliwr, neu steward—un yr oedd ei holl eiddo yn ei ymddiried. Hwn a gyhuddwyd wrtho, ei 0o- efe yn afradloni ei dda ef, i. e., yn anffydd- Jawn i'r ymddiried a osodwyd ynddo. Wedi lado ymofyn a oedd sail i'r cwynion, a chael er ei ofid, eu bod yn rhy wir, galwodd ei or- Uchwyliwr ger ei fron; ac anhawdd yw gwy- °d pa un ai ei syndod, ynte ei siomedigaeth 0edd fwyaf yn ei deimlad, pan yn gofyn, " Pa eth yw hyn yr Wyf yn e; giywec| am danat ? Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth, &c.—Dwg dy gyfrifon i mewn—nis gelli fod mwy yn oruchwyliwr." Yn y fan dyma bryder mawr yn cyfodi yn meddwl y dyn. " Pa beth a wnaf (meddai), dyma fy mywoliaeth yn dibynu ar fy ngoruchwyliaeth, a dyma fy arglwydd yn myned i'w dwyn hi oddiarnaf;" ac fel dyit call, dechreuai edrych o'i gwmpas, gan fyfyrio pa beth a wnai—" Cloddio nis gallaf, a char- dota sydd gywilyddus genyf." Dywed yr es- boniwr enwog Matthew Henry fel y can- lyn ; " Nis gallai weithio gan ddiogi, na char- dota gan falchder; a bod y dyn y mae tlodi, diogi, a balchder yn gymdeithion agos iddo, yn un pur annedwydd." Wedi hir droi y cwestiwn, pa beth a wnai, yn ei feddwl, ryw noswaith pan yn methu rhoi hûn i'w lyg- aid, na chwsg i'w amrantau gan ei bwysau, wele gynllun yn taro i'w feddwl; ac wedi ed- rych i mewn i fanylion a diogelwch y cynllun, yn foreu iawn dranoeth, dechreuai ei roddi mewn gweithrediad. Galwodd am y cyntaf o ddyledwyr ei arglwydd ato, a gofynodd iddo, " Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm har- glwydd?" Atebai ef, " Can' mesur o olew." Ac efe a ddywedodd wrtho, " Cymer dy ys- grifen ac eistedd ar frys, àc ysgrifena ddeg-a- deugain." Galwodd am y nesaf, a gofynodd