Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

The Postage on tiie Cyfaill when sent sìngly, or to different adùresses, ís six cenls per qliarter ; but in pactages of four °r more copies, sent to one address, the postage is only six cents a year, to be paid in advance. "DARLLENA, OOFIA, YSTY A Welsh Newspapee. 1 Issüed Semi-Monthly. j" Edited by Wm. Bowlands, Utica, N. Y. | Peice Two Dollahs a Y,eab. Rhif. 333.] MAI 15, 1865. [Cyf. XXVIII. CYNNWYSIAD:. Gwreiddiol a Detholedig.—Caethwasiaeth—yr Affri- caniaid........................................... 145 Yr Adamant yn cael ei lifianu.................■..... 1*7 Dangosgwyrthiddo..........................•' ... 1*8 Y camfeddiant a'r felldith.......................... 1*9 Beth yw Gwirionedd ?.............................. 150 Newydd-deb a Chyneflndra.........................151 Barddoniaeth.—LlineUau ar fedd fy nhad............. 152 Gwely Angau...................................... 152 Jlyrddin Wyllt..................................... 152 I'r Llywydd Johnson...............................152 Holiadaü ac Atebion.—Gofyniadau.................. • 153 Y Cymry tn America. — Caredigrwydd Cymdeithasfa Llantrisant, Morganwg.......................... 153 Priodwyd......................................... 153 Coflantau a Marwolaethau....................... 153-6 Crynodeb o Newyddion y Byd. — americanaidd.—Y Bhyfel...........................................iffl Cyefredinol. — Diwedd Booth, llofrudd y Llywydd— Cyfranogwyr yn y llofruddiaeth—Y Llywodraeth yn lleihau ei thraul—Ffoedigaeth Jeff. Davis-Y new- yddion diweddar o'r wlad hon yn Btrrop—Yr Abolis- ioniaid a'r Gwrthryfelwyr - Diweddarach yn nghylch Jeff. Davis—Cyhoeddiad pwysig.................. 157-8 Manion............................................ 158 Hanesiaeth Bellenig,—Llythyr oddiwrth ein Goheb- ydd Sefydlog....................................... ìsg Cyflwyniad Tysteb y Parch. B. Jones, Llanfair......159 Brawdlysoedd Cymru.............................. 159 Pla yn Ewssia...................................... 159 Marwolaeth y Parch. W. Eowlands (Gwilym Lleyn) 153 Marwolaethau..................................... TS9 Bwrdd x Golygydd.—Gyrru ar ol Jeff. Davis, &c, &c.. ìeo CAETHWASIAETH—YR AFFRICANIAID. AraUh a ddarllenwyd i gynulleidfa y T. C. yn Utica, dydá lau, Ebrill 20fed, gan y Golygydd. G ída golwg ar Gaethwasiaeth ddynol yn gyffredinol, gallwn sylwi yn mlaenaf, nad yw mewn un modd ynbertbynoli sefyllfawreiddiol dynolryw. "Gwnaeth Duw o un gwaed, bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar."— Act. 17 : 26. Gan hyny, trais ar iawnderan dynolryw ydyw, yn mhob oes, ac yn mhob gwlad. Djgir dynion i'r sefyllfa ytna yn gyffredin trwy oruchaflaeth arnynt yn gyntefig, a chadarnheir eu llyffetheiriau trwy allu ac awdurdod y gorchfygwyr. Ar yr egwyddor o " Y trechaf treis- ied, a'r gwanaf gwaedded." Deallodd y gorchfyg- wyr mewn rhyfel yn foreu, ei fod yn fwy gwasan- aethgar i'w hunangais, arbed y carcharorion a gym- erent raewn rhyfel, a'u gwneyd yn weision, na'u lladd yn y fan. Ac felly, hj^d y gallent, darostyng- ent hwy a'u heppil i galedwaith, fel ychain a cheff- ylau ; yn hollol dd'iystyr o'u hiawnderau dynol, fei brodyr a chwiorydd o'r un teulu, ac yn disgyn yn wreiddiol o'r un tad a mam. 2. Wrth Gaethwasiaeth yr ydym yn deall yr hawl annibynol ac anammodol, a hòna ac a gymer y naill ddyn ar y llall, yr un modd a phe b'ai anifail. Pa bryd y dechreuodd y trais, nis gallwn fod yn ben- derfynol, ond nid yw yn annhebyg nad oedd mewn bod cyn y Dylif, gan y cawn yn hanes Abraham grybwylliad am braidd bob math o gaethwasiaeth a fodolai mewn oesoedd diweddarach, Meddiannai Abraham lawer iawn o gaethion ; yn wir, nid oes le i amheu nad caethion oedd yr holl "hyfforddus weis- ion" hyny, "a anesid yn ei dŷ ef," sef y " deunaw a thri chant," y rhai a "arfogodd" i ymlid ar ol y pump brenin a gymerasent Lot ei nai, ei gyfoeth, a'i deu- lu, ac i'w hachub. Yr oedd gan y Patriarch hybarch weision wedi eu geni yn ei dŷ, sef hiliogaeth yr holl gaethion ereill