Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y xj 1 _r A1JL/ JLj. ? i <- Cyfrol XXXI. M.A."WIÌ.TI-I, 1868. ílliiíyii 384. %xtothiaL e> PFTDD. Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gob- eithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled,— Hbb. 11. 1. Desgrifir ffydd yn ei nhatur, ei nherth, a'i gorchestion yn eglurach, a chryfach yn yr unfed-bennod-ar-ddeg o'r Epistol at yr Heb- reaid, nag mewn un rhan arall o'r Ysgrythyr- au. Er.fod y Beibl, yn gyffredinol, yn llef- aru gydag eglurder iaith, ffìgyr, a syniad am ffydd, eto, coleddir syniadau mwy cyfeiliorn- us ar y pwnc hwn nag odid un mater arall. Ceir un dosbarth yn tybied, neu o leiaf yn ceis- io tybied, fod Cristionogion yn gwneyd ffydd yn rhyw beth i ddymchwel rheswm, a gwyb- odaeth dyn. Cyhuddid hwy gan Hume, gynt, 0 sylfaenu eu crefydd ar ffydd ar draul di- nystrio seiliau diwylliant, cynydd, ac ym- ddadblygiad galluoedd, a thalentáu y medd- wídynol. Eithr cyhuddir hwy gan y deddf- 01 o osod ffydd yn wrthwyneb i awdurdod y ddeddf foesol, a'r gweithredoedd moesol a hawlia gan ei holl ddeiliaid. Myn eraill fod y credinwyr yn gwneyd eu ffydd yr un peth a hygoeledd, gan osod crefydd i bwyso ar sail a hono yn ddim amgen nag of ergoeledd ffol, yn cyfodi o anwybodaeth oesau tywyll- ion y ddaiar. Gwrthddadleuir gan ddosbarth arall trwy haeru fod y Cristionogion yn gwneyd ffydd, fel y cyfryw, yn rhyw allu newydd yn yr enaid, gwahanol i ddim a fod- olai ynddo cyn eu dychwelyd at Gristionog- aeth; ac felly fod yna ychwanegiad gallu- oedd yn y dyn fel creadur. Cyfyd eraül yn eu herbyn trwy ddadleu fod athrawiaeth eu ffydd yn ei golygu fel gosodiad yn unig trwy awdurdod, er meddu iachawdwriaeth—heb un cymhwysder hanfodol ynddi i'r satìe a roddir iddi mewn Cristionogaeth amgen na gorchymyn—y byddai rhyw weithred arall o eiddo y meddwl yn llawn cystal a'r hyn a ddynodir ganddi hithau. Gwrfchwynebir y Cristion gnn eraill, trwy honi f od ei olygiadau ar ffydd yn cy sylltu y nef a'i dedwyddwcb wrth weithred yn y meddwl yn unig, yn hytrach nag wrth gymeriad a buchedd—gweithred- oedd a bywyd rhinweddol. Eithr y mae er- aill i'w cael nas gallant ddeall beth yw ffydd yn ei hanfod, er y gwyddant yn dda am ei chymhwysder a'i heffeithìau.. Yn awr, y darnodiad a rydd awdwr yr Epis- tol at yr Hebreaid o honi yw: "Saüy pethau yr ydys yn eu gobeìthìo, a sicrwydd y pethait, nid ydys yn eu gweled" Cyfieithir y gair sydd yma am " sail" gan rai yn " hyder^ " Ffydd yw hyder y pethau yr ydys yn eu gobeithio." Cyfieitha eraill ef yn "hanfod" "sylweddy Gwna y cyfieithiad hwn ffydd yr u.n peth a hanfod, neu "sylwedd y pethau yr ydys yn eu gobeithio"—fod y pethau hynÿ* o ran eu hanfod a'u sylwedd eisoes mewn ffydd —ffydd yn cymeryd gafael ynddynt ac yn tynu eu hanfod, a'u henaid i breswylio oddi mewn iddi hi ei hunan, a hithau yn cartrefu yn meddwl dyn, a thrwy hyny fod "y peth- au yr ydys yn eu gobeithio" o ran eu syl- wedd a'u byìvyd yn awr yn y meddwl. Neu, yn ol y Gymraeg, nid yn unig mae ffydd yn lí8aü" i ni obeithio am fwyn- had o ryw bethau dymunol, ond y mae y pethau hyny yn awr a'u sail mewn ífydd—yn pwyso ar ffydd fel adeiiad ar graig. Mae "y pethau jx ydys yn eu gobeithio," er eu bod yn y dyfodol, yn cael eu tynu o'r dyfodol tragywyddol hwnw gan ffydd yn sylweddau presenol, a'it gosod i lawr yn y presenol hwn ar "saii" gadarn anysgogadwy. "Ffydd yn wiryw saily pethau yr ydys yn eu gobeithio." Mae gan yr awdwr, ym.a, gyferbynion aw- gryrnol, a grymusol. Ár gyfcr " sail," neu sylwedd, gesyd y dyfodol eang, mewn amser a thragywyddoldeb. Tiriogaeth y dyfodol, a'r absenol sydd gan obaith i edrych arno; ac