Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAI'LL. Cyírol XXXII. MEHEFIN, 1869. Eliiiyn. 389. T DÍWEDDAE BAECHEDIG HENEY EEES. GAN Y PAHCII. ItOGER EDWARDS, WYDD- GRUC, G. c. Pan, gyda theimlad o foddhad neülduol, y cyflwynem i'n darllenwyr yn ein rhifyn cynt- af am y flwyddyn hon, ddarlun rhagorol y Parch. Henry Rees, gyda'r bregeth effeithiol o'i ysgrifen ef ei hnn, yr hon yr oedd parhad o honi yn y rhifyn canlynol, ychydig a fedd" yliem y byddai raid i ni mor ebrwydd arfer y gair diweddar, yn ol yr arfer ar y ddaiar, yn nglŷn ag ef. O, mae yh anhawdd i ni syl- Weddu hyn fel gwirionedd: Mr. Rees wedi aaarw ! Ond gorfydd i ni gredu; ni chawn weled ei wyneb 'ef mwy. Mae'r tafod a fu yn efengylu pethau daionus, nes cynhyrfu miloedd ar unwaith, yn ddystaw yn mudan- dod y bedd. Mae yr hwn oedd, nid yn un yn mysg dosbarth, ond yn f renin yn mhlith tywysogion, wedi ei gymeryd ymaith. Er y dylem ddiolch yn wresog i'r Nefoedd am ei adael ef i ni mor hir, nid oeddem eto yn bar- od i ddysgwyl ei farwolaeth; nid oeddem yn addfed i'w ollwng oddiwrthym. Och o'r diwrnod y rhoed yr enwog a'r anwyl Henry Reesyn eifedd! Yr oedd natur a gras wedi ei fawrhau ef. Cafodd ddynoliaeth gyflawn. Gellir cael y fath beth a'r Cristion, gyda'r pregethwr hefyd, ond y dyn ar ol. Canfyddir y doniol, a chredir, ysgatfydd, fod ý dawiol yno; ond y mac'r dynol yn ddiffygiol iawn. Eithr sim- ean fydd y weinidogaeth, ac nid mor hardd y Oristionogaeth na byddo dynoliaeth dda yn waelod iddynt. Ond ceid yn Mr. Rees ddyn cyflawn a thrwyadl; yr oedd ef e yn naturiol yu wr o synwyr cryf, deall craíî, athrylith a doniau mawrion. Yr oedd y Goruchaf wedí ei lunio o'r groth i f od yn was iddo ef, ac yn un o'i brif weision. Ni wna unrhyw fantais o ran dysgeidiaeíh, nac unrhyw gydgyfar- fyddiad o amgylchiadau ffafriol, byth gyn- yrchu deall, dawn, a medr, os na bydd Tad yr ysbrydoedd yn gyntaf wedi bwrw yr had- au o honynt i'r enaid a wnaeth. Megys y mae rheswm, sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth anifail yn dyfod oddiwrth Dduw, mae'r talentau, sydd yn gwahaniaethu y naill ddyn oddiwrth y Uafl, yn dyfod yr un modd oddiwrtho ef. Ychydig a feddyliai neb o hen Fethodistiaid Llansanan wrth weled y bachgen teneu, tal, Henry, mab Dafydd Rees, Chwibren-isaf, "yn rhedeg ar ol y def- aid ar hyd ochrau blinion Bronllywelyn," fel y dywedai efe ei hun ei fod, y byddai'r bach- gen hwnw yn un o brif bendefigion Method- istiaeth Gymreig. Ond yr oedd Duw wedi ei f arcio allan yno iddo ei hun. Ryw dro ar noson haf, pan yr oedd efe yn fachgen bychan, saith neu wyth oed, yr oedd yr ef engylydd poblogaidd, y Parch. John Ev- ans, Llwynffortun, neu Mr. Evans, New Inn, fel ei gelwid fynychaf yn y Gogledd, yn pregethu yn hen gapel Llansannan. Yr oedd Mr. Evans y pryd hwnw yn wr ieuanc glan- deg, yn agos i ddeg-ar-hugain mlwydd oed, a'r holl wlad yn heidio ar ei ol; a chan mor orlawn yr oedd y capel, rhoed Henry bach gan ei dad i eistedd yn nhwll y simddai oedd yn nhalcen y capel. Eeth pe rhagddywed- asai rhywun ar y pryd, " A welwch chwi y bachgen bach sydd yn eistedd ar y pentan yna, a'i lygaid yn serenu ar j pregethwr? Fe fydd y bachgen yna ryw bryd yn pregethu yn yr oedfa ddeg yn Sasiwn Llangeitho ar ol Mr. Evans," buasai hyny yn anhygoel gan y rhan fwyaf oedd yn yr oedfa hono. Ond felly y gwelwyd ar ol hyny. Yn gystal a rhoddi iddo ddawn tuag at