Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xlviii.] MEHEFIN, 1885. [Ehif. 582. ARWEINIOL. COSBEDIGAETH DRAGYWYDDOL. GAN Y PABCH. WTLLIAM B. EYANS, GALLIA FÜENACE, JACESON CO., O. " A'r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragywyddol; ond y rhai cyfiawn i fywyd tragywydd- ol.'—Matthew xxv. 46. Yr ydym yn byw mewn oes o aflonydd- wch. Mae lluaws mawr yn cael eu harwain oddiamgylch gan "philosophi agwag-dwyll," ac fel yr Atheniaid hyny yn amser Paul, "nid ydynt yn cymeryd hamdden i ddim ond i ddywedyd, neu i glywed rhyw new- ydd." Ac i foddio yr ysfa yma am bethau newydd a dyeithr, cymerir " new departure " mewn duwinyddiaeth; ac ymffrostia rhai eu bod yn "Bbydd-Feddylwyr," am eu bod yn ddigon rhydd i anghredu ac i wrthod yr hen athrawiaethau a gredid ac a ddysgiâ gan eu tadau. Mae llawer o apostolion yr " advance thoughts " yn ein dyddiau ni, ac hwyrach yn mhlith ein cenedl ni, ac y mae yn rhaid lleddfu yn ddirfawr yr hen athrawiaeth a os- odir allan yn ein testyn, sef, cosbedigaeth dragywyddol yr anedifeiriol. Y mae yr hen syniadau barbaraidd (?) wedi hen fyn- ed o'r ffasiwn, yn ol eu tyb hwy. O bosibl, hefyd, fod dysgawdwyr crefyddol yr oes wedi myned i afael rhyw feddalwch sydd yn andwyol i yni eu hargyhoeddiadau o berthynas i'r pwnc pwysig hwn. Cred- wyf, gan nad pa mor annymunol yw " ystori aruthr " y fuchedd dragywyddol, y dylid rhoi lle cyfartal iddi yn y pwlpud ag y mae yn ei gael yn yr Ysgrythyrau. Nid rhywbeth a weddai yn unig i erwindeb y tadau ydyw pregethu ar y "llid a fydd." Yr oedd yr Athraw mawr ei hun, yr hwn y "tywalltwyd gras ar ei wefusau," yn son yn fynych am y "lle poenus hwnw," ac yn pregethu yn fyn- ych yr athrawiaeth fawr o ddyfodol truenus yr annuwiol, mewn ymadroddion ag oedd- ynt yn daranau mewn nerth. Efe sydd yn son am y "tân anniffoddadwy," "y pryf na bydd marw," y "rhincian danedd;" " mwg eu poenedigaeth yn esgyn i fyny yn oes oes- oedd." "A'r rhai hyn a ant i gosbedigaeth dragywyddol." Sylwn, I. Ab SlCEWYDD Y G0SB SYDD YN ABOS YB anedipeieiol.—" Y rhai hyn a ant i gosbed- igaeth." II. Paehad y gosb.—"Cosbedigaeth dra- gywyddol." I. Y sicewydd y bydd i Dduw gosbi ye an- EDIPEIEIOL. Gellir cael profìon o sicrwydd y gosb oddi- wrth natur llywodraeth foesol Duw, cyfrif- oldeb dyn,, a thystioiaeth datguddiad. Prof- ir y pwnc dan sylw oddiwrth, 1. Natur llywodraeth foesol Duw.—Os nad yw Duw yn cosbi am bechod, nid oes y fath beth yn bod a llywodraeth foesol. Mae y meddylddrych am lywodraeth foesol yn gol- ygu awdurdod Ddwyfol yn cael ei gwein- yddu ar ddeiliaid rhydd trwy gyfrwng deddf, neu ddeddfau. Nid yw yn bosibl i ni syn- ied am lywodraeth heb ddeddf, ac y mae i'r ddeddf hono o angenrheidrwydd wobrau a phenydiau mewn cysylltiad a hi. Ni aliai