Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 2.] C H W E F R O R, 1846 [Cyf. IX. BYWYD A MARWOLAETH HARGLWYDD IESU GRSST. Nazareth, cartrefle boreuol ein Hiachawdwr. -Barch. Olygydd,—Cyflwynir yr ysgrif ganlynoì yn ostyngedig i swyddogion ac aelodau yr Ysgol Sabbothol, gan hoff hyderu y gall fod yn help iddynt i ddeall yrhanau hanesyddol o'r Pedwar Efengylwr. Mae yn ffrwyth llafur diwyd a difyrus un gauaf cyfan o nosweithiau ; ac oddeuta hanner yr amser a gymerwyd i'w chyfansoddi a led- îatawyd oddiar Mr. Cwsg. Os caiff ambell un, yma ac acw, o ddarllenwyr y ' Cyfaill,' y drydedd ran o'r hyfrydwch wrth ei darllen ag a gafodd yr ysgrifenydd wrth ei chyfan- soddi, cyfrifa hyny yn llawn dâl am ei lafur. Y mae llyfrau mawrion wedi eu hysgrif- enu yn yr iaith Seisonig ar y mater hwn, ond nid wyf yn cofio gweled cymaint ag un wyneb dalen yn ein hiaith ni arno eto. Felly, hyderwyf na bydd yr ymgais gyntaf hon yn gwbl annerbyniol. Dylwn gydnabod yr awdwyr y tynais helaethaf o'u gwaith, sef ' Millman's History of Christianity;' ' Gleig's Hislory of the Bible;' ' Wright's Life °f Ghrist;'' ' Furnaoe's Jesus and his Biographers ;' ac hefyd amryw Gyhoeddiadau rhagorol' Undeb yr Ysgol Sul Americanaidd.' Cincinnati. , T. L. Hughes. Yn fuan wedi i ddyn syrthio yn Ngardd ^üen, mae addewid yn cael ei rhoddi iddo CYF. IX. o Hâd y wraig i'w adferu yn ol i ffâfr Duw. Cadarnhawyd ac eglurwyd natur