Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAILL. Cyf. xi/vm.] EBRELL, 1885. [Rhtp. 580. ARWEINIOL. GRASLONRWYDD YR ARGLWYDD YN COFIO TRUEINIAID Y DDAEAR. GAN Y PABCH. WTLLIAM HABEISON, NEWBUEGH, O. "Fel hyn y dywed yr Abglwydd : Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw lleithig fy nhraed; mae y ty a adeiledwch i mi ? ac mae y fan y gorphwysaf ? Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr Abglwydd; ond ar hwn yr edrych- af, sef ar y truan a'r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair."—Esaiah 66 :1, 2. Yr un ydyw hanfod crefydd ac addoliad Dtrw bob amser; ond y mae ffurf ac arwedd yr addoliad yn cyfnewid. Un o ffurfiau ar- benig y gwasanaeth yn yr hen amser oedd, " Teirgwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw o honot o flaen yr Abglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe." Y lle a ddewisodd efe oedd Jerusalem; yno yr ad- eiladwyd ty yr Aeglwydd, ac " yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Abglwydd, yn dyst- iolaeth i Israel i folianu enw yr Abglwydd." Yr oedd yr Aeglwydd yn dysgwyl y galon a'r ysbryd yn ei wasanaeth y pryd hwnw, yn ddiamheu; ond y mae yr Apostol, wrth ed- rych ar ffurfiau allanol y gwasanaeth, yn ex gydgrynhoi i un frawddeg, gan ei alw yn " gyfraith gorchymyn cnawdol." Ac yr oedd y ffurf gnawdol oedd ar y gorchymyn dan y gyfraith yn awgrym lled eglur i'r Iuddew fod dirymiad i'r gorchymyn sydd yn myned o'r blaen, o herwydd ei lesgedd a'i afles; ûyoy y w, fod yr offeiriadaeth, a holl wasan- aeth yr oruchwyliaeth o'r blaen, i gael eu synmd oddiar y ffordd, o herwydd eu " heg- wyddorion Uesg a thlodion." Fe wnaeth cyfraith gorchymyn cnawdol ateb amcan ei gosodiad er hyny, sef parotoi y ffordd i or- uchwyliaeth yr Hwn oedd a nerth bywyd annherfynol ganddo, yn amser y diwygiad. Gwrthgiliai yr Iuddew yn aml oddiwrth ffurf y gwasanaeth a osodwyd iddo gan yr Abglwydd. Ond byddai bob amser yn sicr o fyned at gyfundrefn fwy anianol a chnawd- ol na'r un a osodwyd iddo gan yr Ae- glwydd. Ond byddai bob amser yn sicr o fyned at gyfundrefn fwy anianol a chnawd- ol na'r un a roddwyd iddo. A phan y mae yr Aeglwydd eisiau iddo ollwng ei afael mewn cyfraith, yr hon nad oedd ar y goreu ond cysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, ac iddo dderbyn y pethau—derbyn y sylweddol a r tragywydd- ol—dal gafael yn y cysgod y mae ef am wneyd o hyd. Pan ddygodd brenin yr Aipht y tarianau aur o Jerusalem, gwnaeth Reho- boam darianau pres yn eu lle hwynt; ond nid felly mae yr Aeglwydd yn arfer gwneyd a'i bobl—cymeryd ymaith y pres a rhoddi yr aur yn ei le y mae efe. Ac y mae dyn- ion yn ymddwyn yn ffol iawn pan yn cwyno ac yn grwgnach yn erbyn ffyrdd yr Ab- glwydd, pan mae efe yn cymeryd oddiwrth- ynt bethau gwael er mwyn rhoddi pethau gwell iddynt yn eu lle. Dal gafael yn y