Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlviii.] EHAGFYE, 1885. [Ehif. 588. ARWEINIOL. Y CENEDLAETHAÜ YN MYNED, A'R DDAEAR YN AROS. GAN Y PARCH. ROGER EDWARDS, YR WYDDGBUG, G. C. " Un genedlaeth a ä ymaith, a chenedlaeth arall a ddaw; ond y ddaear a saif bvth "— Pbegethwr i. 4. J ' Yr ydym yn y llyfr hwn yn cael ein han- rhegu â "geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerusalem." Y mae ein sylw fel hyn yn cael ei alw at rywbeth rhyfedd a gwerthfawr: brenin mawreddog yn bregeth- wr difrifol, yn cyfnewid y deyrnwialen am y llyfr, yn disgyn o'i orsedd ac yn sefyll yn y pwlpud; yno i bregethu i blant dynion wagder y byd presenol, f eí y byddo iddynt redeg oddiwrth oferedd y creadur at holl- ddigonedd y Creawdwr. Dangos mai ofer i ddynolryw geisio dedwyddwch mewn un- peth na phobpeth daearol y mae yr adnod a gymerwn yn destyn i'n hysgrif hon. Wele bob cenedlaeth o ddynion yn dechreu ac yn diweddu ar y ddaear yr un fath; dyna hwy yn olynol yn dyfod iddi ac yn myned ym- aith o honi, a hithau yn dal i weini ar y naill ar ol y llall, ac f elly hyd y diwedd. Nid i aros arni y ganwyd neb o honynt, ond i'w theithio am fyr dymor. Dau gyfnod mawr amser i ni ydyw, " Amser i eni, ac amser i farw." Na sefydlwn ein gobaith, gan hyny, mewn daear, da, na dyn, ond trown ein hwynebau at y Duw byw am fendithion ys- brydol a thragy wyddol. Yr hyn a gyflwynir yma i'n sylw yw, an- sefydlogrwydd dynion ar y ddaear, ac mewn cyferbyniad i hyny, sefydlogrwydd y ddaeàr ei hun. Dyma wirionedd cyffredinol am ddynol- ryw, o ddyddiau Adda a Noah hyd yr awr hon, ac o'r pryd hwn hyd y dydd y clywir yr angel mawr yn croch-waeddi na bydd amser mwyach: "Un genedlaeth a ä ym- aith, a chenedlaeth arall a ddaw." Gállwn nodi, wrth fyned heibio, ein bod yn cael yma amlygiad o allu a doethineb Duw fel Brenin mawr yr holl ddaear. Oddi- wrth ei oruwchreolaeth ef y mae, fod y náill genedlaeth o ddynion yn olynu y llall yn rheolaidd a digoll. Er boreuddydd amser, y mae dyn yn mhob tymor yn marw, a dyn yn mhob tymor ar gael. Mae miliynau ar filiynau o'r hiliogaeth ddynol wedi myned ymaith o oes i oes, ac eto nid yw eu lle i'w weled yn wag. Yr oedd y genedigaethau trwy yr oesoedd, ar y cyfan, yn cyfateb i'r marwolaethau; ac onidê buasai y ddaear er ys talm fel trigfa dynion wedi ei diboblogi, neu ynte wedi ei gorlenwi. Os gwelid ar amserau ryw un cwr o'r byd wedi myned yn lled anghyfanedd, yr oedd ar gyfer hyny wledydd a pharthau eraill yn myned yn fwy- f wy Uuosog. Er pan osodwyd dyn ar y ddae- ar, ni bu hi erioed heb lafurwyr i'w thrin. " Pryd hau a chyhauaf," medd Duw ar ol y dylif, "ri phaid mwy holl ddyddiau y ddae- ar;" ac felly nid yw yr hauwr a'r cynauafwr i beidio ychwaith. Os rhaid i ddynion o'r gwasanaeth mwyaf i'w cenedlaeth feirw fel eraill, gwelir eto ddynion yn codi, wedi eù