Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL Cyf, xlii.] HYDREF, 1879. [Rhif. 514. Arweiniol. DYN ANIANOL, A'R PETHAU SYDD 0 YSBRYD DUW. Sylwedd Pregeth gan y Parchedig Richard Lloyd, Beaumaris, G. C* "' Canys dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw; canys ffolinebydynt ganddo ef, ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt."—i Cor. ii. 14. Yn yr adnod o'r blaen, mae yr Apostol yn coffâu am dano ei hun a'i frodyr, eu bod yn llefaru, " nid â'r geiriau a ddysgìr gan ddoeth ineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysryd Glan, gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol." Mae cydfarnu yn myned weithiau am ddeongli, neu wneuthur pethau yn hysbys, ac weithiau am gyffelybu neu gymharu. Felly yr oedd Paul a'i frodyr yn cymharu gwirion- eddau presenol â'r dadguddiad a roddasai yr Arglwydd dan yr hen oruchwyliaeth—yn cymharu y prophwydoliaethau â'r cyflawniad, ac yn cymharu y cysgod â'r gwrthgysgod, neu y sylwedd. Ond er eu bod hwy fel hyn yn gosod allan wirioneddau yr efengyl yn y modd mwyaf goleu ac eglur, eto nid oedd, ac nid ydyw y dyn anianol yn derbyn dim o honynt. * Yr oedd yn dda iawn genym gael y bregeth ragorol hon yn y Drysor/a ; canys nid ydym yn cofio i ni ddar- llen pregeth erioed o'r blaen o eiddo y gwr anwyl, a'r gweinidog efengylaidd hwn. Mae ei goflädwriaeth yn fendigedig genym ; ac yr oedd y bregeth hon fel diliau ttêl i'n safti. Yr oedd ef yn un o'r gweinidogion a neillduwyd yn yr ordeiniad cyntaf yn y Bala, yn 1811 Bu farw yn 1834, yn 63 mlwydd oed. Cyfrifid ef yn mysg enwogion y pwlpud, ac yr oedd yn hynod am ei sirioldeb a'i serchogrwydd. Ymddygodd fel tad yn yr efengyl at y diweddar Barch. William WilHams, Man- chester; y Parch. Owen Jones, Llandudno ; y Parch. William Williams, Ty Calch; y diweddar Barchn. Hugh Hughes, Beaumaris, ac Ebenezer Davies, Llan- erchymedd; y Parch. Robert Hughes, Gaerwen, a ni- nau. Yr oeddym ninau, " fel plant anwyl," yn ei garu, pi barchu, a chydymffurfio â'i addysgiadau a'i gyngor- ion doeth a da. Yr ydym, wrth ysgrifenu y sylw hwn, yn teimlo hiraeth angerddol ar ei ol ef ac eraill o'r tad- au.—Gol. Yn y testyn, cawn ddrych dysglaer sydd yn dangos dau ddarluniad neillduol: darluniad o ddyn fel y mae yn greadur syrtbiedig, a dar- luniad o bethau ysbrydol yr efengyl. I. Darluniad o ddyn fel creadur SYRTHIEDIG. Darlunir ef mewn pedwar peth : i. Yn ei enw : " Dyn anianol." 2. Yn ei weithred : " Nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw." 3. Yn ei farn : " Ffolineb ydynt ganddo ef." 4. Yn ei waeledd : " Nis gall eu gwybod." i.'Yr enw sydd yma ar ddyn syrthiedig : " Dyn anianol." Yr oedd enw ardderchog i ddyn yn ei dde- chreuad. Geilw Solomon ef yn ddyn uniawn (Preg. 7 : 29). Yr oedd yn uniawn ei gyflwr, uniawn ei galon, ac uniawn ei ffordd. Yr oedd hefyd yn ddyn ar lun Duw, yn ddoeth, yn sanctaidd, ac yn gyfiawn ; ac yn y pethau hyn yr oedd oll yn berffaith ysbrydol. Ond yn awr dyma ei enw : " Dyn anianol." Dy- wedir hyn mewn cyferbyniad i ddyn ysbrydol yn yr adnod nesaf: " Yr hwn sydd ysbrydol sydd yn barnu pob peth." Megys y cyferbyn- ir corph anianol â chorph ysbrydol, felly cyf. erbynir dyn anianol â dyn ysbrydol. Pa fath un yw y dyn anianol ? (1.) Mae dyn anianol heb dderbyn yr Ys-