Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlviii.] MEDI, 1885. [Emr. 585. ARWEINIOL. SYLWEDD PREGETH, A DBADDODWYD GAN Y PABCH. LEWIS EDWABDS, M. A., BALA,* YN NGHYMDEITHASFA CAEBNAB- FON, MEDI llEG, 1845, AC A YSGBIFENWYD WBTH EI GWBANDO GAN MB. ELEAZBB JONES, BETHESDA^ GEB BANGOB, G. C. _______ At y Gyfbaith, AC AT y Dystiolaeth. " At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt."—Esaiah 8: 20. sydd ynom i fyned at y Beibl. Nid oes dim a foddha y diafol yn fwy ynddo namyned dan wraidd ein pareh i Air Duw; a dyna yr unig sicrwydd am ein gwlad, am blant yr ysgol Sabbothol, yn ngwyneb pob cyfeiliorn- adau a ddaw i ymosod arnynt, yw cadw gyda'r gyfraith. I. At y gyfbaith ac at y dystiolaeth, fel YB UNIG DDATGUDDIAD O FEDDWL DUW I DDYN- ION. II. Fel UNIG BEOL ETN FFYDD a'n HYMAB- WEDDIAD. III. Fel unig sylfaen gadabn am wynfyd a chysub yn mhob tballod. i. at y gyfbaith ac at y dystiolaeth fel YB UNIG DDATGUDDIAD O FEDDWL DUW. Y mae genym ni feddwl Duw, a dyma ef o flaen ein llygaid. Yr ydym ni yn cynefino gyda phob peth, onide ni a ryfeddem lawer iawn fod meddwl yr Anfeidrol wedi dod ì'r byd. Peth rhyfedd ydyw fod dynion yn medru trosglwyddo eu meddwl i'w gilydd. Mae hyny yn beth rhyfedd, y ddoethineb roes Duw i greadur i ffurfio geiriau, gwneyd swn, a bod y swn hwnw yn cario meddwl o'rnaill ddyn i'rllall; peth rhyfeddach na hyny yw fod Duw wedi rhoi doethineb i ddyn i roi ei feddwl i lawr ar bapyr. Nid Mae yn debyg fod y ddau air yma, "y gyfraith a'r dystiolaeth," yn cynwys yr oll o'r Datguddiad Dwyfol; cyfraith oddiwrth Dduw, tystiolaeth am Dduw; cyfraith yn dangos drwg pechod, a thystiolaeth am War- edwr oddiwrth bechod. Yn y geiriau hyn mae y prophwyd yn galw y bobl oddiwrth eu traddodiadau at y Beibl—at y gyfraith; a dyna ddymunwn inau wneyd yma heddyw, galw y gynulleidfa i wneyd mwy o ddefn- ydd o'r gyfraith. Pe na bae un prawf arall, mae hyn yn ddigon, i brofi fod rhyw ddrwg gwreiddiol yn nghalon dyn, yr anhawsder * Nid oedd y Parch. Lewis Edwards wedi ei anrhydeddu y pryd hwnw â'r urddeb D. D., fel y gwnaed wedi hyny. Yr oedd yn Athraw yn y Celfyddydau eisoes. Hefyd, yn Ngogledd Cymru y trigianai Mr. Elea- zer Jones ar y pryd. Ymfudodd i America, ac ymsefydlodd yn Middle Granville, N. Y. Yn mhen enyd o amser, etholwyd ef yn ael- od o'r Ddëddfwrfa yn Albany, N. Y., fel yr enillodd yr urddenw, Anrhydeddus {Honor- able) Eleazer Jones. Anfonwyd y bregeth ì ni gan ei frawd, William E. Jones, Ysw., Middle Granville; ac er ei bod wedi ei thra- ddodi er ys deugain mlynedd i'r mis hwn, eto mae yn hynod o gyfaddas i Ddathliad Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol y flwydd- yn hon. Cawsom hi yn llaw-ysgrif wreidd- iol Mr. E. J.— Gol.