Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y OYFAILL. Cyfrol XXXI. 3VtEDI, 1868. Rhifyn 390. ADDYSO AO ADDOLIAD TEULUAIDD. PapyraddarUenwydynNgTiymanfa Oyffred- inol Llanidloes, gan y Parcli. B. Lumley. Y TEULTJ yw ffynnonell cymdeithas. Ychyd- ig deuluoedd sydd yn cyfansoddi y pentref, a Uuaws o deuluoedd a wnant ddinas, a theyrn- as, a chenedl. Teulu yw sylfaen yr adeilad- aetíi; ac os bydd hwn f el y dylai f od, bydd yr oruwchadeliadaeth yn ddiogel ac yn hardd. Gwelir dylanwad addysg ac arf erion yr ael- wyd yn mhob cylch mewn cymdeithas; ar grwydriaid a gwibiaid y byd, ac ar y rhai sydd yn rhodio uchelderau y ddaiar. 0 dan riniog y tỳ y rhed allan y dyfroedd sydd naill ai yn iachau neu yn gwenwyno cymydogaeth. Dangronglwyd, o bosibl, syddyn eithaf tlawd, ymae probleìns moesol mawr yn cael eu de- Ongli. Canfyddir hyn mewn gweithrediad cyson, megys deddf, a chydnabyddir hyn, yn ddiarwybod, gan y byd yn gyffredin. Pan y clywir am ryw drosedd mawr, rhyw gyflafan, neu achos crôg, yn y fan yr ydys yn pender- fynu fod y troseddwr wedi hanu yn ddrwg. Ychydig yw yr engreifftiau yn mysg y rhai a dreuliant eu hoes o garchar i garchar, nas gellir olrhain eu sefyllfa i esgeulusdod neu ddrygioni y rhai a'u magasant. " Had y rhai drygionus" yw y " meibion sy'n llygru." Ar yr ochr arall, fe delir parch i rieni rhai hyn- od mewn rhinwedd. Yn mysg y Chineaid, y ûiae yn ddeddf nad oes neb i dderbyn teitl ûeu urddas oddiwrth neb a'i rhagflaenodd; ais dichon y tad adael teitl i'w fab; ond os ennill neb iddo ei hun radd dda,|cyf rifir hyny yn anrhydedd i'w henafiaid; oddiar y syniad, fel mae yn debyg, nas gallasai gyrhaedd yr üchel-nôd heb eu cymhorth hwy. Onid oes yû eglwys Dduw esiamplau lawer o'r un peth ? * mae brasder yr]]addewid, y tywalltai Duw ei Ysbryd ar had Israel, a'i fendith ar eu hii- iogaeth, wedi disgyn ar gannoedd lawer o deuluoedd ar ol amser ei chyhoeddiad. Rhaid cyfaddef fod eithriadau nodedig o bryd i bryd i'w gweled, yr hyn sydd yn ein dysgu fod Duw pob gras yn "trugarhau wrth y neb y myno." Weithiau fe fydd had y rhai dryg- ionus, cywion yr estrys, yn dyfod i nythu yn ymyl "allorau Arglwydd y lluoedd;" dygir y pell yn agos, a " meibion dyeithr a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef;" a "phlant y deyrnas a fwrir allan gyda gweith- redwyr anwiredd." "Asa ydoedd berffaith gyda'r Arglwydd, er rhodio o'i dad yn ffordd Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu," tra y raae gwaradwydd ar Israel wedi dyfod o dan gronglwyd yr offeiriaid: " Meibion Eli oeddynt feibion Belial." Ond y mae y syn- dod a deimlir ac a ddadgenir am esiamplau o'r fath, yn profi fod rheol Duw wedi dwfn wreiddio yn ein meddyliau. Er dyddiau deddfwr Israel, yr hwn a fagwyd yn ffydd ei rieni, hyd amser Samuel y prophwyd, mab gweddîau ac addunedau ei fam, a'r pêr-gan- iedydd, yr hwn oedd yntau yn " fab gwasan- aethferch" yr Arglwydd; ac oddi yno hyd ddyddiau apostolion ein Harglwydd, yr oedd amryw o honynt hwythau yn blant i ryw Salome neu Fair, gwragedd a weiniasant i Fab y dyn. Cyfaddefìr nad oes un gorchymyn pendant, dim statute-law, yn ngair Duw am y ddyled- swydd o addoliad teuluaidd, na'i ffurf. Ond dylem ddeall mai llyfr egwyddorion, ac nid rhes o fàn reolau, ydyw y Beibl. Y mae rhyw ddyledswyddau yn cyfodi yn amlwg oddiwrth ein perthynas â Duw ac a'n gilydd, ac felly yn wasanaeth mor rhesymol, fel y maent wedi eu gadael i syniad cydwybod, ac heb un gorchymyn arbenig am eu cyflawní, Nid oes yr un gair deddf yn ein rhwymo i borthi a dilladu ein plant; y mae naturiaeth ei hun yn dysgu hyn. " Y dreigiau a rodd-