Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyfrol XXXIII. MEHEÍfllSr, ÌST'O. Rliifyn 401, ^rfotiniûl. DINTSTE AO ADFEEIAD DÎTST. " "O Israel, ti a'th ddinystriaist|dy hun; ond ynof n y inae dy gymorth.—•IIosea 13. 9. ... <.„X'.J! TüA chodiad haul, ar fin cwr dwyreiniol Môr y Canoldir, y gorwedda llain o dir sydd wedi bod yn ganol-bwnc sylw Duw, an<reiion, cyfchreuliaid a dynion, yn mhob oes, cr's tua phedair mil o flyneddau bellach. Mae' y rhandir hwn o'r ddaiar wedi ei wisgo â chy- segrolrwydd a mawredd a barant i'r meddyl- gar a'r ystyriol synu a rhyfeddu wrth ddar- llen ei hanes cystal ag ymweled ag ef. " Lleithig traed " yr Hollalluog ydy w. Ys- tafell dangosiad cyfrinachau yr Ior ydyw. Preswylfan penodol etholedig yr Arglwydd ydyw. Dyrna wlud Canaan—Etifeddiaeth neillduol o roddiad Duw i Israel, ei was. Tua y gogledd y gorweddai rhandir y llwyth en- wng hwnw, Ephraim, yr hwn a Iwyddai yn hynod tra yr ymgadwodd o fewn cylch gos- tyngeiddrwydd, ac ymddibyniad gwylaiâd ar Dduw ei dadau. Hanai Joshua enwog, ar- weinydd Israel dros yr Iorddonen, a daros- tyngydd y Canaaneaid o'r llwyth hwn. O'i amser ef, enillodd Ephraim awdurdod, a nerth, a phwysigrwydd mawr yn y gogledd- barth. Eithr pan ddaeth Jeroboam, yr Eph- raimiad, yn frenin ar Israel, sefydlodd eilun- addoliaeth yn y wlad, yr hyn " a wnaeth i Israel bechu." Felly Ahab, hefyd, ei clyn- ydd. O dan arweiniad a Uywodraethiad dyn- ion o gymeriad Jeroboam ac Ahab-dynion heilchion a rhyfygus dynion ya dyrchafu eu sodlau yn erbyn yr Hollalluog, yr Hwn a amddiffynodd, a waredodd, ac a ofalodd am ei bobl, Israel, fel pe buasent ganwyll ei lyg- aid—dynion a was^arent y fath rwysg a hun- anoldeb, ac uchafiaeth, a phe buasai llyw- odraethiad y greadigaeth wrth eu harch; an- nghofiodd Israel yr holl waredigaethau, a'r ymwelü.dau, a'r darpariaethau a dderbynias- ent o law Duw yn yr Aipht, y môr, yr anial- wch, a Gwlad yr addewid. Onid ydyw yn beth rhyfedd fod dyn o'r fath gymeriad ag y gall annghofio ymweliad- au mor uniongyrchol, a gwaredigaethau mor ryfeddol o eiddo yr Arglwydd ag a dderbyn- iodd yr Israeliaid yn yr Aipht,ac wedi hyny ? Eto dyna y ffaith ! Ond, ffaifch ydyw a ddy- lai lenwi dyn â gaiar, a'i ddarostwng i bres- wylio llwch ffostyngeiddrwydd ac edifeirwch. Canys annghofio Duw gan ddyn sydd yn gwneyd dyn yn dduw iddo ei hun; annghof- io gwaredigaethau Duw sydd yn dirymu y teimlad o rwymedigaeth i fod yn dcìiolchgar i Dduw am danynt; annghofio ei berthynas foesol a Duw sydd yn darostwng dyn, yn fu- an, i addoli ei waith ei hun—îe, i addoli eî liun ; ac addoli ei hun. neu ei waith, ydyw angau dyn ; oblegid fel hyn y dywed yr Ar- glwydd : "Ond pan bechodd gyda Baal y bu farẁ." Wele genedl Israel, er cymaint a wnaeth yr " Unig wir Dduw " i amlygu ei hun iddi, yn ei holl briodoliaethau, trwy ryfeddodau a dadguddiedigaethau; trwy gymwynasgarwch a haelioni; trwy Ragluniaeth a Gras; i'e, wel-í y genedl hon—yr hon a welodd Dduw yn ngwyrthian rhyfedcíol yr Aipht.yn ngwar- edigaeth amserol y Môr Coch, yn symudiad arvreiniol y golofn, yn y creigiau tân yn rhoddi dwfr oer, yn yr wybren las yn rhoddi bara, yn yr afon gref yn troi yn ei hol, yn narostyngiad gelynion cawraidd, ac yn ei nodded a'i amddiffyn, dan bob amgjdchiad; wele y genedl 7ion, ar ol y cwbl, yn casglu ei nietcloedd, ei haur a'i harian yn nghyd, ae yn eu taflu, yn ddirwgnach, i'r " crefftwyr" cyvvTain i'w toddi, a'u ffurfio ar ìun anifeil-