Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXX. HYDEBF, 1867'. üliifyri 3'7'9. &gofiata% I.-T PAECH. MOE&AN JOHÎÍ EHTS A'I DDTDD-LTPE. Awst 25ain. Yr ail ddydd o'r wythnos. "Yr iwn a gyfaddefo ei bechod, ac a'i gadawo, hwnw a gaiff drugaredd." "Gweled pechod a'i gyfaddef, Nid gwaith anhawdd ydyw'r ddau; Oüd ei deimlo, pwy all draethu Ddyfned yr archolli mae ?" Rhyw beth rhyf edd fod yr hyn a gyfrifir yn bechod mawr gyda rhai, yn cael ei ystyried yn rhinwedd gan eraill. Pechod mawr yn ngolwg Uawer yw lladd dynion; ond yn nghyf- rif rhyfelwyr, yr hwn a laddo fwyaf sydd yn haeddu mwyaf o glod. Os nad yw tywysog- ion, &c, sydd ar bob achos braidd yn myned i ryfela a'u gilydd, ac yn achos i íìloedd o'u cyd-greaduriaid gael eu rhifo i'r cleddyf, yn fwrddwyr, ni wn i pwy sydd. Am ladd un dyn, y mae cyfraith Lloegr yn gyfiawn yn condemnio y mwrddrwr i farwolaeth; ond y mae yr hwn sydd yn achos i fyrddiynau gael eu lladd yn fynych yn dianc heb un gosp yn y byd hwn. Nid oes dim yn proíì yn fwy eg- lur fod barn ar ol hyn. Mewn perthynas i grogi dynion braidd am bob trosedd^ nis gall dim fod yn fwy ynfyd. Yn fy mam i, a llaw- er gyda myfi, ni ddylid rhoddi un troseddwr i farwolaeth, oddieithr ei fod yn euog o fwrdd- dra. Y mae gwaed yn gwaeddi am waed. Pob trosedd arall a ddylid ei gospi trwy gaethiwo'r euog at ryw waith caled, yn ol natur y bai, dros gymaint o amser ag y di- chon y troseddwr ddyfod i ystyried ei ffyrdd, a diwygio. Dynion diog ac oferwyr yn gyff- redin sydd yn myned i ladrata. Fe fydd yn Uawer mwy dychrynllyd i'r rhai hyn gael eu gosod i weithio yn galed dros chwech neu saith" mlynedd, na chymeryd eu bywyd oddi arnynt. Ond i ddychwelyd, y mae'r hin heddyw yn hyfryd, ond bod y gwynt eto yn ein herbyn. Yr ydym weithiau yn hwylio i'r gogledd, bryd arall i'r deheu-orllewin; trwy hyn nid ydym yn gallu gwneyd fawr ffordd yn mlaen tua'r porthladd dysgwyliadwy. Weithiau 'n mlaen, yn ol drachefn, Wrth deithio ar y cefnfor glas ; Acw, draw y'mhell mae'r hafan, O na chwythai awel gras Ar fy ysbryd, oddiar fryniau Pur Caersalem nef ol draw; Tyred, Iesn, llanw'm hwyliau, Dwg fl adre' yn dy law. 26ain. Yn yr hwyr ddoe, fe drodd y gwynt ychydig o'n hochr, ac y mae yn parhau felly heddyw. Fe fu pysgodyn mawr, a elwir grarnpiis, yn gyf agos i'r Uong neithiwr; an- ferthol oedd ei faint, a mawr yr ystwr oedd yn gadw wrth fyned trwy'r dwfr. 27ain. Yn yr hwyr neithiwr fe drodd y gwynt yn,fwy yn ein herbyn. Y mae ychyd- ig yn well heddyw, ond bod cawodydd pwys- ig o wlaw, ac awelon cryf o wynt gyda hwynt. Yr wyf yn fwy llesg na'r diwmodau a aeth heibio. Y mae'r brawd J. Davies a chom- "wyd mawr wedi tori ar ei wddf; gobeithio mai nid y manwyníon ydyw. Y mae un dyn ieuanc arall yn bur sâl. Os na chawn hin dcg, fe fydd yma lawer yn ychwaneg o gleif- ion, canys y mae'r Ue yr ydym yn trigo yn- ddo yn rhy gyfyng o lawer i gynifer o ddyn- ion. Nid oes genym ond ystafell fechan i driarddeg-ar-hugain, rhwng plant. Pan na byddo yn gwlawio, yr ydym y rhan fwyaf o'n hamser ar fwrdd y llong. Ni buaswn i ddim yn myned gyda'r Uong hon ond fel yr oedd nnarddeg o'm cydwladwyr, heblaw eu plant, wedi cymeryd eu lle ynddi cyn i mi ddyfod i Liyerpool. Yr oedd y Cadben yn addaw na chymerai ychwaneg na dau neu dri gyda hwynt. Ond dyn drwg, cybyddlyd ydyw; y mae pawb yn y llong braidd yn achwyn arno. Yr ydym eisoes yn debyg o fod mewn prin- der dwfr; am bob peth arall, yr ydym ni, y