Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlii.] TACHWEDD, 1879. [Rhif. 515, Arweiniol. DIRGELION Y GROES. Gan y Parch. John Moses, Waterville, Wis. ' Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu."—Mat. 27 ; 42. Y mae dynion o dan gynhyrfiadau y foment wedi llefaru rhai o'r gwirioneddau mwyaf tan- baid, cynwysfawr, a phwysig, a glywodd y byd erioed. Llefarwyd mwy o'r cyfryw mewn cy- sylltiad â bywyd a chroeshoeliad ein GwAR EDWR nag mewn un cyfnod arall o hanes y byd. Ac yn wir, nid cyfeillion a dysgyblion yr Iesu, ond ei elynion chwerwaf, a draethodd y gwirioneddau mwyaf ardderchog a gogonedd- us am dano, a'r mwyaf poblogaidd a tharaw- iadol i gyfateb cyflwr y werin, o bawb a dyst iolaethodd am dano. Gwrandawer ar iaith hynaws ac addolgar Herod waedlyd wrth y " doethion :" " Ewch ac ymofynwch am y Mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finau ddyfod a'i addoli ef," Ond iaith addolwr ar dafod blaidd ydyw. Gwaedd cythreuliaid dy- chrynedig oedd hono—Iesu Fab Duw, beth sydd a wnelom â thi ? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser ?" Edliwiaeth sarhaus y Phariseaid a'r ysgrif- enyddion a draethodd y gymeradwyaeth uchaf am swydd ac hyfrydwch y Gwaredwr, ac y bydd mawl y miliynau a gedwir yn ymddylifo allan yn oes oesoedd am y fath wirionedd go- goneddus : " Y mae hwn yn derbyn pechad- Uriaid, ac yn bwyta gyda hwynt." Y bradwr Judas a adawodd y dystiolaeth fwyaf grymus o burdeb cymeriad yr Iesu—" Pechais, gan frad- ychu gwaed gwirion.", Pilat anghyfiawn a hunan-gondemniol a gyhoeddodd ddiniweid- rwydd yr Iesu, gan olchi ei ddwylaw gwaed- lyd, a dywedyd, " Dieuog ydwyf fi oddiwrth waed y cyfiawn hwn ; ediychwch chwi." Cai- aphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn hono, a ddywedodd wrthynt, mai " Buddiol yw i ni farw o un dyn dros y bobl, ac na ddy- fether yr holl genedl." Y Canwriad a'r gwyl- wyr mewn dychryn, pan welsant effeithiau dy- eithr y croeshoeliad yn ysgwyd y ddaear, yn tywyllu yr haul, yn hollti y creigiau, yn agor y beddau, a argyhoeddwyd mor drwyadl o Dduwdod y croeshoeliedig, fel yr " ofnasant yn fawr (ddirfawr), gan ddywedyd, Yn wir, Mab Duw ydoedd hwn." Ac yn y testyn dyma un o'r gwirioneddau mwyaf godidog yn cael ei draethu gan yr archoffeiriad, yr ysgrif- enyddion, a henuriaid y bobl, yn eu cynddar- edd wawdlyd, ar gymeriad machniol Cyfryng- wr y Testament Newydd—" Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu." Go- ddefodd Duw i'r cymeriadau duaf, a'r gelyn- ion chwerwaf, ddwyn tystiolaeth i gymeriad ei unig-anedig Fab yn ei " oriau olaf," a phan yn trengu ar y groes. I ba beth, meddaf? Fel y byddai i elynion y Messiah fod yn dyst- ion tragywyddol i gymeriad dwyfol Gwared- wr y byd.