Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfi-ol XXVI. AWST, 1863. íUiifyii 308. PREGETH VIII. 'LLAETH YSPRYDOL." "Fel rhai bychain newydd eni, chwennychwch ddi- dwyll laeth y gair, i'el y cynyddoch trwyddo ef.—1 Pedr ü. 2. MAE'r ysgrythyr hon yn gynghor difrifol i an- og yr Iuddewon credadwy i gynyddu mewn fiydd a phob grasnsau ereill, a'r moddion trwy ba rai y derbynir tyfiant a chynydd yn Nuw, ywy bywiol bregethiad o airy gwirionedd: am hyny y mae yr apostol yn ein cymhell i sych- edu ac i hiraethu am air Duw, yr hwn yw ym- borth a lluniaeth yr enaid, fel y mae plant bychain yn crio am laeth eu mamau i'w magu a'u cadw yn fyw. Maer yr Ysgrythyr yn cry- bwyll am ddau fath o enedigaeth : un enedig- aeth sydd gnawdol ac anianol, sef trwy ein dyfodiad o'r Adda cyntaf, o ba un y darfu gwreiddiol bechodau, fel gwenwyn neidr, daenu ei hun ar ein traws. Yr ail enedigaeth sydd iiefol ac ysprydol, yr hon sydd trwy yr ail Adda (yr hwn yw Iesu Grist) yn peri íras a santeiddrwydd dyfu ac impio ynom. Yn yr enedigaeth ddiweddaf hon, mae Duw yn Dad i'n hennill ni; mae yr eglwys ei briod ef, yn fam i'n hymddwyn ni; a'r hâd, â pha un meg- ys ag yn hail-enir, yw gair Duw ; a'r mam- ruaethod i'n magu a'n maethu, yw gweinidog ìon yr efengyl; a'r bronau ì sugno o honynt, yw bronau yr efengyí, o ba rai y daw allan laeth didwyll, fel y gwiria y testyn. Ceisiwn, trwy gymhorth Duw, ddala ystyriol sylw ar y Pum' peth nodedig a dardd yn naturiol o gol- fenau gwahanredol y testyn hwn : I. Sylwn ar y gynneddf sydd raid fod yn ^hawb a ddymunent wellâd a chynydd trwy air Duw, sef bod/<tf rhai bychain newyddeni. j 15 II. Nodwn y weithred briodol i blant bych- ain, sef chwennych. III. Ystyriwn y peth sydd i'w ddymuno, sef llaethy gair. IV. Marcwn pa fath laeth sydd raid ei chwennych, sef îlaeth didwyll. V. Marcwn i ba ddyben a defnydd y dylenr ni chwennych didwyll laeth y gair, sef fel y gallom gynyddu. Mi a geisiaf eglurhau ychydig ar bob un o'r pynciau hyn, fel y canlyn : Ac yn benaf, am y gynneddf, sef fel plant bychain newydd eni. Ní a wyddom fod plant bychain yn ganmoladwy am eu symldra a'u diniweidrwydd ; felly y mae yn rhaid i ninau fod, pwy bynag ydym, ag sydd yn chwennycb cael budd a llesâd yn ysgol Crist, a derbyB goleuni a dyddanweh trwy bregethiad y gair : medd ein Hiachawdwr, Marc x. 14—"Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi." Nid oes neb yn addas i gael dysgeidiaeth Crist, hyd oni byddo wedi ei ail-ffurfío a'i newid fel dyn bach : Pg, xxv. 14, medd Dafydd—"Dirgelwch yr Argl- wydd sydd gyd a'r rhai a'i hofaant ef," i ar - wyddocâu na addef Duw fod un enaid diadgen- edledig, yn gwybod mai dirgelwch yw. Am y rhai a chwennychant gael Crist yn Athraw iddynt i ddadguddio ei feddwl, rhaid dihatru eu pechodau, a'n glanhau ; canys ni chaiff doethineb orphwys niewn enaid halogedíg, nac mewn calon wedi ei difwyno â phechod. Pel nas erys Satan ond mewn tŷ wedi ei ysgubo yn lân oddiwrth dduwioldeb, felly nìs trig Ys- pryd Duw ond mewn tŷ wedi ei ysgubo a'i lanhau oddiwrth annuwioldeb : canys ni thy- wallt Duw win newydd mewn hen gostrelau.— Mat. ix. 17. Oni fỳnẁn galonau newyddion, nac edrychwn am fendithion newyddíon. Tru- enus yw cyflwr yr luddewon o ran ea hang- rhediniaetb; maent beunydd yn darlien yr Ysgrytbyrau i gael gweled Crist, eithr yn ofer.