Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xli.] RHAGFYR, 1878. ÍEUENCTYD CRIST. [Rhif. 504. Arweiniol. Gan y Parch. Proffeswr Llewelyn I. Evans, D. D., Coleg Lane, Cincinnati, Ohio. *» r Iesu ei hun oedd yn nghych dechieu ei ddeng-mlwyddar-hugain oed."—Luc iii. 23. Neu yn hytrach :— A r Iesu ei hun pan yn dechreu [hyny ydyw, ei weinidogaeth], oedd yn nghylch deng-mlwydd-ar-hugain oed.' X niae rhywun wedi sylwi fod ysbrydoliaeth ^n nystawrwydd yr Ysgrythyrau. Profìr fod y ei°l yn air Duw nid yn unig trwy yr hyn y ìae yn ei ddyweyd, ond hefyd trwy yr hyn y ae yn ei adael heb ei ddyweyd. Yr un modd seUir dyweyd fod ysbrydoliaeth yn ei awgrym. Qau. y mae yn dysgu llawer o bethau i ni, '~ yn uniongyrchol, ond yn anuniongyrchol; yn gyflawn, ac ar unwaith, ond yn raddol c *newn rhanau. Y mae yn dyweyd tipyn yn " tan yma, a thipyn yn y fan acw; a thrwy §rynhoi ei wahanol ddywediadau yn nghyd, yr ydym yn dyfod o hyd i'r holl wirionedd. Felly gyda golwg ar oedran Crist. Yr hyn Wyddom ar y mater yma, yr ydym yn ei ysgu trwy gymharu gwahanol awgrymiadau § sydd yn wasgaredig yn yr efengylau. Un r rhai hyn yw y testyn. Yma fe'n hysbysir ai tua deng-mlwydd ar-hugain oed oedd Crist **n yn dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddus. uiwrth awgrymiadau eraill, yr ydym yn asglu mai yn mhen tair blynedd ar ol hyny y tarw, yr adgyfododd, ac yr esgynodd i'r • Fel hyn yr ydym yn gweled fod yr hyn ag sydd yn hynodi bywyd yr ARGLWYDD Esu yn syrthio oddi fewn i derfynau tymor «enctyd. Ieuanc oedd yr Iesu pan yn add- gn y bobl, pan yn marw ar y groes, pan yn gyfodi o'r bedd, a phan yn esgyn i eistedd r ddeheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd. Ac os ieuanc pan yn ymadael* o'r byd, ieuanc yn awr a thros byth. A gallwn fod yn siwr mai ffaíth yw hon a rhyw ystyr iddi yn y byw- yd dihafàl hwn. Y mae yn deilwng o'n sylw ar yr un pryd nad yw y Beibl yn gwneyd dim ystwr yn ngbylch y ffaith hon. Yn gyffredin y mae bywgraffwyr y rhai sydd yn hynodi eu hunain yn moreu eu hoes, yn ofalus i alw sylw y byd at ieuenctyd eu harwyr pan yn cyflawni eu gorchestion, neu yn arddangos eu rhagoriaethau. Felly yr yd- ym yn cael yn mywgraffiadau dynion fel Pas- cal, Pitt, a Napoleon. Nid felly y Beibl. Luc yw yr unig efengylwr ag sydd yn gwneyd un- rhyw grybwyîlion am oedran Crist. Y testyn yw yr unig ddadganiad yn nghylch oedran Crist mewn cysylltiad â'i weinidogaeth. Nid yw Luc, yntau, yn dyweyd wrthym mewn cy- nifer o eiriau beth oedd oedran Crist pan y bu farw, neu pan yr esgynodd i'r nef. Nid oes un o'r ysgrifenwyr tsanctaidd yn gosod pwyslais ar ieuenctyd yr Iesu. Casgliad yw ein gwybodaeth ar y mater. Ond y mae y gair yr un mor ofalus i beidio a'n gadael mewn anwybodaeth yn nghylch y mater. Y mae yma wirioneddau rhy bwysig i'w cadw o'r golwg. Y mae ieuenctyd Crist yn ei fywyd a'i farwolaeth ar y ddaear, a'i ieuenctyd yn awr a thros byth yn y nef, yn ffaith ag sydd yn rhoi ystyr neillduol a phwys-