Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXX. RHAGFYR, 1807. íttiifyii 381. fr %mt\k TBAGYWYDDOL GOSB YE ANNUWIOL. GAN * PARCH. WM. R. JONES, JTJD80N, MIN. " A'r rhai ond y rhai 25.46. hyn a ânt i gosbedigaeth dragywyddol, cyflawn i iywyd tragywyddol."—Mat. Iestj Grist lefarodd y geiriau hyn wrtîi ei ddysgyblion. Yr achlysur oedd f el hyn: Yn y bennod 23 yr ydym yn cael fod Iesu yn y deml yn Jerusalem, gyda'r Ysgrif enyddion a'r Phariseaid, yn Uef aru amryw bethau wrthynt, aç yn eu plith efe a ddywedodd, "Wele, yr yd- ysyn gadael eich tŷ ichwi yn anghyfannedd," gan gyf eirio at ddinystr y deml. Ac f el yr oedd efe ynymadael o'r deml, mae ei ddysgyblion, wedi iddynt ddeall am ei fygythiad yn erbyn y deml, yn dyfod ato " i ddangos iddo adeil- adau y deml," gan resymu dros eu parhad oddiwrth eu gwychder, eu cadernid a'u mawr- edd. Ond dywed yr Iesu wrthynt, " Ni ad- ewir yma gareg ar gareg ar nis datodir." Yna mae efe yn myned ac yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, ar gyfer Jerusalem, pryd y mae Pedr, Iago, ac Ioan yn dyfod ato o'r neilldu, gan ddywedyd, "Mynega i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd o'th ddy- f odiad, ac o ddiwedd y byd ?" Mae y gofyn- iad yn driphlyg: (a). "Pa bryd y bydd y peth- au hyn ?" (dinystr y deml a Jerusalem). (b)- ■" Pa arwydd fydd o'th ddyfodiad ?" (c). A "pha bryd y bydd diwedd y byd?" Yny 4 ad-- nod o'r 24 bennod, y mae'r Iesu yn ateb y gofyniad triphlyg dan sylw. Eithr nid ydyw yn ateb y gwahanol blygion, bob un ar ei ben ei hun; ond y mae yn cyd-ateb y tri rywbeth yn gymysgedig: a dyma y rheswm dros fod rhai ymadroddion yn y pennodau hyn yn an- hawdd penderfynu pa un ai at ddinystr Jer- usalem ai at ddiwedd y byd y maent yn cyf- eirio. Mae yma rai ymadroddion yn cyfeirio yn amlwg at ddinystr Jerusalem; rhai eraill y gellir eu cymhwyso at y ddau amgylchiad; a rhai eraill drachefn yn cyfeirio yn union- gyrchol at ddiwedd y byd hwn, a'r farn ddi- weddaf. Engraifft o un dosbarth ydyw ein testyn: "Y rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dra- gywyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragy- wyddol." Ac yn wir, mae y paragraph olaf o'r bennod hon yn cyf eirio yn amlwg at ddydd y f arn a diwedd y byd. Cynnwysa ein testyn ddau ddosbarth o bobl. lrn nechreu'r paragraph yr ydym yn gweled y ddau ddosbarth yn cael eu gwahanu oddiwrth eu gilydd, a'u gosod y naül ar dde- heulaw y Bamwr, a'r llall ar yr aswy i"r Barnwr; agelwir yr olaf yn "eifr," a'rblaen- af yn "ddefaid." Yna mae y Barnwr yn cyf- arch y "defaid" yn y geiriau hyn: " Deuwch chwi, fendigedigion fy Nhad, ac etifeddwch ỳ deyrnas a barotowyd i chwl er cyn seiliad y byd." Mynega eu rhinweddau, sef ffrwyth- au eu ffydd a'u cariad—gweithredoedd y dyn newydd. Yna cyfarcha y " geifr" gan ddy- wedyd, " Ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a barotowyd i ddiafol, ac i'w angelion," gan ddwyn ar gof iddynt hwythau yr hyn a wnaethent yn y corff—yr anmharch a ddangosasant iddo Ef a'i bobl; ac yna cloa y cwbl â'r geiriau hyn: , ''A'r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragywydd- ol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol." Yma gwelwn f od y ddau ddosbarth dan sylw yn wahanol iawn eu sefyllfa a'u cymeriad, a'u bod er hyny yn myned i gydoesi yr un tragywyddoldeb, me%vn dwy wlad hollol wa- hanol o ran eu nodwedflion: un yn gosbedig- aeth dragywyddol, a'r llall yn íywyd tragj'- wyddol. Sylwn ar y canljnol: "COSBEDIGAETII DRAÜYWYDDOL TR An- NCWIOD. i. Pa fodd yr aeth pccJmäur yn rhwym i fjoẁ. Mae y Goruchaf, fel rheol, yn cario eí