Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXVI. MEHEFIN, 1863. Rhify» 306. ®rEeí|0ìraHt ftt. PREG-ETH VI. LLAIS Y DURTUR. "Wcle, yr wyf yn sefyîl wrth y drws, acyti curo," &c. —Dai. iii. 20. Wele, yw y gair cyntaf yn y testyn, ac nid y lleiaf mewn arwyddocâd. Seren neu fys-llaw yw, ag sydd yn cyfeirio at ryw fater rhagorol. Pe'i nodir ef yn yr Ysgrythyrau i lawer dyben: 1. I ddeffi-o ein ffydd: " Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw eflmanuel."—Esa. vii. 14. 2. I ddeffro ein gobaith : " Wele, yr wyf yn dyfod ar frys ; a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef."—Dat. xxii. 12. 3. I ddeffro ein cariad : "Wele. pa fath gar- iad a roes y Tad arnom, fel y'ngelwid yn feib- ion i Dduw."—1 Ioan iii. 1. 4. I ddeffro ein hofn : " Wele, y mae efe yn âyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef," &c.-Dat. i. 7. 5. I ddeffro ein gorfoledd: " Wele, yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr,"&c—Luc ii. 10. 6. I ddeffro ein diolchgarwch : " Wele, holl Weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Argl- wydd."—Psalm cxxxiv. 1. 7. I ddeffro^ ein tosturi: "Wele, a oes y fath ofid a'm gofid i ?"—Galar. i. 12., 8. I'n deffro i sylwi ar ardderchawgrwydd pethau ; megys yma, lle gwelir rhyfeddodau : sef bod Dnw yr holl ogoniant yn dyfod at ddyn, yr hwn sydd yn wael oll; bod dyn, cadechyn brwnt, afian, yn cael ei wneyd yn^deml i Dduw, yr hwn sydd oll yn santaidd. Pa bellder fu rhwng Duw a dyn? îe, pa fath anghydfod ? ìe, Pa soriant? Ond 0! hapus undod! bod y I 11 ' ddau yn cael eu dwyn dan yr un gronglwyd i'r un bwrdd : rhyfedd yw yn ein golwg ni! cymhwys yw gosod uwch ei ben y gair, Wele ! yr hwn sydd o arwyddocâd pwysfawr. Os yd- yw y seren hon uwch ben y drws, y mae'r Iesu oddi fewn; y mae pendefigion oddi fewn, pa le bynag y mae hwn yn cadw y drws. Nid oes lle tynu yn drafrwysg ffrwythau y baradwys hono, lle y mae'r cerub hwn yn cadẃ y ffordd. Os bydd Wele wedi ei ysgrifenu ar y blwch, byddwch sicr fod yr enaint sydd ynddo yn werthfawr. Mae pethau mawrion yn canlyn pan fyddo Wele yn myned o'r blaen. Felly yma, y mae y Duw mawr yn crymu ei nefoedd, ac yn dis- gyn at feibion dynion ; nid wedi ei arfogi â tharanau, na'i wisgo â mawredd, a thywyllwch yn dyfod o'i amgylch, fel at yr Israeliaid ar fynydd Sinai, nac fel y daeth ef i'r cysegr :__ Psalm lxviii. 25, " A'r cantorion o'r blaen a'r cerddorion ar ol: yn eu mysg yr oedd y llânc- esau yn canu tympanau." Golwg hardd a fuasai hono i bob llycad eithr dyfod y mae efe yn forma pauperis, fel cardotyn, gan fegian elusen er mwyn Duw. Nid yw yn tori ein teiau, ond sefyll wrth ein drysau. Ei anadl a rwygai byrth uffern, barau heiyrn a faluriai yn llwch. Dyma amynedd a gostyngeiddrwydd hyd at ryfeddod, ei fod yn sejyll wrth y drws. Pob gair sydd ryfeddol ? 1. Fì. Digon fuasai pe na buasai ond angel, ceidwad i ryw fonach ; neu un o gôr santaidd y prophwydi, neu y lleiaf o'r seraphiaid asgell* og fry ; eithr Fi, "Tywysog taagnefedd," Bren- in y gogoniont, Arglwydd y nefoedd a'r ddai- ar. 2. Sefyll, nid eistedd mewn breninoi gadair, na glynu wrth gìustog esmwyth ; eithr sefytt, ì ddangos fy mharodrwydd i ddyfod i mewn, a'm hamynedd i aros allan. 3. Wríh y drws, nid yn y neuadd, lle mae