Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyírol XXV. RHAGIPYE, 1S6S Rhiíyn. 300. Y MESSÎAH. [Parhäd o dudàl'. 416.] Nid ydym yn cael yr eaw Náíhanael yn mysg yr Apostolion, ond mae yn amlwg, feddyliem, mai eí'e ydyw Bartholomeus yr efengylwyr er- eill. yn myned dan enw ei dad. Ystyr yr enw " Bartholomeus " ydyw Mab Tolmai, yr hyn sydd yn gadael lle i'w enw priodol ef ei hun, yr hwn ydyw Nathaaael. Yn fuan, mae yr Iesu, a'r gwŷr hyn gyd ag ef, yn cychwyn i fyny tua'u hen gartref yn Galilea ; a'r trydydd dydd, sef y trydydd ar ol galwad Nathanael, debygid,' yr oedd priodas yn Cana, dinas fechan o gylch chwe' milltir o Nazareth ; mae yr Iesu a Mair ei fam, a'r pum' dysgybl, yn cael eu gwa- hodd i'r wledd. Nid ydym i ryfeddu fodpyr Arglwydd Iesu wedi myned i'r briodas ; un o ddybenion mawr ei ddyfodiad i'r byd oedd rhoddi esiampl i ni yn mhob math o amgylch- iadau ; i fyned trwy amgylchiadau o siriolder yn gystal ag adegau o alar, oblegid y mae yn ilawer mwy tueddol i galon lygredig lithro mewn awr o iawenydd nag mewn tymhorau o alar a phryder ; a gwerthfawr i ni ydyw cael esiampl y gallwn yu ddiogel ei dilyn yn y cyf- ryw amgylchiadau- Nid oedd yr Arglwydd lesu fel Ioan Fedyddiwr, i ymneillduo i'r di- Öaethwcb o gymdeithas dynion, ond i rodio í'el ninau trwy amgylchiadau cyífredin bywyd. • Bron na feddyliem fod Mair yn rhyw ber- thynas i'r pâr ieuanc oedd yn priodi, 'oblegid mae yn eglur ei bod yn gwybod eu helynt teu- luaidd yn dda, ac yn teimlo yn bryderus dros- tynt, pan y deallodd na feddent ddigon o win yn y tỳ i gario y wledd trwyddi yn anrhydedd- Us. Dywedai ei hofnau i'r Iesu : beth a ddys- 39 gẁyl.iai oddi wrtho. mae yn ansicr, ac mae ys- tyr ei atebiad ef iddi braidd yn aneglur. Mae y gair cyutaf, " 0 wraig," yn swnio i ni yn geryddol a lìym ; eto cawn ef yn ei arfer, mewn amgylchiad ag yr ydym yn gwbl sicr nad oedd ystyr felly iddo, sef pan oedd ar y groes. Mewn'perthyuas hefyd i'r "awr," yr ystyr gyífrediu gan Ioan ydyw ei awr olaf,— awr ei ddyoddefiadau ; ond nid yr awr hono a feddylir yma ganddo-—nid oedd ei fam yn ei ddeall feìly ; yn hytrach awr oedd i ddyfod yn fuan ydoedd. Yr oedd y gwin yn treulio, ond nid oedd oll wedi darfod eto. Yr oedd gan Mair lawn ymddiried ynddo am gymhorth yn yr adeg adfydus hon ar y teulu yr oedd mor gyfeillgar â hwy ; ac yn yr olwg ar hyny y dywedai wrth y gweiuidogion, "Pa beth bynag a ddywedo efe wrthych, gwnewch." Mae yn eithaf amlwg, cìebygem ni, Bŵi nid pleser y gwahoddedigion, ond anrhydeíM j' teulu a'r pâr priodasol, y rhai oedd ar fyned yn destyn siarad a gwawd, oedd gan yr Ar- glwydd Iesu mewn golwg wrth gyflawni y wyrth ; a dengys yaia ei gydymdeimlad, nid ag anghenion bywyd yn unig, ond hefyd â pharch ac â phleserau diniwed ein natur, yn gystal ag â chynnaìiaeth natur. Cawn ef ych- ydig amser yn ol yn gomedd iddo ei hun dani- aid o fara i dori ei newyn, ar gynyg Satan • ond wele ef yn awr ar awgrymiad Cariad yn helpu ereill â danteithion bywyd. Yr oedd yn y lle chwech o ddwfr-lestri meini, yn ol defod puredigaeth yr Iuddewon, y rhai a ddal- ient bob un ddau ffircyn neu dri. Mae yr holl hanes yn cau allan bob peth tebyg i gynllnn blaenorol i dwyllo—"Dwfr-lestri," nid llestri gwin wedi myned yn weigion, a rhywfaint o waddod ynddynt i droi blâs a lliw y dwfr ac felly i wneyd rhyw fath o win gwan. Mae y ganmoliaeth a rydd y llywodraethwr i'r gwin, yn nghyda bod y llestri yno hefyd, yn ol hen dd efod, yn cau hyn allan yn llwyr. Yr oedd