Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXX. mai, iser. Hliifyn. 3ÖS. CraetbteíJ|. I.-"PAROTOWCE FFORDD YR ARaLWYDD." [Dáelleswyd yr ysgrif ganlynol ger bron Cyf- arforì Henaduriaethol Swydd Gatsrfyrddin, D. C, Rhag. 13eg, ac ar daer ddymuniad, argraff- wyd hi yn y Cylchgrawn. Üyfansoddwyd hi gan y gŵr galluo*, a'r sylwedydd craffus, Mr. T. James, Llanelü ; a chan iddi gael ei darllen mewn lle_ mor bwysig a'r uchod, a'i bod yn trin materion o ddyddordeb i'r Cyfundeb yn gyffredinol, yr ydym ninau yn ei chyhoeddi yn y Cyfaili. er rnantais Methodistiaeth yn America.—Gol.] Nid oes un diwygiad pwysig a pharhaus ei ddylanwad yn cymeryd lle mewn gwlad nac eglwys heb lawer iawn o ragbarotoadau. Mae yr hyn a gyfyd yri ddisymwth, yn gyffredin, yn dra dieffaith, ac ya sicr o farw yn fuan; yn gyffelyb i gicaion Jonah, yn ymgodi mewn noswaith, ac yn diflanu mewn noswaith. Y rheswm am hyn yw, nad oes addfedrwydd cyffredinol i'w dderbyn ; rhyw beth ydyw ag sydd yn cael ei fodolaeth gyd ag ychydig ber- sonau, efallai ffrwyth dychymyg gwyllt, heb gael ei llywodraethu gan reswm ac ystyriaeth briodol. Peth hawdd ddigon yw gweithio ar deimladau y werin, a'u cynhyrfu i godi ar un- waith, yn llawn brwdfrydedd, o blaid ysgog- iadau newyddion ; eithr oni fydd y tir wedi ei fraenaru a'i wrteithio yn dda yn flaenorol; oni fydd y meddwl wedi ei barotoi a'i addfedu i'w derbyn, bydd y cwbl yn sicr o droi yn fethiant mewn ychydig amser. Mae mor angenrheidiol i'r amaethwr i wr- taithio ei dir yn dda, er cael ffrwyth toreith- iog, ag ydyw iddo daflu hâd i'r ddaiar ; ac y mae cael dynion cymhwys i addfedu'r wlad i dderbyn diwygiad mor angenrheidiol a chael dìwygwyr grymus i gynhyrfu'r byd. Yn nes- af at Gristionogaeth, yr hyn a elwir y "Diwyg- iad Protestanaidd," yw yr un a adawodd yr argraff ddyfnaf a mwyaf parhaus ar y byd o ddim a wyddom am dano ; eithr oni buasai fod y pantiau wedi en codi, a'r bryniau wtdi eu darostwng ; oni buasai fod y tir wedi ei fraenaru, a'r ffordd wedi ei pharotoi gan y í'ath ddynion a John o Goch, Jobn o Wesel, John Wessel, Wickiiffe. Huss, a Jerome o Prague, a buasai dysg a dawn, gwroldeb a phenderfyniad Luther yn terfynu mewn meth- iant cywilyddus, ac yntau yn myned yn ys- glyfaeth i'r tân. Ac edrych ar yr ochr ddyn- ol i'r diwygiad hwnw, amlwg ydyw fod dir- gelwch ei lwyddiant yn gynnwysedig, i raddaa pell, yn y parotoi a fu ar feddwl y bobl, a'r diwygwyr eu hunain, gan eu tadau yn yr oes- oedd blaenorol. Yr oedd ymddangosiad Ioan Fedyddiwr yn ngwlad Judea mor angenrheidiol er parotoi ffordd yr Arglwydd, ag ydoedd ymddangosiad yr Arglwydd i rodio'r ffordd hono. Yn ol ymadroddion Esaiah, ni allasai yr Arglwydd ymddangos tra yr arosai pethau fel yr oedd- ynt; rhaid oedd symud y rhwystrau, a bwrw i lawr yr anhawsderau, ac yna yr ymddangosai yr Arglwydd yn ei ogoniant. Yr oedd adeg ymddangosiad Ioan yn cyfàt- eb i'r gwaith oedd ganddo i'w gyflawni. Pe yr ymgymerasai rhywun gan' mlynedd cyn byny â'r gwaith o ddiwygio'r bobl, fel y gwnaeth Ioan yn awr, diamheu y daethai ef ei hun i warth, a'r genadwri i ddinystr. Nid yw at ewyllys dynion i ddwyn diwygiad oddiam- gylch pan y gwelont yn dda. Dywed Ulmann* fod tri pheth yn anhebgorol angenrheidiol er effeithio diwygiad:—Rhaid bod llygriad yn bodoli yn y cylch y mae i'w ddwyn oddiam- gylch j teimlad a cbydnabyddiaeth o'r angen- rheìdrwydd am ddyddimu y llygriad hwnw ; ac elfenau o gyfundrefn newydd a gwell yn *KeformerB before tbe Reformation,,!