Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xíì.j MEHEFIN, 1878. [Rhif. 498. Arweiniol. CRIST O'R TAD, AC YN ANFONEDIG GAN Y TAD. Gan y Parch. R. Yaughan Griflîth, Columbus, 0. " Oblegid o hono ef yr ydwyf fi, ac efe a'm hanfonodd i."—Ioan 7: 29. Nid oes dim yn fwy angenrheidiol, na dim yn fwy buddiol a phleserus, nag ymroddiad egniol er cyrhaedd syniadau cywir am Berson yr Arglwydd Iesu a'i waith. A dichon fod rhyw bethau yn nodweddu yr oes yr ydym yn byw ynddi ag sydd mewn modd neillduol yn galw arnom i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn. Fodd bynag, gwyddom fod cryn lawer rhwng dynion a bod o'r un feddwl gyda golwg ar ûyn. Yr oedd gwahanol farnau am Grist yn mysg ei gyd-oeswyr, ac y mae hyn yn bod eto. Eithr nis gall unrhyw farn am dano fod yn gy- wir os na bydd sail iddi yn yr Ysgrythyrau. Gan mai Iesu Grist yw unig Iachawdwr y byd—yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dyn- lQn, ac mai efe yn y cymeriad hwn yw hanfod Cristionogaeth—y mae o'r pwys mwyaf ein bod yn gywir ein syniadau o berthynas iddo. Adnabyddiaeth o Dduw yn a thrwy Grist yw °ywyd tragywyddol o ran ei natur a'i hanfod. loan 17 : 3; ac o herwydd hyn nis gallwn fod yn rhy ymdrechgar i gael syniadau clir ac ea«g am ei Berson a'i waith. Mae yr hyn a ddywedodd Crist yn bwysig; ond y mae yr hyn ydyw ac a wnaeth drosom yn bwysicach fla hyny. Oblegid yr hyn ydyw o ran ei Ber- son sydd yn gosod mawredd ar yr byn a ddy- Wedodd, a gwerth yn yr hyn a wnaeth. Yr oedd rhai yn mysg y dorf oedd yn gwran- ^0 arno yn awr yn proffesu eu bod yn ei ad- nabod; ac yr oeddynt yn defnyddio y wybod- aeth a feddent fel prawf yn erbyn gwirionedd ei Fessiaeth. " Nyni a adwaenom hwn, o ba le y mae ; eithr pan ddêl Crist, nis gwyr neb o ba le y mae." O Nazareth yn Galilea y mae hwn yn dyfod; ond fe ddaw Crist yn ddisym- wth, ac ni bydd neb yn gallu dyweyd pa fodd, nac o ba le. Camgymeriad oedd hyn, heb un sail iddo yn y prophwydoliaethau. Mae yr Arglwydd Iesu yn eu hateb yn yr adnod nesaf. " Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wydd- och o ba le yr ydwyf fi; ac ni ddaethum i o honof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi." Adn. 28. Yr oeddynt yn ei adnabod o ran y cnawd—gwyddent mai mab Joseph a Mair ydoedd—gwyddent, efallai, ei fod wedi bod yn gweithio fel saer yn Nazareth; ond gyda golwg ar ei darddiad dwyfol yr oeddynt yn berffaith anwybodus. Nis gwydd- ent mai efe oedd y Gair ymgnawdoledig—un- ig Fab y Tad, ac Arglwydd nef a daear. Pell oeddynt oddiwrth ei adnabod yn yr ystyr yma. Ac nid oeddynt yn adnabod y Tad chwaith fel'y dylasent; oblegid pe buasent yn adnabod y Tad yn briodol, buasent yn adna- bod y Mab hefyd. " Y neb a'm gwelodd i a welodd y Tad." " Ond myfi a'i hadwaen ef." Y mae efe yn adnabod y Tad yn berffaith, ac am hyny yn