Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

354 Y Cymry yn America. [Medi, Dad nefol tuag ato, dywedai, " Wedi iddo fy mhroíì, deuafallan fel aur." Yna, *' Yrwyf yn rhydiau yr af- on ; bydd cystudd a galar wedi ffoi yn fuan;" gan ad- rodd yr hen emyn— " Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn, Dros enyd fechan ni 'madawn," &c. " Yno,'' meddai, " cawn ei weled megys ag y mae." Felly hunodd yn yrlesu, nos Sabboth, Meh/o, 1878, yn 48 mlwydd oed, gan adael gweddw i alaru ei cholled ar ei o). Yr Arglwydd a gyfîawno ei addewid ar ei rhan. Dydd Mawrth canlynol, claddwyd ef yn barchus gan dorf luosog o Gymru a chenedloedd eraill, yn nghladd- fa Woodland. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan y brawd James Thomas, perthynol i'r Wesleyaid Seisonig yn y lle. Heddwchi'w lwch ydyw dymuniad yr ysgrifenydd. Thos. D. EvAns. MRS. ANN GREEN. Ebrill 6, 1878, yn Pittston, Pa., bu farw Mrs. Ann Green. Ganwyd hi yn Llanidloes, Sir Diefaldwyn, G. C, yn y flwyddyn 1825. Pan tua deunaw oed, aeth gyda'i rhieni i Cendl, Sir Frycheiniog, D. C.lleyr ymbriododd gyda Mr. John P. Green; ac wedi byw yno yn y sefyllfa briodasol am tua deng mlynedd, daeth Mr. Green i'r wlad hon (America) yn y flwyddyn 1854, a daeth Mrs. Green, yn nghyd a'i thad a'i mam, yn fuan ar ei ol, yn yr un flwyddyn, i America. Yr oedd Mrs. G. yn un o saith o ferched, tair o'r rhai oedd wedi ei blaenu trwy angeu. Bu iddi hithau saith o blant, un ferch a chwe' mab. Bu farw ei merch yn agos i flwyddyn o'i blaen, a bu farw un mab iddi heb fod yn hir ar ol ei merch (Mrs. Evans, Morganvílle); a buhithau farw Ebrill 6, 1878, yn 53 mlwydd oed. Yr oedd Mrs. Green yn aelod grefyddol gyda'r M, C Ond pany darfu i'r M. C. roddi i fyny gynal modd- ion crefyddol oblegid eu gwendid, ymunodd hi a'i phri- od, ac eraill, â'r Cynulleidfaolwyr yn y lle, ac mewn undeb â hwy y bu farw. Bu farw yn hollol gysurus o ran ei meddwl; nid oeddyn ofhi ý glyn o gwbl. Can- odd lawer yn ei dyddiau olaf yn weddol beraidd, ag ys- tyried ei bod mor wan ; ond y màe yn canu yn bereidd- iach heddyw, a'i henaid yn ddigon cryf i ddal oes dra- gjwyddol o ganu. Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth ; bu yn nychu am tua deng mis. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus— torffawr o wahanol genedloedd wedi ymgyfarfod i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Yn gweini ar yr amgylch- iad yn y ty, yn y capel ac wrth y bedd, yr oedd y Parchn. W. D. Jenldns, W. H. Williams, E. J. Hughes, J. E. Davies (M. C), a'r Parch. N. G. Parlces (P.) Yr oedd Mrs. Green yn ddynes o fywyd hardd cyn ymuno a chrefydd, ac felly hefyd wedi iddi ymuno. Yr oedd yn ddynes hawddgar, siriol, gymwynasgar a hael- ionus. Ymgeleddodd lawer ar weision yr Arglwydd, ac yr oedd yn ymhyfrydu mewn cael cyfleusdra i wneyd hyn. Ac os deuai rhyw un o honynt i ymweled a hi yn annysgwyliadwy, ni byddai yn dywedyd (fel llawer), Nid oeddwn yn eich dysgwyl, onide buasai fel hyn neu fel arall ar eich cyfer. Na, pa un bynag ai dys- gwyliadwy neu annysgwyliadwy fyddai yr ymwelydd, derbyniai ef yn llawen, gan ei roesawu yn briodol. Ond yn awr y mae Mrs. Ann Green anwyl wedi myned ; ni welir ei gwên siriol yn croesawu neb mwy ar y ddaear. Cyfoded yr Arglwydd ychwaneg o rai