Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXXIII. GORPHENAF, 1870. Rliif^'ii 402. LLEDAENIAD GWYBODAETH 0 DDUW YN NHREFN MADDEUANT. PREGETH, GAN Y PARCH. R. EDWAEDS, WYDDGRUG, G. C. " Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gau ddywedyd. Adnabyddwch yr Ar.GLwyDD ; o herwydd hwynt hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, med'd yr Árgìwydd"; oblegid mi u faddeuaf eu hanwir- edd, a'u pechod ni choflaf mwyach."- Jeii. 31. 'ài. Yr ydym yn cael aüadroddiad o'r adnod hon, a'r tair adnod flaenorol, gyda pheth amryw- iad geiriau, yn yr wythfed benod o'r Epistol at yr Hebreaid, lle eu cymwysir at amserau y testament newydd, ac y gwneir defnydd o honynt i osod allan dra rhagoriaeth goruch- wyliaeth yr efengyl ar yr hen oruchwyliaeth. Ceir ynddynt grynodeb gwerthfawr o fen- dithion y cyfamod gras a wneir à chredinwyr yn Ngîirist Iesu. Yr oedd y gyfraith a rodd- wyd trwy Moses yn awdurdodol a manwl yn gofyn ufudd-dod, ond nid oedd hi yn gallu estyn i bechadur ewyllys a thuedd at ufudd- hau; eithr yma, yn y cyfamod newydd, mae yr Arglwydd yn addaw, " Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrif- enaf yn eu calonau hwynt." Hi a gaift" fod, nid yn eu dwylaw ac o flaen eu llygaid yn unig, ond yn anian yn eu calonau ; mwy na'i hysgrifenu iddynt, dyma hi yn cael ei hys- grifenu ynddynt, fel nad rdlant lai na'i chadw, gan y bydd megys yn rhan o honynt hwy eu hunain. Yn y gyfraith, yr oedd yr Arglwydd yn cael ei osod allan yn benaf fel Duw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd ei throseddwyr; ac nis gallasai hyd yn nod y trefniadau aberthol dan y gyfraith ddileu pechodau. Adgoffa pechodau oedd yno, ac nid eu tynu ymaith. Ond yn y testyn wele Dduw, yr un gosodwr cyfraith mawr, yn sicrhau gyda golwg ar amserau yr efengyl, y rhoddai efe yn helaeth a chyffredinol adnab- yddiaeth brofiadol o hono ei hun fel Duw yn maddeu anwiredd. " Ac ni ddysgant mwy- ach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd.'' Nid y meithriniad anmherffaith a chyfyng yn ngwybodaeth Duw ag oedd gan eglwys yr hen destament a fydd mwyach, ond bydd yn oleuni llawer eglurach ei ansawdd ac ëang- ach ei ddylanwad. "O herwydd hwynt-hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o hon- ynt, a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd." Ac nis gallant lai na'm hadwaen mewn gwir- ionedd, medd Duwr, gan yr amlygaf fy nghalon faddeugar iddynt: " Oblegid nii a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechodni chofiaf mwyach." Mae yr addewid arddercliog hon wedi ei chyflawni mewn rhan yn llwyddiant yr ef- engyl yn oesau boreuaf Cristionogaeth, pan yr oedd Duw yn eglurhau arogledd ei wy- bodaeth trwy ei weinidogion cymwys yn mhob lle. Ac y mae hi yn cael ei chyflawni fwy-fwy yn barhaus yn ein dyddiau ni fel y mae goleuni yr ef engyl yn ymledu. Ond pan wrandawom yn astud ar swn y geiriau, 'Hwynt- hwy oll, o'r lleiaf o honjrnt hyd y rnwyaf o- honynt. a'm hadnabyddant, medd yr Ar- glwydd.' a phan y trown oddiwrthynt i ed- rych ar wledydd y ddaiar, ac yn wir ar ein gwlad ein hunain, mae yn rhy amlwg fod cyflawniad mawr a thrwyadl yr addewid werthfawr hon hyd yn hyn yn mhell ar ol. Mae hi yu edrych yn mlaen i'r un tymor ded- wydd ag y prophwydodd Esaias am dano: " Y ddaiar fydd llawn o wobodaeth yr' Ar- glwydd, megys y mae'r dyfroedd yn toi y môr." Ni a nodwn, er ein haddysg a'n hadeilad- adaeth, dri gosodiad oddiwrth y testyn. I. Yn nhrefn maddeuant, ac YN X