Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 7.] G-ORPHENAF, 1847. [Cyf. X. HANESIAETH ANIANYDDOL. T E I G R . Marc i. 13. ' Ac yr oedd efe (Crist) gyda V gwtjlltfilod; o'r angelion a weiniasant iddo.' Y darltjn uchod sydd yn arddangos llun ac agwedd y crëadur creulawn, a elwir y Teigr, neu 'r Dywalgi. Yr anifeiliaid hyri ydynt gan fwyaf yn frodorion o Bengal, Siam, Tonguin, China, a Sumatra; ac yn gyffredinol o holl ddeheubarthau Asia, tu hwnt i'r Indus. Uchder arferol y Teigr, yw tua thair troedfedd, a'i hyd tua chwech; ond y maent yn amrywio cryn lawer yn eu maintioli; y mae rhai yn uwch ac yn hŵy na'r llew. Eu lliw arferol yw melyn-goch, a rhesi duon i lawr eu hochrau, ac yn fodrwyau crynion o gwmpas eu cynfTonau, yn mron bob amser yn bymtheg o nifer; a'r cyffelyb resi yn ŵyrgroes ar draws eu coesau. Canwyllau eu lîygaid ydynt gylchgrwn. Mae llawer o debygoliaeth mewn gwneuthuriad a thueddiad, rhwng y llew a'r teigr; o lwyth ac anian y gath y mae 'r ddau. Mae hyn o wahaniaeth yn eu nodweddiad, sef bod y llew yn cynnorthwyo y fenyw i fagu eu rhai bychain; ond y teigr sydd yn cefnu arni. Y teigrod hefyd a laddant eu gilydd; a gwelwyd rhai benywaid yn bwytta eu cenawon. Er hyn i gyd, mae 'n ymddangos nad oes dim anhawsdra mawr i ddofi y teigrod, a'u gwneud mór llywaeth a'r llewod. Gwelsom yn mis Mai diweddaf, mewn arddangosiad o Wylltfilod, deigr yn chwareu â dyn, yn neidio arno a throsto, ac yn cymeryd ei drin íèl y mynai 'r dyn; a hen lew o oìwg gwirion wedi ei harneisip o flaen cerbyd; ac yn Ilusgo y dyn ynddo, }^n gyffelyb i geffyl neu asyn. Cyf. x. 13