Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1873. HENADüRIAETHOL. 47 6 arn, yn agos i Bethania, swydd Aberteifi, Ebrill 3, 1836. Ymfudodd ei rieni i'r wlad hon yn y fl. 1847, a sefydlasant yn swydd Jackson, Ohio. Dy- oddefodd lawer o boenau pan yn bur ieuanc oddi- wrth y rheumatic fever, felly y bu yn bur afiach trwy ei oes. Daeth yn gyfiawn aelod gyda y T. O, o 15 i 20 mlynedd yn ol, a daliodd ati hyd y diwedd. Nid proffes yn unig oedd ganddo ond yr oedd pawb a'i hadwaenai yn barod í dystio ei fod yn feddianola'r wir dduwioldeb. Yroedd yn aelod defhyddiol a chymeradwy iawn yn yr eglwys. Safai yu uchel fel cristion yn meddwl y rhai a'i hadwaenent oreu. Gallwn ddyweyd am dano, fod geirwiredd, cywirdeb, a gonestrwydd, yn brif el- fenau ei gymeriad. Gofalai ddyfod yn brydlon i foddion gras cyhyd ag y gallodd, ac wedi dyfod gwnai ei oreu yn yr Ysgol Sul, a phob rhan o'r gwaith. Yr oedd yn hynod g^rda'i gyfraniadau; byddai ef bob amser yn barod i gyfranu at bob achos da—byddai yn rhoddi yn llawen ac nid yn drist. Bu John ei frawd farw 3rn y rhyíel ddiwedd- af, felly, Evan oedd yr unig fab oedd wedi ei adael! O ! er íod y tad yn ei garu fel ei enaid ei hun, dacw angeu yn gyfaelyd ynddo, a'i ddwyn ymaith, fel yr oedd pob gobaith oedd gan y tad wedi dar- fod. Nid felly, yr oedd yr ymadawedig, yr oedd ef yn gobeithio pan yn angeu. "Y cyfiawn a obeithia pan fyddo marw. Ar y 7ed o Fawrth, eiiedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef. Mawrth 10, cynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei ran farwol i fynweut Moriah, i'w gladdu wrthochr ei fam. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. John W. Evans; ar lan y bedd gan y Parch. R. Will- iams; ac yn y capel cawd sylwadau pwysig gan y Parch. Robert Williams, oddiar Phil.3: 21. Bydd- ed i'r perthynasau ymdawelu gan gofio mai Duw sydd yn rhoi, ac yn dwyn ymaith. Gobeithio y caiff y tad galarus ymdaweic: o dan yr amgylch- ìadau gan gofio fod Duw yn ddoeth, ac yn cymeryd yr hwn oedd barod ymaith, ac y bydd y tro hwn yn foddion yn llaw Duw i beri iddo ymofyn am yr un grefydd ag oedd yr ymadawedig yn feddu. E. D. Evans. Dymunir i bapyrau Cymru godi yr uchod, er mwyn y perthynasau sydd yno. MRS. CATHERINE T. JONES—priod Mr. John T. Jones, ger Oak Hill, swydd Jaclcson, Ohio. Merch ydoedd i Mr. James a Jane Jenkins. Y lle yr oeddynt yn byw cyn ymfudo i'r wlad honydoeddPenbrynrhyg,plwyfLlan-dewi-brefi, Cer. Ganwyd Mrs. Jones yn y flwyddyn 1823. Ym- fudodd ei rhieni i'r wlad hon pan oedd hi tua i4eg oed, a sefydlasant yn y gymydogaeth a nodwyd. Priododd a Mr. John T. Jones, pan oedd tua 18 oed; ailwraig i Mr. Jones ydoedd. Buont byw mewn gwahanol leoedd yn y sefydlíad a nodwyd. Yr oedd Mrs. Jones yn fam i 14 o blant, 4 wedi marw, a 10 yn fyw. Yr oedd yn aelod gyd&'r M. C. yn Oak Hill, ac o ran ei hymarweddiad y cyfryw y gallesid gobeithio ei bod yn " Israeliad yn wir." Bu am flynyddoedd yn dihoeni gan afiechyd yr afu; hwnw yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd er ymdrech rhai o feddygon goreu y gymydogaeth. Eto, mynu ei ffordd yr oedd er y cwbl. Dyoddef- odd gystudd blin, eto yn dawel ac amyneddgar. Terfynodd ei gyrfa yn y byd hwnSabboth y 27ain, o Ebrill 1873, gobeithiwn i fwynhau Sabboth tra- gywyddol. Claddwyd hi Ebrill y 30, yn mynwent Oak Hill, y brawd John W. Evans, yn pregethu yn y claddedigaeth. MRS. MARY HAMILTON—merch ydoedd i Mr. John T. Jones, o'r wraig gyntaf. Ganwyd hí yn Aberystwyth, Mehefin 24, 1837. Yr oedd wedi priodi a Mr. Joseph Hamilton. Gan nad oeddym yn adnabyddus o honi, nis galîwn roddi fawr o'i hanes; ond cawsom ein hysbysu ei bod yn aelod gyda'r Cynulleidfaolion yn Cincin- nati,0. Claddwyd hi Medi 27,1873, yn nghladdfa y teulu yn mynwent Oak Hill, y brawd Evan Evans Nantyglo, yn pregethu yn y claddedigaeth. Cymydog. Gymanfa Efrog îíewydd a gynaliwyd yn Middle Granville, Hyd. 16—17,1873. CYMEDROLWR : PARCH. JAMES JARRETT. Am 10 a 2 o'r gloch y dydd cyntaf cyd- gyfaríu aelodau y Gymanfa, pryd y pender- fynwyd y pethau canlynol yn nghyd a phethau eraill perthynol iddi. i. Ymfîurfiwyd yn bwyllgor trefnol i ystyried yr hyn a ddygid i sylw. 2. Penderfynwyd i'r Gymanfa nesaf i fod yn Rome, dyddiau Iau a Gwener cyntaf yn Mehefìn. 3. Dewiswyd y Parch. Hugh Davies yn Gymedrolwr am y fìwyddyn nesaf, a J. H, Jones yn Ysgrifenydd. 4. Derbyniwyd y brawd David Williams i'w gyflawn swyddogaeth fel gweinidog