tebyg iddi at y rhai sydd. Gadawodd briod anwyl a phump o feibion i alaru ar ei hol; ac yn wir, colled fawr oedd ei cholli o'r teulu, oblegid yr oedd yn wraig ddoeth a threfnus, ac yn fam dirion, ofalus a da. Caffed ein hanwyl frawd a'r plant gymorth i ymgysuro yn yr Arglwydd ar ei hol, yw ein dymuniad. Cymydog. MR. DAVID EDMUND MORGAN. Rhag. 12, 1877 yn ardal Horeb, Swydd Jacltson, O., bu farw David Edmund Morgan. Mab ydoedd i Dan- iel E. ac Eleanor Morgan, gynt o'r Cae-gwyn, Swyd" Aberteifi, D. C. Ganwyd ef Awst 28, 1845, yn yr U'1 lle ag y bu farw. Cafodd ei ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd ; ac ni ddangosodd un gogwydd erioed i ddi- ystyru na dibrisio y manteision crefyddol a gafodd yn rhinwedd ei berthynas â'i rieni. Pan ddaeth i oedran addas, daeth yn mlaen o hono ei hun i roi llaw i'r Ar* glwydd, gan ymrwymo i fod yn eiddo iddo o hyny all" an, a bu fiyddlawn hyd angeu. Cynysgaethwyd ef a chorph cadarn, a<- â meddwl llawer mwy galluog na r cyfFredin. Heb ond ychydig iawn o gymcrth, daethyn organydd, ac yn ddadganwr medrus. Anfynych y ceid un mor gymwys »g ef i arwain canu cynulleidfaol. *r oedd o dymer sinol iawn, yn un a hoffìd gan bawb. Yr oedd natur a gras wedi ei wneyd yn un hawdd i'w garU. Yr oedd bob amscr yn edrych ar yr ochr oreu i bob peth, gan gredu fud pob peth yn cyd-weithio er daioW i blant Duw. Mai 20, 1875, ymunodd mewn priodas â Miss Ellen J. Jones, aelod o'r un eglwys. Yr oedd eu rhagolyg011 yn addawol iawn y diwrnod hwnw; ond O, mor siorn- edig y trodd y cyfan. Yn fuan ar ol priodi, symudas" ant tuag ugain milldir o'r sefydliad, i le aelwir Well&' ton, lleyrymgymerodd efe â bod yn book-keeŷer mewn store. Tra yno, bu yn ymdrechgar iawn mewn cysyht' iad ag erail i sefydlu a chynal eglwys yn y lle. Bydd- ai bob amser yn ofalus am yr addoliad teuluaidd. *r oedd pob peth yn gorfod rhoi ffordd i ddyledswyddaU crefyddol. Dechreuodd ei iechyd yn fuananmharu, fel y gorfu arno yn mhen deunaw mis ddychwelyd yti °_ i'w hen gartref. Yn Mai dilynol, aeth ef a'i briod, a ' frawd, i NashviIIe, Tenn., gan obeithio y buasai neW'd awyr, yn nghyd a dwfr y sulphur sỳrings yno, yn foddion i'w adferu. Ond gorfu arnynt ddychwelyd het> ei fod ddim yn well. Aethant eilwaith i Virginia at fiynonau yno, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd y darfo"' edigaeth wedi cymeryd gafael sicr yn ei gyfansoddiad> a gwthiodd ef yn mlaen yn raddol tua'r bedd. Dy°"d" efodd ei gystudd blin yn hollol dawel ac amyneddgar. Dywed ei briod na chlywodd ef unwaith yn achwyn> nac yn dyweyd ei bod yn galed arno. Ymddarostyng" ai gyda theimlad mabaidd o dan law ei Dad nefol, gan ddyweyd yn groew, " Gwneler a fyddo da yn ei olwë ef." Ychydig amser cyn ei ymddatodiad, gofynai ei briod iddo, os oedd arno ofn marw ? Gyda gwên dy- wedai, nad oedd. " Yr ydwyf fi (meddai) wedi rhoddi fy hun i'r Gwr sydd yn abl fy nghadw ; ac os marvv raid i mi, paid a gofidio ar fy ol; benthyg ydyro ' gilydd yn y byd hwn, ac y mae gan Dduw hawl 1 n galw oddi yma pryd y gwelo yn oreu. Ymorphwys a Grist, a rho dy hun iddo." Yr oedd yn hofFiawn o ddarllen a myfyrio ar hyd e^ oes; a phan wedi myned yn rhy wan yn ei gystudd ddarllen ei hun, yr oedd yn rhaid i'w briod ddarllen rhanau o'r Ysgrythyrau a darnau o bregethau iddo,