Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Oyfrol XXXI. IIY'DR.EIT' 1868. Rliifyn 391, ^rfothtfol. DU WIOLDER BOEEUOL, GAN Y PARCH. J. MOSES, NEWAKK, O. "Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd."—Patjl. Dywed Cushman " Fod y gair Hebraeg, yr hwn a arwydda berson dewisedig, yr unrhyw ag a arferir yn gyffredin trwy yr Ysgrythyr- au i arwyddo person ieuanc. Ymddengys felly y myn yr Argiwydd i bobl ieuainc fod yn bobl ddewisedig, yn genedl neillduedig, yn bobl briodol —bechgyn (fel y dywedir yn Daniel) cymhwys i sefyll o flaen yr Arglwydd a Brenin yr holl ddaiar." Ai nid y meddyl- ddrych dwfn-dreiddiol, a'r syniad aruchel a barddonol hwn, yn ei amrywiol arluniau prydferth a ymddangosai o fiaen meddwl y prophwyd pan ddatganai ei foes-wers ar- dderchog i bobl ieuainc ? "Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctyd." Os ydyw yr ieu- enctyd gan hyny yn wrthddrychau o gymaint sylw, dyddordeb, a ffafr gan y Goruchaf, a ydyw eglwys Dduw yn cyfiawni y swyddog- aeth yr ymddiriedwyd iddi yn deilwng, tra yn ddiofal, dilafur, a disylw o'r ieuenctyd sydd o dan ei nawdd a'i llywodraeth, am ba rai y gorchymynir i'r eglwysi fel rhieni, "Maeth- Wch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd ?" Nid oes gan hyny un gorchwyl yn f wy ardderchog, yn f wy pwysig, ag y dylid ei ddwyn yn mlaen gyda mwy o ddyf alwch a diwydrwydd nag addysgiaeth grefyddol i'n plant, yr hyn sydd yn gyfystyr â duwioldeb boreuol. Ser dysgleiriai yr eglwys yn mhob oes yw ei meibion a fagodd ac a feithrinodd ar ei bronau ei hun, y rhai yw ei hanrhyd- edd a'i gorfoledd. Gyda'r fath bleser a dy- ddordeb yr ydym yn darllen am Joseph, Sam- Uel, Dafydd, Josiah, ac am Timotheus, yr hwn oedd "er yn fachgen yn gwybod yr Ys- grythyr lan." Mewn arolygiad ar y mater hwn, nid rhyfedd oedd i Dafydd ddywedyd gyda chymhelliad calon tad, "Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Ar- glwydd;" nag i Solomon roddi y cynghor— " Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd;" ond yn arbenigol i'r Iesu or- chymyn i genecllaeth i ddyfod: "Gadewch i'r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherdd- wch hwynt, canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw." Y mae rhwymedigaeth ddi- frifol ar rieni a'r eglwys i dalu sylw i'r plant ag y mae Duw wedi eu hymddiried o dan eu gofal. Dywed un gweinidog craffus, " Er ys blynyddau bellach yr ydym dan argyhoedd- iad dwys mai esgeuluso y plant yw un o brif achosion gwendid ac aflwyddiant yr eglwys." Y mae rhwymau ar eglwys Dduw i ofalu am blant pawb, ond y mae rhwymau dau- ddyblyg arni i ofalu am ei phlant ei hun, y rhai sydd wedi eu cyflwyno i'r Arglwydd, a'u bymddiried i'w gofal hithau. Dylid ymddwyn tuag at y cyfryw, a'u parchu fel ymgeisWyr am gyfiawn aelodaeth, yr hyn yw eu rhagor- fraint, a hyny yn brydlawn. ' Dywedai Archimedes, pe cawsai sylfaen safadwy i osod i lawr wifrwym, neu gynnal- bost y gallasai wneyd trosol (lever) digon nerthol i godi y belen ddaiarol, ar yr hon yr ydym yn byw. Y mae y sylfaen a'r gallu hwn yn meddiant yr eglwys i ddymchwelyd y byd moesol, ond gofalu am ei phlant. Yr oedd Persia yn enwog, gynt, am addysgiaeth ei phlant mewn sobrwydd, diwydrwydd, a chynildeb, yr hyn a roddodd y fath nerth, mawredd, a sefydlogrwydd i'w llywodraeth. Gwnaed yr eglwys addysgu ei phlant mewn duwioldeb boreuol, a gwrolder moesol, a buan y dymchwelir Babilon fawr pechod y ddaiar, fel y gall yr oes a ddel ganu a gorfol^ eddu: "Mwy nia gwelir.ond ei becld.f'