Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyt\ xlviii.] MAI, 1885. [Bhif. 581. ARWEINIOL. PREGETH AR NATUR EGLWYS, A DBADDODWYD YN NGHYMANFA EEMSEN, N.. Y., MEHEFIN ÖED, 1884, AE ADEG OBDEINIAD Y BBODYB D. O'BEIEN OWEN, MIDDLE GEANVILLE, N. y.; E G, WILLIAMS, EEMSEN, AC E. BOB- EBTS, GEANVILLE, N. Y., I GYFLAWN WAITH Y WEINIDOGAETH, AC A GYHOEDDIE YN Y CYFATIiIi YN OL PENDEBFYNIAD Y GYMANFA. Gan y Paech. Geobge Lamb. " Chwi yw halen y ddaear___chwi yw goleuni y byd."—Matthew 5 : 13, 14. _ _______________________■ _ii. t________________________j j___________________1_______i„„ tr ._______________________;_:„„ _:_ ì.__ì.___________________„,1,1:1.1, Llawer o amrywiaeth barn sydd yn nghylch y cwestiwn, wrth bwy y llefarwyd y bregeth ar y mynydd yn fwyaf neillduol, a pha rai oeddynt y gwrandawyr y bwriadwyd hi ar eu cyf er ? Barna rhai o'r esbonwyr diweddar- af mai ei ddysgyblion yn unig a gyf erchid gan Gbist—fod y digred i'w gael yn mhlith ei ganlynwyr, fel nad diangenrhaid, hyd yn Dod iddynt hwy, oedd rhai o'r cyfeiriadau llym a geir yn y bregeth; a gwelant gyfeir- iad neillduol at Judas yn y geiriau, "Nid pob un ar sydd yn dywedwyd wrthyf, Ab- glwydd, Abglwydd, a ddaw i inewn i deyrn- as nefoedd;" hefyd, y geiriau yn niwedd y brogeth, " A phob un a'r sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gy- ffelybir i wr ffol"—y rhif unigol bob tro— mor debyg i'r geiriau, "Aco honoch y mae un yn ddiafol," fel y gellir eu hystyried bron yn eiriau prophwydoliaeth. O'r tu arall, ceir y nifer luosocaf o blaid y golygiad, y bwriadodd Obist y bregeth i bawb, gan gyf- eirio yn awr at ei ddysgybüon, a phryd arail at y tyrf aoedd oedd wedi ymgynull i wrando ar un y cìywsant gymaint amdano—yn deb- yg fel y gwneir gan bregethwyr yn gyffred- in, y rhai a gyfeiriant eu gweinidogaeth at bob dosbarth o'u gwrandawyr. Y mae geiriàu ein testyn yn mhlith y rhan- au hyny o'r bregeth a gyfeirir at y dysgybl- ion, y rhai f el gweinidogion ef engyl ei deyrn- as oeddynt mewn modd arbenig i fod yn halen a goleuni, er yn hollol briodol y cym- eriad i eglwys Obist yn mhob cenedlaeth. Gwelir oddiwrth y geiriau hyn fod a fyno y saint—yr eglwys—â'r byd. Syniad llawer o grefyddwyr yw yrhen syniad mynachaidd, am eu bod yn ddidoledig oddiwrth y byd digred, credant mai crefydd ynddynt ydyw cadw mor bell oddiwrtho yn eu holl helynt- ion ag sydd ddichonadwy. Rhoddes Oeist y fwyell wrth wreiddyn y fath syniad cyf- eiliornus yn y geiriau, " Ac ni oleuant gan- wyll a'i dodi dan lestr." Yr eglwys, yn mhob oes, yw cyfrwng dylanwad a datgudd- iad i'r byd. Ni ddyfethir y byd â dyfroedd diluw, heb wneuthur arch Noah yn gyfrwng datguddiad y farn. Ni chelir oddiwrth Ab- raham a Lot fwriadau Duw gyda golwg ar Sodom. Ioan Fedyddiwr (gwr wedi ei an- fon oddiwrth Dduw) a gaiff bregethu teyrn- as nefoedd yn agos; ac î'r dysgyblion ỳr ymddiriedodd Cbist y gwaith o drefnu a phorthi y torfeydd newynog a ddiwallwyd a'r torthaxi haidd a'r pysgod. "Rhoddŵch chwi iddynt beth i'w fwyta." Pan gyfododd