Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y \j Y Jb _Ä-1 1j JLi. Cyfrol XXXII. 3VIA.WR,TH:, 1860. íthifyn 386, ADDYSG AT GYPEIF EIN DYDDIAU. PREGETH GAN Y PARCH. HENRY REES. ( Wedi ei hysgrifenu ganddo ef ei hun.) "Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb."—Salm xc. 12. Fe ddylai breuder ein hoes, sicrwydd ein marwolaeth, ac ansicrwydd yr amser y daw, manylrwydd y farn, a meithder tragywydd- oldeb, gael lle mawr ar ein meddyliau. Nid oes dim mewn bod sicrach na marwolaeth dyn, na dim mwy ansicr nag amser marwol- aeth dyn, ac eto y mae plant dynion, gan mwyaf, yn byw yn y byd fel pe byddent i fyw ynddo byth. Y mae y Salmhon yn caeleigalw "Gweddi Moses, gwr Duw." Fe'i cyfansoddwyd gan- ddo, o bosibl, yn agos i ddiwedd ei oes, pan oedd plant Israel ar fyned i'r Ganaan ddaiar- ol, ac yntau i'r un nefol; ac ynddi y mae yn adolygu taith yr anialwch, a goruchwyliaeth- au Duw tuag at y genedl yn y tymhor hwnw. Yn fuan wedi ei gwaredigaeth o'r Aipht, dar- fu i'r genedlaeth hono, ni a wyddom, trwy ei ûanghrediniaeth a'i gwrthryf el, ddigio y Gor- Uchaf yn y diffeithwch, ae yntau yn y can- lyniad i hyny dyngu yn ei lid na chaent fyn- «d i mewn i'w orphwysfa ef. Canlyniadau y cwymp echrys hwnw, dyb- ygid, yw baieh y weddi yn y Salm hon. Mae 7 prophwyd yn cwyno ynddi, bod eu heinioes hwy wedi ei byrhau trwy fam Duw, ac nid yn unig hyny, ond bod yr einioes fer hono yn Üawn o bob trueni. " Treuliasom ein blyn- yddoedd fel chwedl, hyny yw, yn gwbl ofer a ûifudd. Wedi eu dedfrydu i gwympo yn y ^iffeithwcb, yr oedd eu heinioes yn flin a di- amcan iddynt yn debyg i'r collfarnedig yn ei gell dywell, yn byw yn unig i aros marw. Mae eraill, gallasai Moses ddyweyd, wedi cael hir ddyddiau i weled daioni, a marw mewn tangnef edd, ac yn gyflawn o ddyddiau, ond am danom ni,—"yn dy ddig y dyfethwyd ni, ac yn dy lidiogrwydd y'n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dir- gel bechodau yn ngoleuni dy wyneb. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddig- ofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl." Cwynion trymion yn ddiau. Ac os ydym i olygu, fel yr awgrymwyd, fod yn- ddynt ryw gyfeiriad neillduol at yr oes hono, y mae yn rhaid i ni hefyd gredu eu bod yn cynnwys cywir bortread o'r einioes ddynol yn gyffredinol, yn mhob cenedlaeth ac oes. ' 'Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torir ef ymaith ; ac efe a gilia fel cysgod, ac ni saif." Ac fel yr oedd plant Israel gynt, felly y mae plant dynion eto. Nid ydynt yn credu bod einioes yn fer, ac angau yn sicr • îe, yn yr amseroedd mwyaf marwol, pan y mae eu cydgreaduriaid yn ctel eu dwyn ym- aith megys â llifeiriant i'r bedd; claddedig- aethau yn duo yr heolydd a'r ystrydoedd, sfx mynwentydd yn fyw gan y lluaws sydd yn cyrchu iddynt i gladdu eu meirw, eto y mae lluaws o bobl, hyd yn nod mewn amgylchiad- au felly, yn gallu myned a dyfod gyda neges- euau y bywyd hwn, heb osod dim at eu calon. Tra mae dyn yn teimlo ei fod yn fyw, y mae yn anhawdd ganddo gredu y bydd efe marw. Felly er ein bod yn gwybod nad yw swm ein blynyddoedd ond bychan, eto y mae arnom eisiau doethineb a nerth i sylweddoli hỳny, ac y mae genym bob rheswm i weddîo gyda'r Salmydd, "Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb." Mae y gair "felly " yn y testyn, yn cyfeirio, fe ddi- chon, at adn. lOfed: " Yn nyddiau ein blyn-