Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•'.,.'■', Y CYFAILL. Cyfrol XXXIII. AWST, 1870. Rhify-n 403. ^rtoeiîiiüL LLEDAENIAD G WTBODAETH 0 DDUW YS NHEEFN MADDEUANT. PREGETH, GAN Y PARCH. R. EDWAIîDS, WYDDGRUG, G. C. (Parhad o tu dal. 205.) "Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyB, Aduabyddwch yr Aeglwttdd ; o herwydd hwynt hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd; oblegid mi a faddeuaf eu hanwir- edd, a"u pechod ni chofiaf mwyach." —Jer. 31. 34. III. HYD NES Y DEL I-iBEN YR AMSER HYF- RYD A ADDEWIR- YMA, GOFYNIR l'R RHAI OLL SYDD YN ADWAEN YR ARGLWYDD EU HüNAIN DDYSGU " BOB UN EI GYMYDOG, A PHOB UN EI FRAWD, GAN DD*YWEDYD, Ad- NABYDDWCH YR ARGLWYDD." Mae y gair mwyacli yma,—" Ac ni ddysg- ant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd"—yn dangos y dysgwylir wrth bob rheswm y gwnant y gwaith hyd hyny. Nid J meddwl ydyw, mae yn sicr, na fydd un math o ddysgu na phregethu yn yr ysbaid dedwydd yr addewir am dano; oblegid y mae angen a galwad ar y rhai a gawsant adnab- yddiaeth achubol o Dduw i ddilyn ei adnab- od; ac y mae yn ddiamheu na bydd saint y mil blynyddoedd wedi eu codi uwchlaw ang- enrhaid i ymarfer â moddion cynyddu mewn gras a gwybodaeth, ac i fyned rhagddynt at berffeithrwydd. Ond ni bydd eisiau, fel y mae yn awr, ddysgu yn barhaus egwyddor- ion dechreuad ymadroddion Duw. Pan y Uawn gyfiawnir yr addewid hon, bydd yn anhawdd, os nid yn anmhosibl, cael neb o herwydd anwybodaeth, anystyriaeth, ac an- &ghrediniaeth, yn dywyll am y Duw a'u gwnaeth; a chan hyny ni bydd eisiau yr un- rajw ymdrechiadau ag sydd reidiol yn bre- senol i geisio cael dynion adref at, ac i ddir- nadu rhywfaint am y pethau a berthynant i'w heddwch. Ond, yn awr, llawer yw y rhai nad oes ganddynt wybodaeth am Dduw; ac y mae y geiriau yn nechreu y testyn yn arwyddo yn y modd egluraf y rhaid^fod y rhai a gawsant adnabyddiaeth rasol o'r Ar- glwydd eu hunain yn awyddus a llafurus am gael y rhai sydd eto yn ddyeithr iddo i'w ad- nabod, ac yn enwedig eu ceraint a'u cydnab- od, a phawb a fyddo yn agos atynt. Amlwg yw mai prif foddion addysg efeng- ylaidd yw pregethiad yr Arglwydd Iesu. "Yr Hwn yr ydym ni yn ei bregethu," medd Paul, " gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn yn mhob doethineb, fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu." Dyma osodiad arbenig yr Unig Ddoeth Dduw; ac os oes rhywrai yn edrych yn ddiystyr ar y moddion yma, fe fyn Duw barchu ei osodiad ei hun. "Fe welodd Duw yn dda trwy ffol- ineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu." Y mae yn ymddangos yn ngolwg rhai yn beth rhyfedd na buasai yr angel, wedi dyfod i lawr o'r nefoedd at Comelius, yn ei gyfar- wyddo ef rhag blaen at Iesu Grist, yr hwn yr oedd efe eto heb wybod am dano fel Messiah. Eithr nid oedd yr angel ar y genadaeth hono ond fel gwas bach yn cyfeirio at was an- rhydeddusach a mwy effeithiol. Y cwbl gau y cenadwr nefol i'w wneyd oedd rhoddi di- rccUon Simon Pedr i Cornelius ; cauys rhaid oedd i Siinon wneyd gwaith efengylwr. A welsoch chwi ddaioni a doethineb y trefniad hwn? dyn o fysg ei gyd-ddynion,Oymro o ganol G-ymry, brawd yn mhlith ei frodyr, cymydog gyda ei gymydogion, wedi ei gyfodi gan Dduw i ddywedyd wrthynt Sabbath ar ol Sabbath, Adnabyddwch yr Arglwydd ! canys pa Dduw sydd fel efe yn maddeu anwiredd ? Yr Iesu mawr, Pen yr Eglwys, a fedyddio bregethwyr Cymru y dyddiau hyn â'i Ys-