Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. CYF. LXII.] EBRILL, 1899. [RHIF. 740. PARCH. ,IOH\ H. DAYIES, BARNEYELD, KIS. Edrychid ar y brawd hwn fel esiampl o ddosbarth mawr o bregethwyr ydynt erbyn hyn wedi myned yn ychydig yn ein Cyfundeb. Maen ydyw efe o graig natur, heb ei naddu na'i gaboli gan ath- rofa. Y mae gwreiddiau hirion i'r teim- ladau da tuag at y brawd hwn a'i gy- ffelyb, sef yr adgofion melus am oedfa- on hyfryd yr hen dadau gynt. Ganwyd ef Medi, 1845, yn un o bump o blant i Henry a Catherine Davies—efe yn fab Ty'n y Lon, Penrhosllugwy, a hithau yn ferch Ty'n y Nant, Llanfair Llwyfo. Magwyd ef yn un o lanerchau mwynaf Ynys Mon, ar fynydd Eilian, uwch y mor, ar bwys hen delegraph Griffith Mechel, ger Amlwch, yn mhlwyt Llaneilian. Bedyddiwyd ef gan y Parch. William Roberts, Amlwch, o fendigedig goffadwriaeth, yn Pen Gorphwysfa, lle yr 'oedd ei fam yn aelod eglwysig. Coll- odd ei fam yn chwe' mlwydd oed, eto adgofia ei arwain yn ei llaw i dy yr Ar- glwydd. Wedi colli y fam mor ieuanc. nid oedd ond y chwaer ddeg oed i ofalu am y teulu. Gan nad oedd y tad yn ael- od, nid oodd neb i arwain y plant i'r seiat, yr hyn a fu yn golled fawr idd- ynt oll. Wedi tyfu yn hogyn dechreuodd ein brawd ddylyn plant annuwiol i halogi y Siabboth ac esgeuluso moddion gras Aeth i weithio at Mr. a Mrs. W. Owen, Rhosmanaoh, a gofynodd y feistres iddo ddod i'r capel, gan ychwanegu na fyn- asai ei fam grefyddol iddo fyw fel y gwnai. Aeth y gair i'w gaion, a thorodd allan i wylo, gan ychwaneggu nad oedd ganddo ddillad i fyned i'r moddion. Er- byn y Sabboth dylynol yr oedd ei feis- tres wedi cael gwisg newydd iddo, ac aeth yntau gyda hi i gapel Nebo. Dech- reuodd yno ddylyn yr Ysgol Sul, yn nos- barth Captain Williams, Rhiwlas, ,yr hwn oedd adref oblegid colli ei long, ■ pryd hefyd y boddodd ei frawd Evan, ac un o'i forwyr. Dj^ma y dymestl a sudd- odd y Royal Charter, Hydref 26, 1859; ac feìly yr oedd Mr. Davies yn 14 oed er adeg hon. Daeth y Parch. Ellis Foulkes, Bangor Uchaf, i Nebo, ac ar ddiwedd yr oedfa, dan deimlad dwys o'i bechadur- usrwydd, arosodd ein brawd yn y seiat i erfyn am drugaredd. Cafodd ymgel- edd a chyngorion bythgofi'adwy gan y gweinidog da hwnw. Pan ar daith yn Nghymru, ac yn pregethu yn Nebo, ad- ìcddai Mr. Davies hanos y nos Sul hwnw yn effeithiol iawn, am fod Thom- as Hughes, y blaenor, ac efallai eraill, yn cofio am y tro. Ar ol hyn aeth y llanc John H. Da- vies i weini yn Gwredog Uchaf, ger Llanerchymedd. Noson i'w chofio oedd un ei seiat gyntaf yn eglwys y lle new- ydd. Gan ei bod yn "ben tymor" yr oedd amryw fel yntau yn cyflwyno eu tocynau eglwysig. Yr oedd y Parched- igion Hugh Jones, henaf, Hugh Jones, ieuengaf, Ebenezer Davies, a Richard Roberts oll yn bresenol. Gofynodd y Parch. Hugh Jones, henaf, iddo, a wnal efe gadw addoliad teUluaidd yn Nghwr- edog. Atebodd nas gallai mewn teulu mior lluosog, ac oll yn ddigi'efydd odidä- eithr un, hen glochydd eglwys Ceidiog.