Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. RHA.GFYB, 1S6E Rhifyíi 312. 8!ratí|<rîFittŷ ŵt* PREG-ETH XËT "LLWYDDIANT WRTH ORSEDD GRÀS." •: G-J.D—weddio yn yr yspryd G-'ân."—Rnus Mam a mammaeth pob rhyw ddyledswydd ag sydd dderbyuiol a chymeradwy gaa Dduw ýw yr Yspryd Glâo. Y breninesau a'r empresau o ddoniau achymhwysderau yr Yspryd, heb yr Yspryd ei hun, nid yw eu plaat hwy oad bas- tardiaid. Y tywysog a gafodd flâs ar iaeth ei fammaeth, er ei wisgo â'r jewels, yr adduruiad- au, a'r prydferbhwch mwyaf hardd-wych, mae ef ya lleí'ain er hyny i gyd am laeth bron y fammaeth. Felly mae y sawl a dderbyniodd yr Yspryd Glân : fel nad oes neb yn hiraethu ac yn chwennychu yr Yspryd ond ag sydd mewn mesur wedi derbyn yr Yspryd. Gras a gais ras : cadwedigol ras a gais gadwedigol ras. Ond peidiwch a chamsynied, mae pawb a'i cais am ryw ras, ac yn derbyn rhyw ras, o herwydd trugaredd a gras mawr yw i ddyn gael ei gadw rhag bod yn feddwyn, yn lleidr, yn fwrddrwr, &c, ac felly cael ei gadw rhag ei grogi, ac yntau â'i holl duedd a'i elfen wrth natur at bob drwg. Balaam a geisiodd ras i íarw o farwolaeth y cyfiawn, ond nid i fyw bywyd y cyfiawn. Ped fuasai Duw yn ei ateb, y rhoddai iddo ras i iÿw bywyd y cyfiawn, dy- wedasai Balaam, cadw.yna ef eto : fel St. Awstin, a ofnodd y caniatâi Duw ras iddo, er ei fod yn gweddio am dano, (ac a'i derbyniodd wedi hyny.) Twyll a chelwydd sydd gan bawb heb yr Yspryd Glân : " Od oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef."—Rhuf. viii. í). Nid oes ond naill ai Yspryd y gwir- ìonedd neu yspryd y cyfeiliorni, tad y celwydd, gan bob dyn ; " ac ni ddichon neb ddywedyd 23 yr Arglwydd Iesu, eithr trwy yr Yspryd Glân.'T Ond fe ddichon.pob dyn enwi y gair : fe ddi- chon parot, ond ei ddysgu, ei enwi. Nid gwell yw dywediad pawb sydd heb yr Yspryd Glân,. Ond y neb y mae yr Yspryd Glân ganddynt^ mae ef yn cynorthwyo eu gwendid. Sylwch7 nid yw ef yn dywedyd ei fod yn cynorthwyo ein duwiol ddymuniadau a'n daioni; ond ein gwendidau : o herwydd nid oes ynom ni ddim da yn trigo. Nid alìwn ddim cymaint a medd- wl un meddwl da ; ac " ni wyddom ni beth a weddiom megys y dylem : eithr y mae yr Ys- pryd yn erfyn trosom ni âg ocheneidiau an- rhaethadwy," ac yn cynorthwyo ein gwendid- au. Ni chaiff ef ddim daioni ynom ni (ond » roddo ef ei huuan) i'w gynorthwyo, o hefwydüi díafol yw dyn, Duw yw Duw ; uffern yw dya,. nefoedd yw Duw ; marwolaeth yw dyn, bywyd' yw Duw : ac y mae yr Yspryd Glân yn cyu^ - orthwyo y credadyn i lefain, Abba Dad, ac i ddywedyd yr Arglwydd Iesu ; îe, yn ei gan- fod ef yn ei Dduwdod, a'i briodoliaethau, a'i swyddau cyfryngol: ac i hyderu arno am bob • peth er iachawdwriaeth. Fe ddywedodd Crisfc wrth ei ddysgyblion,. "Myfi a âf, ac a barotoaf le i chwi— yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfanau—nis gadawaf' chwi yn amddifad—myfi a ddanfonaf yc Ys- pryd Glân atoch, ac ynoch y bydd efö ya cT?ö'. gywydd." Felly, yr hwn y mae Mab Duw yn parotoi trigfan iddo yn y nefoedd fry, y mae Yspryd Duw yn ei barotoi ef i'r drigfan hono : a'r hwn ni chaiff ei ddwyn i Yspryd Duw yn y byd hwn, ni chaiff ei ddwyn i nefoedd Duw yn y byd a ddaw. Y neb sydd heb yr Yspryd Glân ganddo, y mae ef yn amddifad, bydded ganddo beth bynag arall; (ond am y rhai sydd yn derbyn yr Ys- pryd, meddaf, nis gadawaf chwi yn amddií'aid) a'r rhai oll sydd yn amddifaid o'r Yspryd, pau