Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyírol XXXII. MEDI, 1860. Rhifyn 3&3. %xbthhL YR YSTORM A'I THAWELWOH, "Ac wedi iddo fyned i'r llong," &c.—Mat. 8.23—27. Ymddengys ddarfod i wyrthiau Crist yn Capernaum dynu torfeydd lawer o'i amgylch o wahanol barthau y cymydogaethau cylch- ynol. Gwelir yn ngweinidogaeth bersonol yr Arglwydd lasu gyflawniad o hen brophwyd- oliaeth a aeth o'r blaen am dano ef. Dywed Jacob ar ei ẁely angau, o dan ddylanwad ys- bryd prophwydoliaeth: "Nid ymedy y deyrn- wialen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl y Siío; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd lawer." Yn ystod ei fywyd byr cyhoeddus, ymgasglodd tyrfa- oedd lawer o'i amgylch. Yr oedd ei fywyd cyhoeddus yn cynhyrfu yr holl wlad. I ba 1« bynag yr elai—pa un bynag ai i'r mynydd dystaw, y dreflan wledig, y traeth unig, tyn- ai dyrfaoedd ato. Magnet oedd ei fywyd yn tynu ati ei hun bawb ar a oedd o fewn cylch ei dylanwad. Un i dynu ato ei hun ydyw Crist—i dynu pob cenedl, ll^yth, ac iaith; p»b gwlad, a chyfandir—pawb. " A minau, os dyrchefir fi oddiar y ddaiar, a dynaf bawb ataf fy hun " Mae y dyddiau i wawrio pan y bydd holì drigolion y ddaiar, a'u holl deim- ladau, meddyliau, a'u heneidiau yn centro yn ei Berson ef, ac yn ymsymud wrth ei Ewýllys ef. Un o ryfeddodau bywyd Iesu Grist ydyw ei awyddfryd i ochel poblogrwydd. Mae yr amgylchiad sydd o'n blaen yn engraifft o hyn. Dywedir yn y 18fed adnod, " A'r Iesu Pan w-elodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynodd fyned drosodd i'r lan arall." în y fan efe a aeth i long i " fyned drosodd ì'r lan arali." Nid yw yn hawdd penderfynu beth allai fod y rheswm oedd gan yr Iesu dros osgoi poblogrwydd a nodedigrwydd. Ef- allai f od hyny yn codi yn naturiol oddìwrth wir fawredd pa le bynagy ceir ef; eithr ni chaf wyd hyny erioed yn gymaint ag yn nghy- meriad yr Arglwydd Iesu. Arwydd amddi- fadrwydd o sylwedd gwir fawrejdd ydyw awyddfryd am fod yn boblogaidd. Efallai mai er dymchwel y dysgwyliad hwnw oedd yn yr Iuddewon—rhwysg, poblogrwydd, a nodedigrwydd a gydgorff orent yn eu Messiah tybiedig hwy. Efallai mai er cuddio © ölwg y bobl bob tebygolrwydd i'r hyn y buasai dyn yn debyg o gydio ynddo, a'i drysori yn fan- teisiol iddo ei hun. Barnodd yr Iesu yn ddoeth i wneuthur hyny oddiar ystyriaethau nad amlygwydini eto. Eithr nid oesam- heuaeth nad oedd Crist yn ymddwyn felly oddiar ddoethineb, oblegid Doethineb Duw ydyw Crist. Defnyddiwn yr amgylchiad hwn i ddangos cymeriad ystorm bywyd dyn, a'r llywodraeth fawr sydd gan Dduw arni. I. MAE YSTOItM DYN YN FYNYCH YN SYDYN iawn. Yr oedd y dysgyblion ychydig am- ser yn ol yn uchel eu hysbryd, yn llawen eu calon, yn siriol eu meddwl. Edrychent ar yr Iesu yn iachau y cleifion, yn bwrw allan yr ysbrydion â'i air; gwelent hen brophwydol- iaeth Esaias yn cyfarfod a'i chyflaẁniad: "Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddyg ein clefydau." Edrychent ar fawredd ac awdurdodeu Hathraw, y clefydau yn ymgií- io o'i flaen—y cythreuliaid yn ffoi rhagddo-— gwendid yn ymgolli mewn nerth—cryndod y cryd yn llonyddu mewn sefydlogrwydd— galluoedd y tywyllwch yn diflanu o flaen nerth ac awdurdod ei air. Ymlawenychent yn eu diogelwch o dan nawdd y fath Athraw; efallai eu bod yn dechreu portreadu o'u blaenau ryw baradwys iddynt hwy eu hun- ain ar y ddaiar yma, heb "na chlaf na chlwyf -