Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cvfrol XXX. CHWBFROB, 1867'. üliifyn 362. PREGETH ANGLADDOL. Ar farwolaeth Mrs. Bannah Euans, West Ban- gor, Pa. GAN Y PARCH. E. F. JONES. " Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwol- aeth ei saint ef."—Psalm 116.15. Bywtd ydyw y peth gwerthfawrocaf wnaeth yr Hollalluog erioed. Nid yw hyny o aur, ac arian, a'r holl bethau ereill gwerthfawr sydd gan holl ddynion y byd, yn gydwerth â byw- yd un dyn. Colli bywyd ydyw y golled fwy- af. Gellir adferu cyfoeth, iechyd, a chymer- iad, ar ol eu colli; ond wedi eolli bywyd, nis gellir ei adferu yn ol. "Ond gẁr a fyddmarw, ac a dorir ymaith ; a dyn a drenga, a pha le ymae?" Teimlad cyffredin dynolryw yn mhob oes a gwlad ydyw, mai bywyd ydyw y peth gwerth- fawrocaf sydd gan ddyn. Gwyddai Satan mai dyma deimlad ac ymddygiad y patriarchiaid : "A'r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe, am ei einioes ;" a dyma deimlad ac ymddygiad cyff- redin dynion hyd heddyw. Y golled fwyaf i'r dyn ei hun ydyw colli ei fywyd ; a'r goll- ed fwyaf gan ei berthynasau. ei gyfeillion, a'i gymydogion, ar y cyfan, ydyw gweled dyn yn marw. Mae y golled yn marwolaeth dynion yn at- eb yu union i werth eu bywyd. Mae ambell fywyd yn fwy gwerthfawr na'u gilydd. Mae bywyd dyn yn fwy gwerthfawr na bywyd yr anifail. Mae bywyd yr anifail drachefn yn fwy gwerthfawr na bywyd y ilysieuyn. Ond mae ambell fywyd o'r un dosparth yn fwy gwerthfawr na'u gilydd. Mae ambell bren yn y goedwig yn fwy gwerthfawr na'r lleill; ac ambell anifail ar y maes yn fwy gwerth- fawr na'r gweddül. Felly hefyd, mae ambell ddyn yn fwy gwerthfawr o lawer na'u gilydd. Y dyn duwiol ydyw y gwerthfawrocaf o holl bobl y ddaiar yn nghyfrif y nefoedd. Mae llawer iawn o ddynion ereill yn ymddangos î ni yn bwysicach. Dyma brawf y rhydd tra- gywyddoldeb olwg wahanol iawn i ni ar law- er o bethau, i fel yr ydym ni yn eu gweled yn bresenol. Mae marwolaeth y dyn duwiol fel rhyw un arall yn ateb i'w fywyd. Mae ei fywyd yn werthfawr, ac y mae ei angau yn werthfawr hefyd. Os yw ei angau yn golled i'r ddaiar, nid yw yn golled i'r Arglwydd. Os yw y ddaiar yn cael ei cholledu, mae y Crist- ion yn ennill, a'r Arglwydd yn ennill, a'r nef- oedd yn ennill. Mewn gwirionedd, mae en- nill y nefoedd yn ennül i'r ddaiar hefyd—mae Abei wedi marw yn llefaru eto. 1. Pwy ydyw y tóbl y mae eu marwoîaeth yn werthfawr yn ngólwg yr Arglwydd ? "Eì saint ef." Carictor ydyw pob peth y byd tragywydd- ol, am mai carictor ydyw pob peth gorsedd Duw. Collodd yr angelion eu carictor, a choll- asant y nefoedd. Collodd Adda ei garictor, a chollodd Baradwys. Mae yn y byd yma am- rywiaeth dideríýn braidd rhwng dynion a'u gilydd ; ond pan awn i gyffiniau y byd tragy- wyddol. colla pob gwahaniaeth ond dau—y dyn da, a'r dyn drwg. Gwnaiff angau y bren- in a'r cardotyn yn ddynion fel eu gilydd—heb fod y naill yn fwy, na'r llali yn llai. Pan awn at orsedd y Barnwr Cyfíawn, " telir i bob un yn ol ei weithred, canys nid oes derbyn wyn- eb ger bron Duw." Aeth y goludog oddiwrth ei fyd da helaethwych bennydd, ac o ganol ei borphor a'i liain main, i uffern; ac aeth y car- j dotyn oddiwrth ei borth i fynwes Abraham, er mai yr ymgeledd olaf gafodd oedd cael llyfu ei gornwydydd gan gŵn y gŵr goludog. Carictor fydd pwnc mawr y farn ddiweddaf hefyd. " Bum glaf, ac ya ngharchar, ac ym