Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XVII. IONAWR, 1854. Rhif. 193. P A L A S GfilSIAlAIBD, €tíuiljnììjnt u líiiustniim. TRO TRWY Y FFAIR. ¥N ein rhifyn am fis Gorphenaf diweddaf, wrth roddi yehydig o hanes allanol y Palas Gwydr, yn mha un y cynnelir Ffair y Byd, lled-arwyddem y gallasai ein darllen- Wyr. ddysgwyl ychwaneg ar adeg ddyfodol. Cawsom, trwy ein cysylltiad â'r Wasg, docyn—do, ddan, yn caniatau i ni ryddid i fy- ned i mewn pryd y mynem, a chan fynỳched ag y dewisem, dros dymhor yr Arddangosiad. Er budd y lluaws na chânt y cyfryẁ gyflöus- tra byth, gwnaethom rai nodiadauun o'r troi- on yr aethom, ac yr ydym yn awr yn eu cyf- lwyno i'n darllenwyr. Mae yn perthyn i'r Palas Gwydr dri prif borth. Cymerasom fantais ar y nesaf atom, ac wedi prynu llyfryn bychan o gyfarwydd- yd, aethom rhagom at ein harolygiad. Cyf- eiriasom ein camrau yn mlaenaf heb droi ar y dde' na'r aswy, i'r canolbarth, ac yno o dan y gromen (dome) íawsom olygfa ysplenydd. Mae y gromen ei hun yn wrthddrych syndod a boddhád nid cyífredin; mae ei maint mawr mewn cyferbyniad â'i hysgafncler rhyfeddol, yn ei gwneyd yn annhebyg i bob peth fel ad- eilad, ac yn fwy tebyg i awyren (balloon) sid- anaidd ar ymgodi i'w helfen awyraw), na dim arall. Prin y canfyddir ei hasenau haiarn gan mor feinion yr ymddangosant yn y fath uchder. Y mae yn ymgodi yn gylchaidd yn ol y dariun, oddiar golofnau 70 troedfedd o uchder, gyda thrawsfesnr o 100 troedfedd, i uchder o 125 troedfedd wrth y coryn; hon yw y gromen fwyaf yn y Byd Gorllewinol, ac yn ei hymddangosiad o bell yn dwyn i'n cof adeiladaeth ardderchogSyr C. Wren, Eglwys- y St. Paul yn Llundain.