Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. HYDREF, 1863. ítliifyii 310. %xmI\qUxí, Ŵt. PREGETH X. •• CYSÜR I'R CLAF." "Yr Iesu, p m welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod effelly yn iiir o amser bellach, a ddywedodd wrtho, A f'yoì (1) dy wneuthur yn ìach?"—Ioan v. 6,&c. Nid arbeâodd yr IuMewon i osod allan glod a moliant Jerusalem, yn nghyda phob peth a berthynai iddi hyd y medrent; eithr am y liyn hwn, sef Bethesda, ni soniasant fawr. Pa7m ? Mae yn bosibl mai hyn oedd eu rheswm, sef am eu bod yn cymeryd y pwll hwn yn ddaro garriad o ddyfodiad y Messiah ; am hyny, a hwy yn gwadu ei ddyfodiad ef, a gelasant rin- weddau Bethesda, yr hwn oedd ddaroganiad am dano. Josephus a'i galwai Stagnûm Solo- monis, Llyn Salomon. Yr oedd ganddo lawer o lynoedd, megys y dywed Ecolesiasticus, pen. ìi. 6, eithr hon oedd y benaf, megys yspytty (hospital) wrth gefn y deml; i ddangos nad oes gan y Cristion angbenus un atteg arail yn eì fywyd i'w gynnal ef, ond cefn eì Dduw. Ar ei ysgwyddau y dygodd yr lesu eì ddafad ad- ref. Mae cefn neu ysgwyddau yn arwyddocâu y rhanau cryfaf o'r corff, i arwyddocâu diogel- Wch y saint a'u cadernid. Mae digonoldeb o nerth a gallu yn Nghrist i gynnal pechaduriaid truain : gwel Esa. xl. 10, 11, "Wele'r Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha drosto : wele ei wobr gydag ef, a'i waith o'i flaen. Fel bugail y portha efe ei hraidd ; â'i fraich y casgl ei ŵyn, ac a'u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mammogiaid." Os gwnacth Duw gymaint a'i fys, ag y g0i-fu *r ddewiniaid yr Aipht waeddi allan, " Bys öuw jW hyn," Exod. viü. 19, pa beth a wna 19 efe â'i alluog fraich, 'ie, hollalluog fraich ? Oddiwrth hyn y gelwir ef, " Y llew o Iwyth Juda—Corn iachawdwriaeth," Luc. i. 69. " Y Duw cadarn," Esa. ix. 6. " Gwaredwr cryf,"" Jer. i. 34. "'TJn cryfach nag ef," Luc xi. 2-2. Cymer galon, gredadyn gwan, y mae dy gym- horth wedi ei osod ar un cadarn ; nid oes achos i ti ofni; ynddo ef y cai sefyll, y cai ymladd, ac y cai orchfygu: ti a elli bob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn dy nerthu.—Phíl. iv. 13,. Deall yn mhellach, "Ar ei ysgwyddau ei hun," nid arall. Mae breninoedd y ddaiar yn gosod eu beichiau eu hunain ar ysgwyddau ereiil: felly y gwnai Moses, Exod. xviii. 25, ond efe. nid ymddiried dy faich i arall, ond arno ei hun* ac os gwna efe arall yn offeryn i ti, efe a'th gyf'yd di a'th offeryn ar ei ysgwyddau ei hun. cyn y galloch sefyll yn ngwyneb temtasiynau cymaint. 2. Yn adn. 4 y dywedir, " Ac angel oedd ar amserau yu disgyn i'r llyn, ac yn cynhyrfu j dwfr." Wrth gyffwrdd â'r dwfr, efe a'i cyf-. oethogai â'r fath rinwedd pwerus, fel yr iachâi bob clefyd ac afíechyd. Mae y dwfr hwu ya dala allan yn rhagorol y fath iechyd y mae y saint yn ei fwynhau yn y Defoedd. Dafn o ddwfr a ewyllysiai Deifes gael .yn uffern; pe buasai yn cael hyny o'r nef, cymaint fuasai ei rinwedd ag y gallasai ddiffoddi íragywyddolí ffiamau uffern. Nid allwn roddi amcan ar y daioni sydd yn deilliaw i ddynolryw trwy weinidogaeth ang- eìion. Oh ! cydnabyddwn yr Arglwydd ; can- ys efe a orchymynodd iddynt, Psalm xci. 11, 12, ar eu dwylaw, nid ar eu cefn, i arwyddo dy fod yn faich iddynt ; eithr ar eu dwylaw, â'u hwynebau at dy wyneb di; fel mammaeth yn cario ei phlentyn sugno. Nid aml y mae yr Ysgrythyr yn coffâu am. adfyd y rhai cyfiawn ar y ddaiar, nad yw hi hefyd yn coffâu am anfonîad angelion o'r nef- oedd i'w dyddanu a'u gwareîu : Dan. yi. 22,