Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf, xlii.] RHAGFYR, 1879. [Rhif. 516. Arweiniol. CYNGOR A DRADDODWYD AR ACHLYSÜR ORDEINIAD PEDWAR AR DDEG O FRODYR YN NGHYMDEITHASFA DINBYCH, MEHEFIN 19, l8>(J. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M. A. ( Wedi eiysgrifenu ganddo efei hun.) " Mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai"—1 Cor. ix, 22. Ni a gawn yn y geiriau hyn un o elfenau mawrion nerth gweinidogaeth yr apostol Paul, ac hefyd dirgelwch ei lwyddiant. Nid eu hys- tyr yw ei fod yn aberthu yr un o bynciau yr ef- engyl er mwyn enill dysgyblion. I'r gwrth- wyneb, efe a dystiodd ei fod yn lân oddiwrth waed pawb oll, am nad ymataliodd rhag myn- egu iddynt holl gyngor Duw. Nid ei feddwl ychwaith oedd, ei fod yn gostwng safon moes- oldeb, neu yn disgyn i foddio chwaeth y dos- barth isaf o'i wrandawyr er mwyn enill eu clust a'u calon. Meddyliwch am Paul yn ym- ostwng i berii gynulleidfa chwerthin tiwy ffug arabedd a hanesynau digrif! Gwell o'r ddau oedd ganddo ef i Eutychus gysgu yn y breg- eth, nag a fuasai ganddo ei gadw yn effro trwy unrhyw foddion annheilwng o urddas yr ef- engyl; o herwydd annhraethol haws oedd di- ddymu angeu Eutychus trwy ei godi o farw yn fyw, nag a fuasai dadwneyd yr effeithiau drwg a wnelsid ar ei feddwl a'i galon gan ys- gafndra gyda phethau cysegredig. Nid oedd Paul ychwaith yn gwneyd ei hun yn bob peth i bawb trwy newid ei ochr gyda'r rhai y byddai yn cyfeillachu â hwy, fel y bu ei frawd Pedr yn euog o wneuthur ar un amgylchiad. Ond efe a'i gwnaeth ei hun yn bob peth i bawb trwy ei adnabyddiaeth o'r natur ddynol—trwy iddo osod ei hun yn nerth dychymyg sanctaidd ar y safieoedd oddiar ba rai yr oedd pob math o ddynion, Phariseaid a Saduceaid, Stoiciaid ac Epicuriaid, Athronwyr Athen a Barbariaid Melita, dynion o'r sefyllfaoedd uchaf, fel Ffel- ix ac Agrippa, ac o'r isaf, fel ceidwad carchar Philippi, yn arfer edrych ar bethau moesol—a thrwy nerth ei gariad yn cydymdeimlo â gwen- didau, anwybodaeth, ofergoeledd ac anhaws- derau ei wrandawyr i dderbyn yr efengyl. Mewn canlyniad, efe a ddefnyddiodd, i'w har- gyhoeddi a'u dychwelyd, bob moddion a'r na fyddai yn anghydnaws âg ysbryd yr efengyl, neu yn annheilwng o'i tharddiad. Ymrodd- odd i'r amcan trwy hunan-ymwadiad ac ym- drech diflino, heb ei arbed ei hun mewn dim, fel y gallai yn hollol gadw rhai, a'u gwneuth- ur yn gydgyfranog âg ef ei hun o'r efengyl. Ysbryd Paul oedd eiddo ein tadau ya Nghymru. Hwy a'u. gwnaethant eu hunain yn bob peth i'w gwrandawyr, er mwyn dwyn gwirionedd yr efengyl ger eu bron yn y dull cymwysaf i'w hamgylchiadau. Eu gwir ol- ynwyr yw, nid y rhai sydd yn eu hefelychu yn